fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Mae dydd Gwener 8 Mai yn 2020 yn nodi 75 o flynyddoedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop. Ym 1945, roedd gwyliau cenedlaethol yn nodi diwedd y rhyfel a bu pobl ar draws y wlad yn dathlu.

Bydd dathliadau eleni’n wahanol iawn i’r dathliadau a a gafwyd 75 o flynyddoedd yn ôl. Rydym yn annog pawb i ddathlu gartref ac mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud.

Mae’n amser i chi gydio yn eich pinnau a’ch pensiliau lliw!

Mae Jo Joio yn paratoi i ddathlu Diwrnod VE 75 gyda’i baneri a’i baneri bach – yr unig beth sydd ar goll yw lliw! Mae’n amser i chi fod yn greadigol, felly lawrlwythwch daflen lliwio Diwrnod VE Jo Joio am ddim isod!

daflen lliwio Diwrnod VE Jo Joio

 

Canolfan Dylan Thomas

Treuliodd Dylan Thomas lawer o amser yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer ffilmiau dogfen byw byr a ddarlledwyd i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i godi ysbryd pobl.

Rhwng 1941 a 1945, ysgrifennodd Dylan sgriptiau ar gyfer o leiaf 15 o ffilmiau, naill ar ei ben ei hun neu ar y cyd, ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth, gan gyfeirio atynt fel ei waith ar gyfer y rhyfel.

Ar ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, bydd tîm Canolfan Dylan Thomas yn cyhoeddi blog ar un o’r ffilmiau dogfen a ysgrifennodd Dylan yn ystod y rhyfel ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth, a gynhyrchwyd i hysbysu a chodi calonnau pobl. Bydd negesuon cyfryngau cymdeithasol hefyd ar y pethau eraill wnaeth Dylan ym 1945, ac ar ‘Return Journey’, drama radio Dylan am y Blitz a’i effaith ar gymunedau lleol.

Cadwch lygad ar y tudalennau Facebook a Twitter am ragor o wybodaeth.

Amgueddfa Abertawe

Mae Amgueddfa Abertawe’n defnyddio gwrthrychau yn ei chasgliad i adrodd stori Abertawe, ac i adrodd am y bobl a’r lleoedd sy’n ei gwneud yn gyfoethog o ran diwylliant a hanes.

I goffáu 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth, mae’r amgueddfa wedi llunio sgwrs a chyflwyniad diddorol ar fideo ar y Blitz Tair Noson a’r effaith a gafodd yr Ail Ryfel Byd ar yr ardal.

Bydd yr amgueddfa hefyd yn postio gwybodaeth ddiddorol drwy gydol y dydd, gan gynnwys blog ar safle tanio gynnau’r Mwmbwls.

Dilynwch Amgueddfa Abertawe ar Facebook, Twitter ac Instagram, gan ddefnyddio’r stwnshnodau ##AmgueddfaGartref a #DiwrnodVE75.

Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Bydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn rhannu #DyddGwenerFfilmiau, gan ddefnyddio lluniau o’u casgliadau i edrych ar fywyd yn Abertawe cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd, cyn symud ymlaen i adrodd hanes bywyd yn ystod y rhyfel a’r Blitz Tair Noson. Yna byddant yn troi at ddathliadau stryd diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ac yn cymryd cipolwg ar y broses o ailadeiladu’n dinas ar ôl difrod y rhyfel.

Caiff y ffilm ei rhannu ar ei dudalen Facebook.

Bydd hefyd fanylion am adnodd ar-lein newydd i ysgolion sy’n berthnasol i’r Blitz Tair Noson sydd ar gael ar ei wefan. Mae’r adnodd yn defnyddio lluniau a mapiau o’r casgliadau ac yn galluogi disgyblion i weld y difrod a wynebodd ein dinas yn ystod y tair noson hynny. Gobaith y gwasanaeth yw ehangu’r adnodd hwn dros yr wythnosau nesaf.

Bydd yr Archifau hefyd yn cyhoeddi dau lyfr a gafodd eu cyhoeddi/hailgyhoeddi yn ddiweddar ar eu Siop Ar-Lein. Mae’r llyfr cyntaf,”The Three Nights’ Blitz” yn defnyddio ffynonellau dogfennol cyfoes i adrodd hanes yr hyn a ddigwyddodd dros y tair noson hynny ym mis Chwefror 1941 o’r ddwy ochr, gan ddefnyddio ffynonellau’r Luftwaffe yn ogystal â rhai Prydeinig. Mae’r ail lyfr , “A New and Even Better Abertawe: Rebuilding Swansea, 1941-1961″, yn adrodd hanes y cyfnod yn dilyn dinistriad canol y ddinas a’r ffordd y cafodd Abertawe ei hailadeiladu yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Ac yn olaf, maent wedi cyhoeddi erthygl o’r enw “Lest we forget: The Swansea Cenotaph Roll of Honour, 1939-1945” i nodi 60 o flynyddoedd ers diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn 2005. Caiff ei ailgyhoeddi ar ei wefan ar gyfer y penwythnos. Mae’r erthygl yn canolbwyntio ar fwndel o lythyrau a gyfeiriwyd at Glerc y Dref sy’n ffurfio rhan o’n casgliadau. Mae’r llythyrau’n ceisio dod o hyd i ddinasyddion Abertawe a fu farw ar faes y gad yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er mwyn nodi eu henwau ar y Senotaff. Ysgrifennwyd nifer o’r llythyrau gan deuluoedd y rheini a gollodd eu bywydau, fel arfer gan eu gwragedd neu eu mamau.

Oriel Glynn Vivian

Bydd tîm y Glynn Vivian yn postio o’u sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi rhai ffeithiau diddorol i chi, megis:

  • Ym 1940, croesawodd yr Oriel ei ail filiynfed cwsmer (Maer Abertawe). Byddwn yn dangos y llun grŵp a dynnwyd ar gyfer The Evening Post; mae’n cynnwys yr artist Evan Walters yn sefyll y tu ôl i’r Ôl-lyngesydd Walker-Heneage-Vivian, sef nai Glynn!
  • Ym 1941, cynhaliodd yr Oriel arddangosfa o luniau a chyfarpar yr Awyrlu Brenhinol i helpu i hyrwyddo’r gwasanaeth newydd ac i helpu i geisio ennill y rhyfel yng Ngwlad Belg.
  • Ym 1941, yn dilyn ymweliad Winston Churchill ag Abertawe i weld difrod y blitz tair noson, roedd Mrs Churchill yn edmygu paentiadau William Grant Murray o’r Orsedd ac felly cyflwynwyd copïau iddi fis yn ddiweddarach, fel rhodd gan Abertawe.
  • Ym 1941, yn ystod blitz tair noson Abertawe, gollyngwyd cyfres o fomiau tân ar yr oriel. Ni ffrwydrodd un ohonon nhw ond gallwch weld y marciau llosgi ar y llawr pren hyd heddiw os ydych yn edrych yn ofalus.
  • Ym 1943, agorwyd Swyddfa Wybodaeth yn yr Oriel i gynorthwyo’r dynion a’r menywod a fu’n gwasanaethu tramor ac ymwelwyr ag Abertawe o dramor hefyd.

Facebook   Twitter

Llyfrgelloedd Abertawe

Ddydd Gwener 8 Mai, bydd cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram Llyfrgelloedd Abertawe yn llawn syniadau am sut y gallwch chi ddathlu a nodi 75 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop gartref.

Byddant yn rhannu syniadau crefft ac mae’r Rheolwr Llyfrgell, Sarah o Frynhyfryd, wedi creu fideo addysgol sy’n dangos i chi sut i greu eich awyren Diwrnod VE eich hun gan ddefnyddio rhywbeth y mae mawr alw amdano yn ystod y cyfnod hwn – papur tŷ bach!

Bydd Tîm Astudiaethau Lleol y llyfrgell yn postio penawdau, tudalennau blaen a straeon a gyhoeddwyd yn y papurau newydd yn y dyddiau cyn y diwrnod mawr ac ar y diwrnod hefyd. Byddant hefyd yn postio lluniau o ddathliadau diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn Abertawe, sy’n cynnwys enghreifftiau o ddathliadau yn y stryd y bydd pobl yn eu hadnabod heddiw.  Byddent wrth eu bod yn clywed gennych chi ac yn  clywed am eich atgofion chi hefyd.

Byddant yn ffrydio straeon a cherddi o “The Book of Hopes”, a ddetholwyd ac a olygwyd gan Kathryn Rundell a bydd tîm y llyfrgell yn darllen o’r llyfr ar ei thudalen Facebook o 2pm ymlaen.

Casgliad o straeon, cerddi a darluniau gan dros 100 o awduron yw ‘The Book of Hopes”, llyfr sydd wedi’i gyflwyno i feddygon, nyrsys, gofalwyr, porthorion, glanhawyr a phawb arall sy’n gweithio mewn ysbytai ar hyn o bryd. Mae’r thema o ddod o hyd i obaith yn y lleoedd mwyaf annisgwyl, gyda’r bobl fwyaf annisgwyl, yn rhywbeth a fyddai wedi cael ei deimlo’n ôl yn 1945 hefyd.

Ewch i dudalen Facebook Llyfrgelloedd Abertawe lle gallwch ddod o hyd i lawer o syniadau am grefftau y gallwch eu gwneud gartref i baratoi ar gyfer y dathliadau.  Bydd gweithgareddau amser rhigwm hefyd.

Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cymru

Mae tîm NERS (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff) Abertawe wedi bod yn gweithio’n galed ers i gyfnod y cyfyngiadau symud ddechrau, gan ddarparu cefnogaeth a chyswllt ar gyfer nifer o bobl ddiamddiffyn; cyfeirio pobl at wasanaethau, sicrhau bod gweithgareddau corffol yn parhau, datblygu adnoddau, anfon rhaglenni i’w cwblhau gartref, cynnal te partïon rhithiwr a sefydlu system gefnogi ‘cyfeillio’ i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach ac i amddiffyn y GIG. I goffáu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, bydd y tîm yn gweithio gyda chyfranogwyr 75+ oed i gorws “We’ll Meet Again”.

Yn ogystal, bydd Ioan Valentine Evans, sy’n 99 oed ac yn un o gyfranogwyr hynaf NERS yng Nghymru ac yn mynychu’r dosbarthiadau’n rheolaidd yn cael ei recordio a bydd yn ymddangos mewn fideo.

24 oed yn unig oedd Ioan ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn danforwr gyda’r Llynges Frenhinol o 1942 a chyn hynny bu’n ddyn tân gwirfoddol (gweithiwr allweddol) yn Abertawe a bu’n byw yng nghanol dinas Abertawe yn ystod y Blitz.

Yn y fideo, bydd hefyd yn cwblhau’r ymarferion corff y mae fel arfer yn eu gwneud yn ei sesiynau NERS ac yn pwysleisio pwysigrwydd cadw’n iach ac yn gadarnhaol gartref er mwyn achub bywydau.