Er bod y gwasanaeth ar gau o hyd, mae’r tîm wedi llunio ystod o weithgareddau i chi eu mwynhau gan gynnwys awgrymiadau a chynghorion ar hanes teulu, eitemau diddorol o’u casgliad, pytiau o ffilmiau a chwis hyd yn oed.
Mae gan ymchwilwyr y gwasanaeth fynediad at y Catalog Ar-lein o hyd ac maent ar gael os oes unrhyw ymholiadau gennych. Mae’r holl fanylion ar gael ar eu gwefan yn www.abertawe.gov.uk/archifaugorllewinmorgannwg. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys cyfres o arddangosfeydd a thaflenni ar-lein a all fod yn ddefnyddiol ac o ddiddordeb i chi.
Felly, dros y gwyliau haf hwn, beth am ymchwilio i’ch achres neu ddarganfod rhagor o ffeithiau diddorol am le rydych chi’n byw?