fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Croeso i Amgueddfa Abertawe #gartref

Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru. Agorodd ei drysau am y tro cyntaf ym 1841, ac fe’i disgrifiwyd gan Dylan Thomas fel ‘yr amgueddfa a ddylai fod mewn amgueddfa’.

Mummy

Er bod yr amgueddfa ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig Coronafeirws COVID-19, mae Amgueddfa Abertawe’n cyhoeddi cyfres o flogiau gan ddefnyddio gwrthrychau o’r casgliadau i adrodd straeon diddorol am bobl a lleoedd Abertawe.

Sefydlwyd Amgueddfa Abertawe gan Sefydliad Brenhinol De Cymru i ddarparu lleoliad priodol i ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o wyddoniaeth, technoleg a hanes. Cyngor Abertawe sy’n ei rheoli bellach, ac mae’r amgueddfa’n parhau â’r genhadaeth honno hyd heddiw.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol:

Sicrhewch eich bod yn dilyn Joio Bae Abertawe ac Amgueddfa Abertawe ar gyfryngau cymdeithasol i ddilyn ein #StraeonAbertawe ac i ddarganfod rhagor am hanes Abertawe o’ch cartref (#AmgueddfeyddGartref).

Facebook

Twitter

Instagram