fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Hwyl a ffitrwydd am ddim yn eich parc lleol gyda'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Disgwylir i’r haf hwn fod yn un gwych yn Abertawe, ac rydym yn ffodus iawn bod gennym dros 50 o barciau a gerddi hardd, gyda llawer ohonynt ar garreg ein drws.

Os ydych am eu mwynhau gyda theulu a ffrindiau ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored, mae llawer o syniadau hwyl gan ein Tîm Chwaraeon ac Iechyd ar gael yn www.facebook.com/SportAndHealthSwansea. Neu, os ydych am fynd am dro hamddenol i fwynhau’r blodau lliwgar, gallwch ddod o hyd i barc yma www.abertawe.gov.uk/ParciauAiY

Mae gennym hefyd lwybrau gwastad/hygyrch a dyfarnwyd statws y Faner Werdd i bedwar o’n parciau – meddyliwch am Barc Victoria, Parc Cwmdoncyn a Brynmill yng nghanol y ddinas neu Barc Llewellyn i’r dwyrain.

Yn wir, mae rhywbeth i bawb ym mharciau a gerddi hyfryd Abertawe, a heb anghofio prom Abertawe!

Fel y gallwch weld o’r fideo, mae llawer o hwyl i’w fwynhau yn ein parciau hardd. Gallwch archwilio’r coetir ym Mharc Singleton fel William a gwneud eich cwrs rhwystrau eich hun, cerdded gyda’ch ci (mae Winston a Preedie yn dwlu ar Barc Ravenhill), ymarfer eich sgiliau pêl-droed fel ein harbenigwr, Adam, neidio mewn pyllau dŵr fel Charlie, profi’r llwybr pwmpio ym Melin Mynach fel Will (pa mor anhygoel yw e!) neu jyglo gyda mes fel Ania, a ddysgodd ei sgil gydag afalau a thrwy rolio hosanau mewn pêl!

Beth bynnag rydych yn ei ddewis, byddem yn dwlu ar weld eich lluniau a’ch fideos. Sicrhewch eich bod yn ein tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r stwnshnod #JoioAbertawe a mwynhewch haf llawn hwyl!

Gweithgareddau’r haf Us Girls

Merched 8 i 14 oed, pob sesiwn am ddim

Mae Us Girls yn dychwelyd ar gyfer gwyliau’r haf! Bydd y Tîm Chwaraeon ac Iechyd yn cyflwyno sesiynau dawns egnïol, llawn hwyl i chi gyda hyfforddwyr cymwysedig, a’r cyfan drwy ddilyn canllawiau’r Llywodraeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus wrth ddychwelyd i weithgarwch corfforol.

Mae’r holl sesiynau’n ddibynnol ar y tywydd, cliciwch yma i ddarganfod mwy a chadw’ch lle!

Parklives

Mae Parklives yn ôl ar gyfer yr haf, ac yn darparu gweithgareddau am ddim mewn parciau lleol i’n hannog i ddod yn ffit ac yn heini yn eu mannau gwyrdd lleol!

Ymunwch ag arweinwyr cyfeillgar y sesiynau am amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys cylchedu i’r teulu, ymestyn ac ymlacio, gweithgareddau i’r teulu a’r blynyddoedd cynnar a mwy.

Mae’r holl sesiynau am ddim, ond rhaid cadw lle o flaen llaw, cliciwch yma i ddarganfod mwy a chadw’ch lle!

Bydd y tîm yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn eich cadw’n gryf eich cymhelliant wrth i chi aros gartref, boed hynny drwy adeiladu eich sesiwn cylchedu eich hun, creu eich heriau gemau eich hun neu drwy ddarganfod manylion am eu mentrau megis y Gist Gymunedol.

Byddant hefyd yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol gan Bartneriaid Cenedlaethol allweddol megis Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Cyrff Llywodraethu Chwaraeon, Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid ynghyd â chlybiau chwaraeon proffesiynol.

Rhennir manylion gan bartneriaid lleol hanfodol ag enw da megis Chwaraeon BME Abertawe a chlybiau chwaraeon lleol wrth iddynt barhau i hyrwyddo ac annog gweithgareddau, gan gynnwys sesiynau hyfforddi rhithwir gartref.

Cymerwch gip ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon ac Iechyd a sicrhewch eich bod yn mwynhau’r holl weithgareddau ‘Gartref’ a gynhelir gan ein tîm Chwaraeon ac Iechyd.

Dilynwch Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe ar gyfryngau cymdeithasol

Cymerwch gip ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon ac Iechyd a sicrhewch eich bod yn mwynhau’r holl weithgareddau ‘Gartref’ a gynhelir gan ein tîm Chwaraeon ac Iechyd.

Facebook

Twitter