fbpx
Syniadau am Anrhegion Nadolig
Gweld Mwy

Mae Sgwâr y Castell yn lle yng nghanol y ddinas y mae pob un ohonon ni wedi cerdded drwyddo, gan aros efallai i gael llymaid o goffi neu i fwyta’n brechdanau, ond faint ohonon ni sy’n ymwybodol o’i hanes hir?

Crëwyd y safle a welwn heddiw ym 1994 fel rhan o brosiect adnewyddu trefol i ddarparu lle dinesig sy’n gweithredu fel canolbwynt a man cwrdd yng nghanol y ddinas. Fodd bynnag, mae’r man hwn wedi bod yn lleoliad ar gyfer nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol.

Yn y llwybr byr hwn, byddwn yn edrych o gwmpas Sgwâr y Castell gan archwilio’r placiau sydd wrth fynedfa’r sgwâr sy’n dangos chwech o’r digwyddiadau hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r safle, ac sy’n seiliedig ar luniau a dynnwyd gan blant ysgolion cynradd Abertawe ac a baratowyd gan yr artist Helen Sinclair.

Llwybr

  • Dechreuwch wrth y fynedfa sydd agosaf i siop ddillad Zara ac ar yr ochr chwith fe welwch ein plac cyntaf sy’n dangos ymosodiadau gan y Cymry ar Gastell Abertawe, 1116-1237 OC. Nevern O’Neill, 10 oed, greodd y dyluniad ar gyfer y plac.
  • Wrth groesi’r fynedfa ar yr ochr dde, fe welwch ein hail blac, sy’n darlunio Ymchwiliad Brenhinol 1306, a ddyluniwyd gan Lydia Hughes, Richard Cole, Jakir Miah ac Yung Sung, sydd i gyd yn 10 oed.
  • Ar ôl cerdded o gwmpas y sgwâr, heibio McDonald’s, fe ddown ni at fynedfa arall i’r sgwâr ac mae ein trydydd plac ar y chwith. Jonathan Edwards, 9 oed, ddarluniodd y Brenin Edward II, 1326.
  • Wrth gerdded ar draws y fynedfa, fe welwch ein pedwerydd plac gan Rebecca Riley, 11 oed, sy’n dangos John Wesley ym 1760.
  • Wrth barhau o gwmpas perimedr y sgwâr, fe ddown ni at y pumed plac gan Zac Osterland, 9 oed, sy’n portreadu Dylan Thomas a thafarn y Three Lamps yn y 1930au.
  • Mae’r chweched plac sef yr un olaf ar ochr arall y fynedfa hon. Fe’i dyluniwyd gan Rachel Williams, 10 oed ac mae’n darlunio’r Blitz Tair Noson ym 1941.
  • Rydym wedi dod i ddiwedd y daith fer hon, ond beth am eistedd ac ailystyried y lle hanesyddol hwn? Darllenwch ymlaen i gael hanes byr o’r safle, y digwyddiadau allweddol a ddigwyddodd yma a rhai o’r enwogion a’r adeiladau sy’n gysylltiedig â’r ardal hon.

Hanes

Sgwâr y Castell cyn y 12fed ganrif

Ychydig iawn a wyddom am y cyfnod hwn. Fodd bynnag, roedd y tir yn codi’n sydyn o’r ardal wrth y Strand cyn disgyn eto’n fwy graddol i’r ardal i’r gorllewin o Worcester Place. Roedd safle Sgwâr y Castell bryd hynny ychydig yn uwch nag y mae heddiw.

Sgwâr y Castell yn y Cyfnod Canoloesol

Lleolwyd yr amddiffynfa bren gyntaf yn Worcester Place, yr ardal y tu ôl i Pizza Express, ar y tir uchel gerllaw cwrs gwreiddiol afon Tawe (daeth yr afon yma yn Ddoc y Gogledd yn ddiweddarach, a gafodd ei lenwi ar ôl yr Ail Ryfel Byd). Ailadeiladwyd y castell pren mewn carreg ar ddiwedd y 12fed ganrif, ac mae castell carreg arall “Y Castell Newydd” yn dyddio o’r 13eg ganrif pan ehangwyd waliau allanol y castell i gynnwys yr ardal sydd bellach yn safle Sgwâr y Castell. Yr unig beth sy’n aros heddiw yw rhan o’r castell newydd a sawl wal gynnal ger y Strand.


Ymosodiadau gan y Cymry ar Gastell Abertawe

Erbyn y 12fed ganrif, roedd Sgwâr y Castell yn rhan o anheddiad Normanaidd, ychydig y tu allan i balis y castell. Byddai wedi’i orchuddio yn ôl pob tebyg gan leiniau tir bwrdais lle byddai cymuned fach o grefftwyr Eingl-Normanaidd a masnachwyr yn byw, a allai gilio i’r castell pe bai bygythiad.

Yn y 13eg ganrif, ehangwyd y castell a daeth Sgwâr y Castell yn ward allanol iddo, ac fe’i hamddiffynnwyd gan wal gerrig.

Ymosododd y Cymry brodorol ar yr ardal droeon, ac yn fwyaf nodedig yn:

  • 1116, gan Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr
  • 1150 gan Rhys a Maredudd, meibion Gruffydd ap Rhys
  • 1189 ac 1193 gan yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffydd) o Ddeheubarth
  • 1212 ac 1217 gan Rhys Gryg
  • 1215 gan Rhys Ifanc
  • 1257 gan Llewellyn ap Gruffydd a Maredudd ap Rhys
  • 1287 gan Rhys ap Maredudd.

 

Yr Ymchwiliad Brenhinol yng Nghastell Abertawe

Yng Nghastell Abertawe ym mis Chwefror 1306, cynhaliwyd llys ymchwiliad pwysig gan dri barnwr i weithgareddau Arglwydd Gŵyr, William de Breos III. Yn y 1290au, roedd sawl anghydfod wedi bod rhwng de Breos ac Esgob Llandaf a’r Brenin, ond o 1300, cafwyd cyfres o gwynion hefyd gan denantiaid Gŵyr ynghylch camlywodraeth Arglwyddiaeth Gŵyr. Roedd y cwynion hyn yn rhai mor ddifrifol fe’u codwyd mewn sawl senedd olynol. Roedd de Breos wedi gweithredu fel ‘lleidr-farwn’, gan orthrymu’i denantiaid drwy eu carcharu ar gam, gorfodi benthyciadau arian, gwrthod cyfiawnder priodol iddynt yn ei lysoedd a’u gorfodi i roi’r gorau i gamau cyfreithiol yn ei erbyn. Cyhoeddodd William de Breos ddwy siarter a oedd yn mynd i’r afael â’r achwynion hyn ac yn rhoi breintiau. Mae Siarter Abertawe 1306 yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes Abertawe yn yr Oesoedd Canol ac mae’n cynnwys y cyfeiriad cynharaf at gloddio am lo yn yr ardal.

 

Y Brenin Edward II ac Abertawe

Ym 1326, daeth Castell Abertawe yn ganolfan ar gyfer gweinyddiaeth frenhinol Edward II am gyfnod. Yn hydref y flwyddyn honno, ffodd Edward i dde Cymru am ei fod yn ceisio osgoi cael ei ddal gan ei frenhines, Isabella, yr oedd wedi ymddieithrio oddi wrthi, a’i chariad Roger Mortimer. Erbyn dechrau mis Tachwedd, roedd yng Nghastell-nedd, ac yn erfyn ar ddynion Gŵyr i ddod i’w gynorthwyo, ac anfonwyd ei Siawnsri a’i Drysorlys i Gastell Abertawe er diogelwch. Fodd bynnag, cafodd ei ddal gan ei elynion a’i anfon i Gastell Berkeley lle cafodd ei ladd.  Ysbeiliwyd y cofnodion a’r trysorau a adawyd ar ôl yng Nghastell Abertawe wedi hyn gan y bobl leol, a chollwyd £13,000 – swm enfawr o arian. Cynhaliwyd cyfres o archwiliadau brenhinol wedi hyn yn Abertawe i ddarganfod y bobl euog, ond ni chafodd y rhan fwyaf o’r trysor ei adennill.

Y Plas

Bu’r Plas neu’r Maenordy yn nodwedd bwysig yn yr ardal am ganrifoedd lawer. Dechreuwyd ei adeiladu ym 1383, pan ddechreuodd John de Horton ddatblygu llain o dir yr oedd wedi dod i’w feddiant yn ward allanol y castell. Ehangwyd yr adeilad dros sawl canrif a’i gwblhau gan ei ddisgynnydd, Syr Matthew Cradock, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Bu farw Syr Matthew yn y Plas ym 1531, a disgynnodd y tŷ drwy ei ferch i’r teulu Herbert a fu’n berchen arno tan 1740, pan ddaeth i feddiant Calvert Richard Jones. Bu fyw yno tan ei farwolaeth ym 1781. Dymchwelwyd y Plas ym 1840 pan ddarganfuwyd sawl darn arian o gyfnod teyrnasiad Edward II yno.

Neuadd y Dref Duduraidd

Adeilad carreg deulawr oedd hwn a ddechreuwyd ym 1585, â’r prif lety ar yr llawr cyntaf. Roedd Neuadd y Dref/Ystafell Lys ar y pen gogleddol ac Ystafell yr Uchel Reithgor ar y pen deheuol. Defnyddiwyd y llawr gwaelod at amrywiol ddibenion: ystafelloedd storio, carchar a thŷ pwyso. Roedd y cyffion y tu allan i’w brif fynedfa. Yr adeilad hwn oedd y canolfan llywodraeth a chyfiawnder lleol nes iddo beidio â bod yn Neuadd y Dref ym 1829, pan agorwyd Neuadd y dref newydd (Canolfan Dylan Thomas erbyn hyn) yn Somerset Place.

Yr Arfdy Powdwr Gwn

Yn ystod y Rhyfel Cartref, ymosodwyd ar Abertawe, ardal a gefnogai’r brenin yn wreiddiol, gan rymoedd y Senedd, a’i chipio ym 1615. I baratoi ar gyfer amddiffyniad y dref, ym 1642, gwariodd y gorfforaeth £15 16s 9c ar adeiladu arfdy powdwr gwn ar lawr gwaelod Neuadd y Dref.

Y Gwaith Gwydr

Ym 1684, prydlesodd Robert Wilmott o Gaerloyw ran o’r castell newydd gan Ddug Beaufort a sefydlodd waith gwydr yno yr oedd yn ei redeg gyda’i bartner John Man o Abertawe. Mae’r brydles yn cyfeirio at…. ‘that parte of the Castle of Swanzey which hath been lately converted into a Glasse house’. Cynhyrchai boteli’n bennaf a ddefnyddiwyd yn lleol ac allforiwyd symiau mawr ohonynt hefyd i Gorc yn Iwerddon.

 

John Wesley yn Nhŷ’r Plas

Yn ystod ei yrfa, daeth John Wesley, sefydlydd Methodistiaeth, i Abertawe ar sawl achlysur i bregethu, ac roedd ganddo gysylltiad hir â Thŷ’r Plas a’i berchennog, Calvert Richard Jones. Roedd Wesley yn adnabod y Plas yn dda gan iddo ymweld â’r lle ar sawl achlysur ar ôl 1741. Ym 1760, caniataodd Jones iddo bregethu yn libart y Plas.

Y Lladd-dy neu’r Farchnad Gig

Ym 1773, penderfynodd y gorfforaeth sefydlu lladd-dy neu farchnad gig newydd, gan fod stondinau’r cigyddion o gwmpas y castell yn niwsans ac yn berygl i iechyd. Ym 1774, cafwyd Deddf Seneddol a chodwyd y farchnad gig yng ngardd y castell y tu ôl i’r Neuadd y Dref Duduraidd. Oherwydd y safle cyfyng roedd y farchnad yn amhoblogaidd iawn gyda masnachwyr a chwsmeriaid, a bu’n fethiant.

Teml yr Awenau

Mae’r enw’n gyfeiriad barddonol at y Theatr Frenhinol a sefydlwyd yn negawd cyntaf y 19fed ganrif. Bu theatr yno’n gynharach, ond ym 1801 dechreuodd trafodaethau am bosibilrwydd codi theatr newydd ysblennydd a fyddai’n gweddu i statws y dref yn well. Yn fuan wedi hynny, ffurfiwyd cymdeithas Tontin gyda’r bwriad penodol o adeiladu theatr newydd, a dechreuodd y gwaith adeiladu ym misoedd diweddarach 1806 ar safle ar gornel Temple Street a Goat Street, lle mae siop Zara nawr. Agorodd y theatr newydd ar 6 Mehefin 1807. Ei rheolwr cyntaf oedd Andrew Cherry, dramodydd enwog o Drury Lane. Roedd y cwmni yr oedd yn ei redeg yn cynnwys yr actor enwog, Edmund Kean. Un o’r rheolwr diweddarach oedd William McCready, tad yr actor trasiedi enwog, W C McCready. Tua diwedd y 19eg ganrif, daeth y theatr dan bwysau cynyddol o du’r Theatrau Cerdd fel y ffurf fwyaf poblogaidd o adloniant torfol, a dirywiodd cynulleidfaoedd. Fe’i dymchwelwyd ym 1889.

Banc Lloegr

Ym mis Hydref 1826, agorodd Fanc Lloegr gangen ar Temple Street o ganlyniad i lobïo gan ddiwydianwyr lleol. Roedd Caerdydd a Merthyr wedi gwneud cais am y gangen, ond llwyddodd Abertawe i’w chael. Cyfeiriwyd at y banc weithiau fel Banc Morgannwg. Bu’r banc yn masnachu’n llwyddiannus am nifer o flynyddoedd, ond dechreuodd ddirywio yn y 1850au. Fe’i caewyd ym 1859, a throsglwyddwyd ei fusnes i’r gangen ym Mryste.

Yr Orsaf Heddlu

Ym 1836, sefydlwyd Heddlu Bwrdeistref Abertawe ac yn yr un flwyddyn, newidiwyd rhan o Neuadd y Dref yn orsaf heddlu, y gyntaf yn y dref. Yn y 1840au, adeiladwyd gorsaf heddlu newydd ar gornel Temple Street a Goat Street, diolch i’r Prif Gwnstabl William Rees. Bu’n bencadlys yr heddlu tan 1847, pan godwyd gorsaf heddlu newydd yn Tontine Street.

Y Swyddfa Bost Fictoraidd

Ym 1856, dymchwelwyd y Neuadd y Dref Duduraidd er mwyn creu lle i adeiladu prif swyddfa bost yn lle’r un a oedd yn bodoli yn Fisher Street. Agorwyd yr adeilad newydd ym 1858, ac fe’i hadeiladwyd o dywodfaen Pennant yn yr arddull Tuduraidd-Gothig i ddyluniad pensaer o’r enw Bayliss. Ym 1867, darparwyd cloc ar gyfer y tŵr cloc nad oedd ganddo gloc hyd yma. Peidiodd yr adeilad â bod yn swyddfa bost ym 1900, ac fe’i defnyddiwyd yn bennaf wedi hynny ar gyfer swyddfeydd a gweisg y cwmni papur newydd lleol. Fe’i difrodwyd gan fomiau tân ym mis Chwefror 1941 a’i dymchwel yn y pen draw ym 1976.

Siop Adrannol Ben Evans

Roedd siop fawr adrannol gyntaf Cymru, Ben Evans & Co, mewn lle blaenllaw ar safle Sgwâr y Castell presennol. Roedd gan Ben Evans, ffermwr o Sir Gâr yn wreiddiol, siop fach ar ran o’r safle yn y 1870au. Yn raddol, prynodd ei gwmni’r rhan fwyaf o’r bloc ac agorwyd y siop enfawr ym 1894. Daeth y siop yn sefydliad a oedd gyfystyr ag Abertawe, ond fe’i dinistriwyd yn ystod y Blitz Tair Noson ym 1941 – colled enfawr i’r ddinas.

 

Dylan Thomas a gwesty’r Three Lamps Hotel

Roedd y Three Lamps, a oedd ar ochr ddeheuol Temple Street ac a ddyddiai o ddechrau’r 19eg ganrif, yn dafarn adnabyddus yn Abertawe, y mae ei henw wedi’i hanfarwoli yng ngweithiau Dylan Thomas, a gyfeiriodd ati mewn dau o’i weithiau. Yn Portrait of the Artist as a Young Dog, cyfarfu’r Dylan ifanc â Mr Farr yno i ddechrau eu taith o dafarn i dafarn, ac mae cymeriad yn Return Journey yn cofio Dylan yn ‘lifting his ikkle elbow in the Three Lamps’.

 

Y Blitz Tair Noson

Roedd Sgwâr y Castell yng nghanol y rhan honno o Abertawe ganolog a ddioddefodd yn ystod y cyrchoedd bomio ar dair noson olynol ar 19, 20 a 21 Chwefror 1941. Chwalwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau yn Sgwâr y Castell yn llwyr, a llawer gan y tanau a ddechreuwyd gan fomiau tân er y dinistriwyd rhai gan ffrwydron ffyrnig. Cyn y cyrchoedd, roedd yr adeiladau a fu’n sefyll yno’n rhai Fictoraidd ac Edwardaidd cain a adlewyrchai gyfoeth Abertawe yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. At ei gilydd, dinistriwyd pedair erw ar ddeg o ganol y dref, lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 409.

Y cyfnod ar ôl y rhyfel

Yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel, cliriwyd ardal Sgwâr y Castell o’r adeiladau a ddifrodwyd gan fomiau a’r llanast, a phenderfynodd y cyngor y dylid ei gadw fel lle cyhoeddus. Agorwyd cynllun o lwybrau a gwelyau blodau addurnol ym mis Mehefin 1953, mewn pryd ar gyfer coroni’r Frenhines Elizabeth II. Mae’r ardal yn parhau heddiw yn un o ardaloedd agored cyhoeddus y ddinas, gyda’i seddi, ffynhonnau a thirlunio sy’n darparu ardal gyfarfod a hamdden bwysig i’r cyhoedd wrth ymyl adfeilion y castell Normanaidd.