Ymunwch â Jo yn ei hymgais i gael cip ar orffennol diwydiannol Cymru, i’r adeg pan oedd 90% o gopr y byd yn cael ei fwyndoddi yn Abertawe.
Byddwn yn edrych yn benodol ar Waith Copr yr Hafod, ac yn gwrando ar straeon pobl am fywyd yn yr adeiladau diwydiannol sydd i’w gweld yn adfeilion heddiw.
Arhosodd Gwaith Copr yr Hafod, a sefydlwyd ym 1810, yn nwylo’r teulu Vivian tan 1924.
Cernywiad oedd ei sylfaenydd, John Vivian. Daeth y mwyn copr i ddechrau o Gernyw, a’i gludo i fyny afon Tawe i lanfeydd y tu ôl i’r gweithfeydd mwyndoddi. Cludwyd glo lleol i lawr yma ar y dramffordd neu’r gamlas. Yn ddiweddarach, daeth y mwyn o Chile ac Awstralia.
Tan oddeutu 1880, roedd Abertawe yn rheoli’r diwydiant mwyndoddi copr, a gwaith copr yr Hafod oedd efallai’r fenter fwyaf a’r fwyaf cyfoes o’i bath yn y byd.
Ceisiwch ddychmygu sut brofiad fyddai gweithio yng ngwaith copr enfawr yr Hafod. Roedd yr amgylchedd yn anhygoel o boeth a swnllyd a’r gwaith yn aml yn beryglus.
Cewch ryw fath o syniad am sut beth oedd bywyd yn y gwaith drwy wrando ar y lleisiau canlynol o’r gorffennol, a gymerwyd gan Brifysgol Abertawe o ffynonellau hanesyddol a’u recordio gan wirfoddolwyr sy’n gweithio ar y safle.
Gallwch ddarganfod rhagor am Waith Copr yr Hafod a gorffennol diwydiannol Abertawe yn y gwefannau canlynol: