fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Crëwyd Glanfa Pocketts gan James Wathen Pockett ym 1867, ac fe’i lleolwyd i’r gogledd o’r fynedfa i Ddoc y De.

James Wathen Pockett oedd ail fab Walter Pockett (1794-1856), a oedd yn brif forwr a masnachwr ym mhorthladd Abertawe. Er ei fod o dras Saesnig (daeth ei rieni o Gaerloyw) roedd cangen Walter o’r teulu wedi bod yn byw yn Abertawe ers 1790. Erbyn 1821 roedd eisoes yn gapten y cwch pysgota “Favourite”, yr oedd yn ei ddefnyddio i fasnachu rhwng Caerloyw ac Abertawe. Ym 1822 priododd ag Elizabeth Luce (1800-1870), merch tafarnwr y “Tiger Tavern” yn y Strand, Abertawe. Roedd y dafarn hon hefyd yn dŷ llety i Pockett – roedd yn aros yno dros nos pan oedd ei longau naill ai’n cael eu llwytho neu eu dadlwytho.

Er ei fod yn dod o deulu cyffredin, byddai Walter Pockett yn dechrau teulu a fyddai’n elwa o gyfran sylweddol o’r llwyddiant a ddaeth i Abertawe yn ystod y chwyldro diwydiannol. Erbyn y 15 Mawrth 1823, datganwyd ym mhapur newydd y Cambrian,
“…he begged respectfully to inform the inhabitants of Swansea and its vicinity, that he has established a Salt Warehouse on the Quay, near Mr. S. Padley’s Deal Yard and hopes that, by rendering a good article at a very reasonable price, to meet and merit their approbation.”

Ni ellir dehongli ‘warws halen’ yn llythrennol fel man storio ar gyfer halen; yn y cyfnod hwnnw, roedd hynny’n golygu warws neu storfa groser. Mae’n ymddangos bod mentrau entrepreneuraidd y teulu Pockett wedi dechrau oherwydd y sylfaenydd, Walter. Yn ogystal â’i warws groser yn y 1820au, roedd ganddo hefyd fusnes cludo nwyddau dros y môr, a oedd yn gweithredu rhwng Abertawe a Chaerloyw erbyn 1840. Defnyddiodd gwch pysgota o’r enw ‘Elizabeth’ (enw ei wraig) i gludo metel (prif allforyn Abertawe bryd hynny) i Loegr, gan ddychwelyd gyda ffrwythau a llysiau. Yn y dyddiau hynny cyn oergelloedd, roedd ffrwythau a llysiau ar gael yn dymhorol yn unig, felly roedd lle ar gael ar gyfer cludo nwyddau y tu allan i’r tymor. Felly, sefydlwyd gwreiddiau cwmni agerlongau Pockett yn y fasnach cludo nwyddau mewn ffordd ddiymhongar iawn. Rhaid bod y cwmni wedi bod yn llwyddiannus o 1840, oherwydd ychwanegodd Walter Pockett y ‘Morfa’ (cwch pysgota), y ‘Carmarthen Packet’ a’r ‘Burncoose’ (sgwner) i’w gwmni llongau gwreiddiol erbyn 1849.

Y llwyddiant cychwynnol hwn gyda’r warws halen a’r busnes cludo nwyddau fyddai’n darparu’r sylfaen gyfalaf er mwyn i’w feibion arallgyfeirio’r busnes yn ddiweddarach i stemars olwyn. Pedwar diwrnod ar ôl y cyhoeddiad y byddai ei warws yn agor ar gyfer busnes (19 Mawrth 1823), roedd ganddo reswm arall i ddathlu, sef genedigaeth ei fab cyntaf (yn y pen draw cafodd 5 mab a 2 ferch).

Enw’r mab cyntaf hwn oedd William (1823-1890), a daeth ef i fod yn brif forwr hefyd – roedd yn berchen ar hanner y “Burncoose”, ac yn y pen draw, daeth yn feistr ar y ‘Prince of Wales’.

Fodd bynnag, yr ail fab, James Wathen Pockett (1826-1880) fyddai’n atgyfnerthu llwyddiant y teulu a’i fudoledd cynyddol drwy ddatblygu Glanfa Pocketts yn ‘Lanfa Steam Packet’. Mae’n rhaid bod ei sgiliau rheoli wedi dod i’r amlwg yn gynnar oherwydd erbyn iddo gyrraedd 20 oed ym 1846, roedd ganddo enw sefydledig fel brocer llongau ac asiant ar Gei Padley (yn gyfleus o agos at lanfa ei dad).

Datblygodd gyrfa James Wathen Pockett fel dyn busnes a pherchennog llongau’n raddol o’r cyfnod hwnnw, ac erbyn 1947 roedd yn gweithio fel asiant ar gyfer y stemar olwyn ‘Lord Beresford’ ac ar gyfer ‘Prince of Wales’ hefyd erbyn 1855. Ym 1856 prynodd y llong ‘Lord Beresford’ yn llwyr a gwnaeth yr un peth gyda’r ‘Prince of Wales’ ym 1857. Yn ystod 1857, roedd gan James Wathen Pockett reolaeth lawn o’r stemars. Gwerthodd ei frawd, Frederick, ei gyfran o’r busnes i James Wathen, gan adael William a Henry Pockett fel gweithwyr. Erbyn iddo droi’n 31 oed, roedd gan James Wathen Pockett enw da fel perchennog agerlongau ac roedd yn dal i dyfu ei fusnes. Ym 1858, ychwanegodd yr agerlong “Henry Southan” i’w lynges gynyddol. Bu farw Walter Pockett ar 24 Hydref 1856 a chyhoeddwyd ysgrif goffa fer amdano ym mhapur newydd y Cambrian ar 31 Hydref:
“On the 24th inst, after a long illness, aged 62 Walter Pockett, Master Mariner, a man much respected by all who knew him.”
Naw mlynedd ar ôl marwolaeth ei dad, ac yn ystod cyfnod llwyddiannus y teulu Pockett (y 1860au), bu’n rhaid i bapur newydd y Cambrian gymryd sylw mwy helaeth o weithgareddau’r teulu Pockett arloesol. Mewn adroddiad dyddiedig 16 Mehefin 1865, cyhoeddodd:
“Mr. J. W. Pockett, the spirited proprietor of the Bristol and Swansea steamboats, anxious to afford every facility for the quick and safe despatch of vessels, has just received and fitted up a steam crane for loading and unloading the steamers… By means of this crane, Mr. Pockett has been enabled to dispense with the costly services of a large body of ‘lumpers’ (dockers) which will soon repay him for the considerable outlay made in the purchase of the steam crane.”
Mae’r ffordd ddigynnwrf y mae’r papur newydd yn trafod y nifer amhenodol o weithwyr truenus a fyddai’n gorfod dibynnu ar drugaredd system Deddf y Tlodion a’r wyrcws yn ein hatgoffa o’r agwedd ddigyfaddawd tuag at fabwysiadu arloesedd mecanyddol yn ystod oes Fictoria.

Erbyn 1867, mae’n rhaid bod busnes James Wathen Pockett wedi cynyddu oherwydd yn ystod misoedd y flwyddyn honno, cofnodwyd cyfres o hysbysebion bach ym mhapur newydd y Cambrian sy’n datgan:
“Increased sailings of J. W. Pockett’s steamers between Swansea and Bristol, a further increase in March 1867.”

Fel y soniwyd yn gynharach, 1867 oedd y flwyddyn pan ailenwyd ardal y lanfa, sydd ychydig yn uwch na’r fynedfa i Ddoc y De, yn Lanfa Pocketts, a phrynwyd y stemar olwyn ‘Velindra’. Yn ogystal â Glanfa Pocketts, roedd lle hefyd ar gael yng nghornel ochr ogleddol Doc y De, ac ar ochr ddwyreiniol “Glanfa Glasgow”.

Yn ystod y cyfnod o un mlynedd ar ddeg ers marwolaeth Walter Pockett, roedd yn amlwg bod ymerodraeth Pockett wedi ehangu’n ofodol yn ogystal ag ehangu’n sylweddol. Fodd bynnag, digwyddodd farwolaeth drasig a fyddai’n dod â chysylltiad y teulu Pockett ag agerlongau i ben. Ar 11 Rhagfyr 1870, collwyd unig fab William Pockett, Walter, ar y môr pan roedd yn ddwy ar hugain oed. Walter Pockett, dim ond William gafodd fab – cafodd James Wathen Pockett dri phlentyn, a phob un ohonynt yn ferched.
Dair blynedd ar ôl marwolaeth mab William ac Emma Pockett, adeiladodd James Wathen Pockett fila drawiadol yn ardal Uplands yn Abertawe – roedd fel pe bai’n nodi ei fod wedi dod yn rhan o gymdeithas Abertawe. Adeiladwyd y tŷ a elwir yn Dŷ Beresford ar dri llain o dir yr oedd James wedi’u prynu’n wreiddiol ym 1854. Bu farw yno ar 18 Ionawr 1880 yn 54 oed, sef oedran cymharol gynnar. Fel arwydd o barch, cafodd ei arch ei gario o Dŷ Beresford gan ei weithwyr i le yn y gladdgell deuluol ym Mynwent y Santes Fair. Roedd hyn yn arwydd nodedig o barch gan fod eglwys y Santes Fair yng nghanol Abertawe, sef dwy filltir o dir uchel Tŷ Beresford.

Parhaodd y cwmni i fasnachu dan y teitl “J. W. Pockett Steamers”, gyda William yn cymryd rheolaeth o’r cwmni. Roedd ysgrif goffa James Wathen Pockett ym phapur newydd y Cambrian yn hirach nag ysgrif goffa ei dad bum mlynedd ar hugain yn gynharach, ac mae’n ddiddorol darllen y manylion cefndir y mae’n eu rhoi:
“Decease of Mr. J. W. Pockett, — we have this week to chronicle the removal from our midst by death of Mr. J. W. Pockett, the well-known proprietor of the fleet of steamers which trade between Swansea, Bristol, Ilfracombe and other places in the Bristol Channel. Mr. Pockett had for some considerable time been confined to his house at Uplands, where he suffered severely from complications of heart-disease, paralysis, and dropsy. He died about four o’clock on Sunday afternoon.

Mr. Pockett was well-known by Bristol Channel traders for the enterprising way in which he managed the steamboat services between the neighbouring ports, and also for the geniality of his manners. His death was comparatively early, he being only 54 years of age. The funeral, which was private, took place yesterday under the supervision of Mr. D. C. Jones, of Castle Square. The coffin was carried out by employees from the house to St. Mary’s Churchyard, and buried in a vault near the west door of the Church. Several old friends of the deceased were present to render the last attentions to his remains.”
Erbyn marwolaeth James Wathen Pockett ym 1880, roedd mwy na thraean o’r 5,366 o longau a oedd wedi defnyddio’r dociau yn y flwyddyn honno’n agerlongau. Daeth yr hyn a ddechreuodd gyda Walter Pockett a’i gwch pysgota “Favourite”, yn cludo llysiau rhwng gorllewin Cymru a de-orllewin Lloegr yn ystod teyrnasiad William IV, i ben ar ddiwedd oes Fictoria gyda’r teulu’n berchen ar lynges hamdden a masnachu fawr, a adwaenir ar hyd a lled Môr Hafren.

Roedd y cwmni’n dal i hysbysebu’r llynges fel ‘J. W. Pockett Steamers’ a chafwyd deng mlynedd lwyddiannus arall. Roedd y degawd hwn, a ddaeth i ben ym 1890, yn nodi cyfnod stiwardiaeth William Pockett o’r llynges agerlongau, a cham olaf ei fodolaeth fel busnes teuluol. Chwe mis ar ôl iddo etifeddu’r busnes oddi wrth James, newidiodd enw’r cwmni i “The Bristol Channel Steam Packet Co., Capt. Wm. Pockett, Rheolwr.” Wrth brynu a gwerthu llongau at ddefnydd y llynges ar ddechrau’r 1880au, cymerodd nifer o forgeisi ac oherwydd ei synnwyr masnachol craff, roedd wedi’u talu i gyd erbyn 1885.

Ar ôl mynd yn sâl mewn gwasanaeth crefyddol fore Sul yn y Santes Fair ar ddiwedd mis Medi 1890, bu farw ar 6 Hydref. Fel arwydd o barch, caeodd fasnachwyr lleol eu caeadau a chododd pob llong yn yr harbwr ei baneri ar ei hanner. Fel holl aelodau gwrywaidd y teulu Pockett, roedd yn dal, ac fe’i claddwyd (yn ôl y sôn) yn un o’r eirch mwyaf a welodd Abertawe. Yn dilyn marwolaeth William, daeth dylanwad y teulu Pockett ar y cwmni i ben. Roedd James Wathen, Henry a Daniel Pockett i gyd wedi marw, ac roedd Frederick ar fin ymddeol. Roedd y ddwy ferch yn briod ac wedi symud i ffwrdd. Gwerthodd Emma, gwraig William, y busnes cyfan yn brydlon am £7,850 ar 16 Rhagfyr 1890, dim ond naw wythnos ar ôl marwolaeth ei gŵr. Prynwyd y cwmni mewn arwerthiant gan Mr Henry Stanley Flinn a Mr George John Wakefield, rheolwr agerlongau a teiliwr masnachol yn eu trefn. Symudwyd Prif Swyddfa’r cwmni i Fryste a daeth Mr Thomas Probert yn rheolwr. O fis Chwefror 1891 gelwir y cwmni’n ‘Pockett’s Bristol Channel Steam Packet Co. Ltd.’

Parhaodd y cwmni’n llwyddiannus nes dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd ei agerlongau eu harchebu ar gyfer gwaith rhyfel. Cymerodd P ac A Campbell gyfrifoldeb dros Lanfa Pockett yn 1920, gan barhau i adael i’r ‘Velocity’ ac ‘Agra’ ddarparu eu masnach cargo hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ymerodraeth agerlongau teulu Pockett bellach yn bodoli fel effemera mewn casgliadau preifat a chyhoeddus yn unig, mewn hen bapurau newydd ac fel enw glanfa ddarfodedig yn Ardal Forwrol Abertawe.