fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | April 30, 2020

Hanes Jack Abertawe (1930-1937)

Achubodd fywydau o ddyfnderoedd oer a pheryglus dociau Abertawe. Fe’i ganed yn arwr. Jack: ci enwocaf a dewraf Abertawe!

Ganed Jack, adargi cot-wastad drygionus, ym 1930. Roedd ei berchennog cyntaf, Mr Davies o Fythynnod Cwmgelli, Glandŵr, yn ei chael hi’n gynyddol anodd i gadw lygad ar y ci bach drygionus. A dweud y gwir, bu’n rhaid iddo gael gwared â’r ci oherwydd ei ymddygiad chwareus, a chafwyd hyd i gartref a chyfaill gydol oes ar ei gyfer gyda Mr William Thomas o Fythynnod Glan yr Afon gerllaw.

Symudodd y ddau i fyw ger Padley’s Yard yn Noc y Gogledd yn Abertawe, lle’r oedd Mr Williams yn gweithio yn y diwydiant cludiant. Roedd Jack yn ofni’r dŵr ond gan eu bod yn byw (ac yn gweithio) ger y môr, penderfynodd Mr Williams daflu’r ci i’r dŵr lle’r oedd nifer o fechgyn yn aros amdano. Ar ôl cael cryn drafferth i ddechrau (ac ar ôl sawl profiad tebyg) llwyddodd Jack i gyfarwyddo â’r dŵr a dysgu i’w garu.

Digwyddodd ei weithred gyntaf o ddewrder ym 1931 pan achubodd fachgen 12 oed (hefyd o’r enw Jack) o ddyfnderoedd y dociau. Roedd y bachgen wedi baglu a chwympo i’r dŵr. Aeth Jack ati’n reddfol i’w achub. Dyma oedd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau o’r fath.

Yn Awst 1931, daeth Jack yn aelod oes anrhydeddus o’r ‘Tail Waggers Club’, rhif 426034; sefydliad nid er elw a oedd yn hybu lles cŵn a’u perchnogion. O hynny ymlaen, ymddangosodd Jack mewn carnifalau, regatas, a digwyddiadau chwaraeon gan gasglu arian at elusennau yn ne Cymru.

Cyflwynwyd nifer o anrhydeddau a gwobrwyon i Jack er mwyn cydnabod ei lwyddiannau, gan gynnwys:

  • 1931 – Coler arian a lledr wedi’i arsgrifio a gyflwynwyd gan bobl Abertawe
  • 1932 – Medal am ddewrder eithafol a gwaith gwerth chweil i’r dref a gyflwynwyd gan Garnifal Abertawe
  • 1934 – Tennyn arian a gyflwynwyd gan Gorfforaeth Abertawe
  • 1935 – Medal arbennig i gŵn sy’n cyfateb i Groes Victoria a gyflwynwyd gan y Gynghrair Genedlaethol Amddiffyn Cŵn
  • 1935 – Gwobr y ‘Daily Mirror’ am Ddewrder
  • 1936 – Gwobr ‘Ci Mwyaf Dewr y Flwyddyn’ y ‘Star’
  • 1936/37 – Aeth Jack i sioe Crufts ym mhresenoldeb y Teulu Brenhinol
  • 1936 – Tancard piwter a enillodd yn Sioe Pencampwriaeth Blackpool

Ym 1933, symudodd Jack a Mr Thomas i westy’r Victoria Hotel, lle daeth Jack yn ffrindiau mawr â mab y perchennog, a aeth gyda Jack ar bob achlysur achub wedi hynny. Erbyn 1934, roedd y ci wedi achub 14 o fywydau.

Ni chafodd llawer o’r rhain eu cofnodi’n swyddogol, ond credir bod Jack wedi achub anifeiliaid yn ogystal â phobl. Ymddeolodd Mr Thomas o’r diwydiant cludiant ym 1936 a symudodd y ddau i Dreboeth. Byddai Jack yn aml yn mynd am dro i’r blaendraeth, siwrnai o dair milltir am nad oedd wedi arfer â bywyd maestrefol. Roedd yn gi egnïol a oedd eisoes wedi cenhedlu nifer o gŵn bach ond yn anffodus, nid oedd yr un ohonynt wedi etifeddu ei ddoniau achub.

Yn anffodus, aeth Jack yn sâl ym 1937. Sylwodd Mr Thomas fod y ci bywiog bellach yn ddi-fynd ac yn ddifywyd, a chadarnhaodd y milfeddyg ei fod wedi’i wenwyno. Bu farw Jack ar 2 Hydref 1937 ar ôl mis o salwch, a achoswyd, yn ôl pob tebyg, gan wenwyn llygod mawr. Roedd cymaint o barch gan y Gynghrair Amddiffyn Cŵn at Jack y cynigiodd wobr o £25 am wybodaeth a fyddai’n arwain at y gwenwynwr, ond yn anffodus ni chafodd neb ei ddal.

Claddwyd Jack yn wreiddiol yng ngardd gefn ei berchennog, ond yng nghyfarfod parciau’r Cyngor yr wythnos honno, trafodwyd  man claddu mwy addas i’r arwr bach, ac ymatebodd y gymuned leol yn frwd i hyn.

Cynhaliwyd claddedigaeth gyhoeddus ar gyfer Jack ar 21 Hydref 1937, ar Bromenâd Abertawe, y tu allan i gaeadle Cofgolofn Rhyfel De Affrica Abertawe, ger cofgolofn y Rhyfel yn erbyn y Boeriaid. Talodd athro lleol am ei arch a chynhigiodd gerflunydd o Abertawe, Mr Cecil Jones, greu cofeb iddo am ddim. Fodd bynnag, roedd casgliad cyhoeddus wedi codi dros £70 a derbyniwyd rhoddion o mor bell i ffwrdd â Chanada a Seland Newydd.

Cymerodd fwy o amser nag a ddisgwyliwyd i’w chreu, ond flwyddyn ar ôl ei farwolaeth, dadorchuddiwyd y gofeb efydd a gwenithfaen Penzance llwyd 6 throedfedd x 3 troedfedd, gan Faer Abertawe ar y pryd.

Bu farw Mr Thomas yn ystod Blitz ym 1941, yn ddigon bodlon y byddai’n ymuno â Jack yn fuan Dinistriwyd gwesty’r Victoria Hotel (hen gartref Jack) yn ystod y cyrchoedd awyr, ac yn eironig, defnyddiwyd y rwbel i lenwi Doc y Gogledd yn y blynyddoedd ar ôl hynny.

Recordiwyd ‘The Ballad of Swansea Jack’ ym 1979 fel teyrnged i’r arwr cïol, ac yn yr un flwyddyn, newidiodd dafarn ar Heol Ystymllwynarth ei enw i ‘The Swansea Jack’.

Yn y blynyddoedd wedi hynny, aeth sïon ar led ynghylch dilysrwydd rhai o achubiadau honedig Jack, ond nid oedd modd amau’r anrhydeddau a’r gwobrau a enillodd.