fbpx
Joio ein hatyniadau awyr agor yr haf!
Gweld Mwy

Adeiladwyd Castell Morris (a elwir hefyd yn Gastell y Graig) rhwng 1768 ac 1775 gan Syr John Morris, partner yn un o’r mentrau mwyndoddi copr a chloddio am lo cyntaf a mwyaf yn yr ardal, yn gartref i’w weithwyr a’u teuluoedd.

(Llun trwy garedigrwydd: Casgliad Amgueddfa Abertawe)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd yr adeilad hwn sy’n debyg i gastell, sydd wedi’i adeiladu’n uchel i fyny ar gomin Cnap Llwyd, yn wreiddiol yn cynnwys pedwar tŵr cysylltiedig gyda 24 o fflatiau a chlos canolog. Credir mai Castell Morris yw un o’r enghreifftiau cynharaf o floc o fflatiau i weithwyr.

(Llun trwy garedigrwydd: Casgliad Amgueddfa Abertawe)

Er yr oedd yr adeilad yn edrych yn drawiadol, roedd ei leoliad ar ben y bryn wedi profi’n anodd i’r gweithwyr, a daeth yn amhoblogaidd. Felly, yn hwyr yn y 1770au, adeiladodd Morris dref newydd ar gyfer ei weithwyr a oedd yn cynnwys bythynnod confensiynol ar dir is, a oedd yn llawer mwy poblogaidd. Enwyd yr anheddiad newydd yn Morris Town – sef Treforys.

Erbyn canol y 19eg ganrif, nid oedd angen yr adeilad mwyach ac erbyn 1877, gellid dweud ei fod yn adfeilion. Ym 1976, rhestrwyd yr adfeilion yn heneb gan Cadw ac ym 1990, prynodd Cyngor Abertawe yr adeilad gan Ystâd Beaufort.

 

Heddiw, dim ond adfeilion rhannol dau o’r tyrrau y gellir eu gweld, er y gallwch ddal i weld nodweddion yr adeilad gan gynnwys ffenestri a sawl lle tân.