Beach House yw'r bwyty sydd newydd agor ym Mae Oxwich ac mae'r fwydlen yn cynnwys cynnyrch arfordirol a lleol bendigedig.
01792 390965
http://www.beachhouseoxwich.co.uk
Partner Swyddogol
Beach House, Oxwich Bay
Cyn troad y flwyddyn, bydd y bwyty'n cynnal ei Noson Pen-cogyddion Gwadd gyntaf ym mis Hydref gyda dau o brif gogyddion de-orllewin Cymru, Will Holland ac Allister Barsby. Byddant yn ymuno â'r Prif Ben-cogydd Hywel Griffith i arddangos y cynnyrch Cymreig gorau gyda bwydlen flasu chwe chwrs a grëwyd yn arbennig.
Ym mis Tachwedd, bydd Rheolwr ein Bwyty, Alice Bussi sy'n hanu o Liguria, yn gweithio gyda'n Prif Ben-cogydd Hywel i lunio cinio arbennig gyda gwinoedd coeth o bob rhan o'r Eidal sydd wedi'u dewis i gyd-fynd â'r bwyd.
Ar ddechrau 2018, bydd Hywel ac Alice yn falch o groesawu'r ddau pen-cogydd o Gymru y mae ganddynt sêr Michelin sef Hywel Jones o'r enwog Lucknam Park ger Caerfaddon, a Bryan Webb o Dyddyn Llan yng ngogledd Cymru.
Meddai Hywel Griffith, y Prif Ben-cogydd,
‘Rydym wedi cael haf gwych ac mae wedi bod yn bleser gwirioneddol gwneud cynifer o ffrindiau newydd ym mro Gŵyr. Roeddem am gynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i'n gwesteion dros yr hydref a'r gaeaf, felly rydym yn falch o fod wedi gallu trefnu'r gyfres hon o nosweithiau arbennig. Maent yn ffordd wych i'n gwesteion brofi arddulliau coginio gwahanol gan ben-cogyddion blaenllaw y DU heb orfod teithio ar draws y wlad i wneud hynny."
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
No | No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
12:00 pm - 2:15 pm
6:00 pm - 9:15 pm
Cyswllt
Beach House restaurant at Oxwich Beach, Gower, Swansea
SA3 1LS
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
AA Rosette Award for Culinary Excellence (2)
Bwyd
Hygyrchedd