fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Archwiliwch y Llwybr Cerfluniau Traeth


C 11th October 2018

 

Ar eich ffordd i benrhyn Gŵyr? Peidiwch â cholli’r llwybr cerfluniau traeth arbennig ar hyd Llwybr Arfordir Gŵyr.

 
Gan ddangos gwaith celf cyfoes o Gymru mewn ffordd gyffrous ac ysbrydoledig, dewch i weld y 5 cerflun sy’n seiliedig ar thema Blwyddyn y Môr Cymru wrth i chi ddilyn Llwybr Arfordir Gŵyr rhwng y Mwmbwls a Rhosili.
 

Map Llwybr Cerfluniau ar yr Arfordir
 

Y Cerfluniau:

 
Cerflun pysgodyn ym Mae Limeslade gan Ami Marsden

Bydd y cylch o dd?r sy’n llifo am byth sy’n cynnwys macrell mawr wedi’i gerfio â llaw o dderw lleol wedi’i adfer. Bydd y ffenestr y mae’n ei greu yn y canol yn caniatáu i bobl ganolbwyntio ar y tirlun bythol newidiol a’i weld drwy’r tymhorau. Bydd mewnosodiadau wedi’u modelu â llaw o alwminiwm wedi’i gastio yn esbonio’r gwahanol gregyn sy’n byw yn nyfroedd Prydain, sy’n darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac addysgiadol. Bydd llythreniad yn cael ei gerfio yn y pren er mwyn cyfeirio cerddwyr i’r bae agosaf.
 


 
Cerfluniau byrddau syrffio ym Mae Caswell gan Ami Marsden

Bydd tri cherflun wedi’u hysbrydoli gan fyrddau syrffio deinamig yn cael eu gosod naill ochr i fainc ar lwybr y clogwyn o Caswell i Langland. Bydd gan y rhain amrywiaeth o weadau ar ffurf cerrynt sy’n llifo gan gysylltu’r holl ddarnau â’i gilydd. Bydd tonnau tywyll yn cyferbynnu â’r haig o bysgod metel a lliw cynnes y derw wedi’i oelio. Bydd y cerfiad â llaw yn esbonio cyfeiriad y ddau draeth a bydd mewnosodiadau o alwminiwm wedi’i gastio’n esbonio’r gwahanol gregyn sy’n byw yn nyfroedd Prydain.
 


 
Cerflun cragen ym Mae’r Tri Chlogwyn gan Tina Cunningham

Wedi’i selio ar gragen gwichiad moch gyda’r tirlun yn cyd-fynd â’r lleoliad. Mae’r gragen wedi’i cherfio o un darn o bren, gan gynnwys y ‘plinth’. Mae yna ffenestr ar gefn y gragen y gellir ei gosod ar olygfa ddewisol. Hefyd, mae drych alwminiwm y tu mewn i’r gragen yn ymddwyn fel ‘pwll trai’, yn adlewyrchu golau a throell. Mae’r pwll trai’n llifro i’r ‘logo’ troell ar flaen y cerflun. Ar waelod y gragen wedi’i cherfio mae’r cregyn wedi’u ‘castio’ wedi’u gosod. Bydd gan y plinth saethau sy’n
 


 
Cerflun o fwa syrffio/hwylfyrddio ym Mae Horton gan Sara Holden

Bydd y bwa pren wedi’i gerfio’n cael ei godi ar ddechrau’r llwybr troed sy’n marcio’r ffordd i’r traeth yn Horton. Yn seiliedig ar weithgareddau chwaraeon dwr poblogaidd y traeth hwn, bydd un ochr o’r bwa’n darlunio hwylfyrddwr a bydd yr ochr arall yn darlunio syrffiwr, gyda dyluniadau ar ffurf ton hefyd wedi’u cerfio sy’n adlewyrchu ar y ddwy ochr. Bydd y geiriau ‘Traeth’ a ‘Beach’ hefyd yn cael eu cerfio ar y bwa a bydd cregyn lleol wedi’u castio a’r logo troell yn cael eu mewnosod yn y cerflun. Mae’r bwa wedi’i wneud o un darn o dderw crwm wedi’i rannu’n ddau er mwyn creu’r ochrau sy’n adlewyrchu ei gilydd.
 


 
Cerflun ceffyl gwyn ym Mae Rhosili gan Sara Holden

Bydd y darn o dderw wedi’i gerfio’n darlunio “ceffyl gwyn”, disgrifiad barddol o frig y don, er mwyn adlewyrchu pwer a phrydferthwch tonnau Rhosili, lleoliad syrffio poblogaidd ym Mhenrhyn G?yr. Bydd y ceffyl rasio a’r tonnau’n cael eu cerfio i’r arwydd â chyfeirbost, gyda’r geiriau ‘Traeth’ a ‘Beach’ yn wynebu tuag at lwybr y traeth. Bydd mewnosodiadau’r cregyn wedi’u castio a’r logo troell yn cael eu gosod yn y dyluniad.
 


 
Hawlfraint llun: Sculpture by the Sea UK / Phil Holden.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Art and Education by the Sea.