fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Llwybr Arfordir Gŵyr yn cynnwys holl amrywiaeth ein harfordir hyfryd, o draethau euraid eang a chlogwyni syfrdanol i forfa heli a thwyni tywod – ac wrth gwrs mae hynny’n golygu bod hefyd amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i’w weld ar hyd y ffordd – felly sicrhewch fod gennych ysbienddrych – a’ch camera!

Ffurflen Llwybr Arfordir Gŵyr 

Mae gwelliannau diweddar yn golygu bod rhai rhannau o Lwybr yr Arfordir bellach yn hygyrch i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn – mae rhannau rhwng Limeslade a Bae Caswell – sy’n golygu bod hyd yn oed mwy o bobl yn gallu mwynhau ein harfordir.

Cadwch lygad am gaffi i chi gael mwynhau teisen neu hufen iâ cwbl haeddiannol ar ôl i chi gerdded!

P’un a ydych chi ar wyliau cerdded am wythnos neu allan am ychydig oriau’n unig, mae gennym ddetholiad o lwybrau arfordirol sy’n amrywio o ‘hawdd’ i ‘heriol’.

Cymerwch gip ar ein tudalennau ‘Llwybrau Cerdded‘ i ddewis eich rhan (neu’ch rhannau!) o’r llwybr i’w cerdded ac ewch i fyd o forweddau trawiadol, clogwyni garw a bryniau gwyrdd – cymerwch anadl ddwfn, brasgamwch yn eich blaen ac yn fuan byddwch wedi gadael eich holl ofalon ar y llwybr – y tu ôl i chi.

Nid dyna’r cyfan!

Mae ein Llwybr Arfordir hyfryd yn rhan o rwydwaith llawer ehangach; Mae Llwybr Arfordir Cymru yn galluogi cerddwyr i archwilio arfordir Cymru bron i gyd, ac mae hynny’n llawer o arfordir i’w goncro! Gan eich arwain trwy dreftadaeth, cymunedau a thirweddau godidog ein gwlad.

Cerdded yn ddiogel

Cofiwch aros yn ddiogel wrth fynd am dro ar hyd yr arfordir; gwisgwch yn briodol ar bob adeg ar gyfer y tir a’r tywydd, dilynwch y llwybr a gadewch gefn gwlad fel y daethoch o hyd iddo!

Byddwch yn arbennig o ofalus pan fydd y llwybr troed yn agos at ymyl y clogwyn – yn enwedig ar ôl glaw trwm neu stormydd oherwydd gall rannau o ymyl y clogwyn fod yn rhydd.

Os ydych yn cerdded ger y draethlin, yna cadwch lygad ar y llanw – gall droi’n gyflym yma gan achosi ymchwydd llanw neu lanw terfol; yn enwedig ym Mae y Tri Chlogwyn, Burry Holms a Sarn Pen Pyrod. Gall Canolfan Gwylio Arfordir Pen Pyrod, Rhosili eich helpu i gynllunio’ch taith gerdded yn ddiogel.

Ydy hi’n amser am her?

Beth am roi her i chi’ch hun a cherdded Llwybr Arfordir Gŵyr yn ei gyfanrwydd? Does dim angen i chi wneud y cyfan ar unwaith – gwnewch rhan ar y tro i weld arfordir newidiol Penrhyn Gŵyr ar eich cyflymdra eich hun.