Ysbrydion yn y Ddinas

Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn ôl, a'r thema eleni yw Angenfilod Afreolus! Dydd Sadwrn 25 Hydref, St Davids Place a Pharc Amy Dillwyn. 

Cynnig Gofal Plant Cymru, prif bartner cefnogi Ysbrydion yn y Ddinas.

Bydd dwy ardal i'w harchwilio, a bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn hwyrach rhwng 3pm ac 8pm, felly gall y teulu cyfan ei fwynhau!

Mae St Davids Place yn berffaith ar gyfer teuluoedd - mae'r ardal fywiog hon yn cynnwys prif lwyfan sy'n llawn adloniant i blant gyda chefnogaeth Dechrau'n Deg, gemau, cerddoriaeth, cystadleuaeth gwisg ffansi a pherfformiadau gan ddiddanwyr proffesiynol. Ond cofiwch - bydd creaduriaid yn crwydro'r sgwâr, yn barod i ddychryn a diddanu gwesteion iau. 

 

 

Ar draws y bont fygythiol mae parc Amy Dillwyn - ydych chi'n ddigon dewr i fentro i'r ardal newydd hon? Mae'r ardal hon yn llawn creaduriaid brawychus a phethau dychrynllyd a all eich atal rhag cysgu...

Bydd llu o gymeriadau arswydus yn crwydro o gwmpas y lle, gan gynnwys Y Dyn Anweladwy, Ellyll Enfawr, Demon, Minotor a mwy... ydych chi'n meiddio mentro i'r parc gyda'r hwyr?
 

Ugly troll
Invisible man
Cycling Sloth
Long armed monsters

 

 

 

Edrychwch i fyny! Bydd creadur chwyddadwy enfawr yn edrych dros ben yr adeilad wrth ymyl y bont, a pheidiwch â cholli'ch cyfle i gael hunluniau gyda'r tentaclau chwyddadwy anferthol ym Mharc Amy Dilwyn! 

Inflatable monster
Gentleman Chimp
Beheaded monsters
Demon

Bydd Mark Rees yn adrodd straeon arswydus fel rhan o’r sgwrs Halloween in Wales: Folkore, Monsters and Swansea's Most Haunted Places am 4pm a 7pm.

Rhowch gynnig ar y llwybr lluniau Angenfilod Afreolus yn St David's Place, y bont fygythiol a pharc Amy Dillwyn gyda'r hwyr. Dewch o hyd i'r wyth bwystfil i gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth raffl sy'n cynnwys cyfres o wobrau fel pâr o docynnau ar gyfer gêm gynghrair gartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe 2025-26, crys y Gweilch, tocyn teulu i Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe a mynediad i'r teulu i'r ardal VIP yng Ngorymdaith y Nadolig.

Mae rhagor o wobrau gwych ar gael i'w hennill yn y Gystadleuaeth Gwisg Ffansi!
Mae 4 categori, gall pob oedran gymryd rhan ac mae'r gwobrau sydd ar gael yn cynnwys: Tocynnau ar gyfer digwyddiad Comic Con yn Arena Swansea Building Society, mynediad i'r teulu i'r ardal VIP yng Ngorymdaith y Nadolig, tocynnau i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe, tocyn teulu i Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe, gwobrau Lazerzone, profiad bwydo crocodeilod arbennig yn Plantasia... a thegan meddal.

Dyma'r categorïau:

  • Y Creadur/Anghenfil Gorau - Oedolyn
  • Y Creadur/Anghenfil Gorau - Plentyn
  • Y Creadur/Anghenfil Gorau - Grŵp/Teulu
  • Gwisg Calan Gaeaf Orau

Bydd y gystadleuaeth gwisg ffansi (a gynhelir gan Malificent!) yn cael ei chynnal ar y prif lwyfan am 4.30pm, felly ewch yn eich gwisgoedd mwyaf erchyll am gyfle i ennill!

Yeti
Mutants
Bigfoot

Cynnig Gofal Plant Cymru - prif bartner cefnogi Ysbrydion yn y Ddinas

Early Years and Childcare logo

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.

Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru'n ceisio lleihau'r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych wedi'i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.

Mae'r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu'n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai'r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Peidiwch â cholli'ch cyfran chi o'r cyllid gofal plant.

https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch

Dechrau'n Deg - yn cefnogi'r adloniant ar y llwyfan yn St David's Place

Flying Start logo

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.

Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:
•            Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
•            Gofal plant am 2.5 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymor yr ysgol.
Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol:
Gwirio'ch cymhwystra a gwneud cais. https://account.swansea.gov.uk/earlyyears/eligibility/index


Ariannwyd yr elfennau marchnata canlynol ar gyfer y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU:
Hysbysebu ar Safleoedd Bysus
Ymgyrch Media Wales

Am gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau gwych?

Digwyddiadau

Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i gynllunio beth i'w wneud, a dyma'r lle i ddod i gael gwybod am…

Digwyddiadau Tymhorol

Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.

Hanner Tymor

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o ddifyrru'r rhai bach drwy gydol y gwyliau hanner tymor? Mae Croeso Bae Abertawe yma i ddangos yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau sydd ar gael i…