Dewch i ymweld â Marchnad Abertawe, marchnad dan do fwyaf Cymru, am brofiad siopa na fyddwch chi byth yn ei anghofio!
01792 654296
http://www.swanseaindoormarket.co.uk
Partner Swyddogol
Swansea Market
Yng nghanol y ddinas am dros 50 o flynyddoedd, cewch groeso gan fasnachwyr sydd wedi bod yn gweini pobl Abertawe am genedlaethau.
Mae bwyd lleol hyfryd wastad wedi bod yn rhan annatod o boblogrwydd y farchnad ac mae masnachwyr yn dal i gyrraedd wrth iddi wawrio bob dydd gyda'r cynnyrch mwyaf ffres. Mae'r amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael yn adlewyrchu'r amrywiaeth o gwsmeriaid sydd gennym ac yn dangos sut mae'r farchnad wedi datblygu dros y blynyddoedd er mwyn cadw at newid mewn blas ac anghenion.
Mae dros 100 o stondinau'n cynnig popeth o gynnyrch lleol ffres ac anrhegion Cymreig traddodiadol i emwaith hardd, rygiau o safon ac estyniadau gwallt. Dewch i flasu rhai o'n cocos, ein bara lawr a'n cawsiau Cymreig gwych. Ac , wrth gwrs, ni fyddai unrhyw ymweliad yn gyflawn heb bice ar y maen twym a ffres o'r maen.
Crwydrwch o gwmpas, mwynhewch fywiogrwydd marchnad traddodiadol a darganfyddwch yr hyn sydd ar gael. Yna, cymerwch saib ac ymdrochwch yn awyrgylch un o'n caffis neu'n siopau coffi.
Yn ogystal â chael ei hadnabod am ei hamrywiaeth a'i hansawdd heb eu hail, mae Marchnad Abertawe'n parhau i chwarae rôl bwysig ym mywydau pobl Abertawe ac mae ganddi ysbryd cymunedol gwych. Drwy gydol y flwyddyn mae'r farchnad hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau megis arddangosfeydd celf, diwrnodau hwyl i'r teulu a gweithdai coginio i blant, sydd wastad yn boblogaidd.
Gyda phedair mynedfa wedi'u lleoli'n gyfleus o gwmpas canol y ddinas ac ychydig funudau o'r orsaf fysus, mae'n hawdd dod o hyd i ni. Gallwch gael mynediad i'r farchnad drwy Stryd Rhydychen, Stryd yr Undeb, Whitewalls neu Ganolfan Siopa'r Cwadrant
Am brofiad siopau cwbl unigryw, dewch i ymweld â Marchnad Abertawe. Mae croeso cynnes i chi!
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | No |
Oriau agor
Monday – Saturday: 8am – 5pm
Sunday: Closed
Cyswllt
Gwobrau
Great British Market Awards Winner
Great British Market Awards Enillyd