Mae Amgueddfa Abertawe'n rhoi cipolwg ar fywyd lleol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i ymwelwyr!
01792 653763
http://www.swanseamuseum.co.uk
Partner Swyddogol
Swansea Museum
Mae Amgueddfa Abertawe'n rhoi cipolwg ar fywyd lleol yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol i ymwelwyr! Yn ogystal â hynny, cynhelir arddangosfeydd dros dro, digwyddiadau a gweithdai.
Mae'r amgueddfa hynaf yng Nghymru'n rhoi cipolwg ar fywyd Abertawe yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Mae gan yr amgueddfa gasgliadau gwych. Dewch i weld y mymi Eifftaidd, y casgliad archaeoleg enwog a'r Ganolfan Tramffyrdd gerllaw, yn ogystal â'r cychod sy'n cael eu harddangos ar bontŵn yr amgueddfa.
Mae rhaglen gyffrous o arddangosfeydd dros dro, gweithdai a digwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Ffoniwch yr amgueddfa am fanylion (01792 653763) neu ewch i'n gwefan
www.swanseamuseum.co.uk
I archwilio'n casgliadau ymhellach, mae'r Ganolfan Gasgliadau ar agor ar ddydd Mercher - taith fer yn y car - neu ewch i'n gwefan.
Mae cyfle hefyd i hwylio ar long 56tr yr 'Olga', un o longau peilot Môr Hafren a adeiladwyd ym 1909.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
No | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Open Tuesday - Sunday
Closed on Mondays
Cyswllt
Gwobrau
Achrediadau
CyMAL Accredited Museum
Tourism Swansea Bay Member
Quality Assured Visitor Attraction
Hygyrchedd