fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Legendary People

Discover Dylan Thomas' Playground

Legendary Places

The 'once and future king'

Share

Pobl a lleoedd, tirweddau a chwedlau

 

 
O ddiwydiant trwm i gelfyddyd wych, mae’n anodd categoreiddio stori Bae Abertawe’n hawdd. Dilynwch linell o’r gorffennol pell i’r presennol, a byddwch yn dod o hyd i straeon brenhinoedd chwedlonol, sêr opera, newyddbethau diwydiannol, barddoniaeth, paentio a hyd yn oed ambell anifail anwes dewr.

Fe glywch am Abertawe fel canolfan metel trwm y busnes copr byd-eang a man geni llawn ysbrydoliaeth Dylan Thomas, un o ysgrifenwyr enwocaf yr 20fed ganrif. Byddwch yn dod ar draws lleoedd anhygoel hefyd fel Neuadd Brangwyn hanesyddol a’i gweithiau celf enfawr, a Phenllergaer, coetir toreithiog lle mae natur wedi cael rhywfaint o help llaw. A chewch gipolwg agosach ar sêr y sgrîn fach a’r sgrîn fawr sy’n dod o’r ddinas, o actorion sydd wedi ennill Oscar i leoliadau ffilmio trawiadol. Yn olaf, cwblhewch y pecyn â thraethau syrffio syfrdanol, pier heb ei ail ac amgueddfeydd bendigedig.

 

Dylan Thomas

 
Dylan Thomas Swansea Arhosodd Dylan Thomas, crwt lleol yr oedd ei ddawn geiriau wedi’i dywys o gwmpas y byd, yn grwt o Abertawe tan y diwedd. Ni waeth pa mor bell y teithiodd, roedd bob amser yn cydnabod yr ysbrydoliaeth a gafodd o’i dref enedigol. Fel y dywedodd yntau ‘Os mai gwlad y gân yw Cymru, mae Abertawe’n ddinas o feirdd.’ Byddwch yn rhan o stori bywyd Dylan wrth ymweld â chartref ei blentyndod yn 5 Rhodfa Cwmdoncyn, a chrwydro ym mharc deiliog Cwmdoncyn. Gallwch gael golwg agosach ar ei fywyd yng Nghanolfan Dylan Thomas, a chlywed y dyn ei hun yn adrodd ei gerddi yn y llais cyfoethog, tonnog digamsyniol hwnnw.

 


 

John Dillwyn Llewelyn

John Dillwyn Llewelyn SwanseaAm brawf i ddangos ei bod yn bosib gwella ar fyd natur, ewch am dro yn ardal wyllt Penllergaer. Mae’r darn o goetir hwn sy’n ymddangos yn annofedig – sy’n swatio mewn cwm serth ar gyrion Abertawe – mewn gwirionedd yn dirwedd a ddyluniwyd, syniad y perchennog a’r botanegydd Fictoraidd, John Dillwyn Llewelyn. Mae Parc Penllergaer, sydd wedi’i adfer i’w hen ogoniant, yn deyrnged addas i’w grëwr a oedd, ynghyd â’i ddiddordeb mewn botaneg, hefyd yn ffotograffydd medrus, yn awdur plant, yn ddyngarwr ac yn Uchel Siryf Morgannwg.

 


 

Henry Hussey Vivian

Henry Hussey Vivian Swansea Ewch i Ganolfan Siopa Dewi Sant Abertawe a byddwch yn dod wyneb yn wyneb â cherflun efydd trawiadol o’r pendefig metel, Henry Hussey Vivian. Yn ystod y 19eg ganrif, câi 90 y cant o gopr y byd ei fwyndoddi yng Nghwm Tawe, gan arwain at roi’r llysenw Copropolis iddo. Gwaith copr yr Hafod Vivian oedd y mwyaf yn y byd, gan gyflogi mwy na 1,000 o bobl pan oedd ar ei anterth. Ond o ailfeddwl, efallai y dylid fod wedi gwneud y cerflun o gopr?

 


 

Paneli’r Brangwyn

Brangwyn Hall Panels SwanseaMae maint yn bwysig wrth werthfawrogi’r gweithiau celf enfawr hyn. Paentiwyd yr 16 murlun enfawr hyn sy’n hongian yn Neuadd Brangwyn ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi ar ddiwedd y 1920au a dechrau’r 1930au gan yr artist Syr Frank Brangwyn. Pan gawsant eu gwrthod am fod yn rhy ‘amhriodol ac afieithus’ roeddem yn fwy na pharod i ddod i’r adwy a rhoi cartref iddynt. Mae’r paentiadau’n fwrlwm o jyngl toreithiog, golygfeydd o goedwigoedd ac anifeiliaid egsotig a phlanhigion lliwgar – roedd colled San Steffan yn golygu bod Abertawe ar ei hennill!

 


 

Adelina Patti

 
Patti Pavilion SwanseaEfallai na chafodd hi ei geni yma, ond roedd y gantores Sbaenaidd o fri yn bendant yn un ohonom. Daeth ei llais ag enwogrwydd iddi ar draws y byd, ond ymgartrefodd ym mhen uchaf Cwmtawe. Prynodd Gastell Fictoraidd-Gothig tywyll Craig-y-Nos ym 1878 a bu’n byw yno tan ei marwolaeth ym 1919. Roedd yn gyfaill da i’w chartref mabwysiadol, a rhoddodd ei phafiliwn gardd gaeaf i ddinas Abertawe yn 1918. Mae’r neuadd hon, sef Pafiliwn Patti, sydd bellach yn lleoliad cyngherddau a neuadd digwyddiadau, yn edrych dros y bae ar Heol y Mwmbwls.

 


 

Sêr Bae Abertawe

Swansea CelebritiesEfallai ein bod yn ymffrostio, ond mae’n ymddangos bod ein hardal yn cynhyrchu mwy na’i chyfran deg o sêr actio. Tref gyfagos Port Talbot yw man geni rhestr o sêr rhyngwladol y llwyfan a’r sgrîn fawr. Roedd y dref ddiwydiannol yn gartref i’r eicon o’r 60au, Richard Burton, yr actor cameleaonaidd, Michael Sheen a hyd yn oed Hannibal Lecter ei hun sef Syr Anthony Hopkins. Ond nid bechgyn enwog yn unig ddaw o’r ardal. Efallai ei bod yn un o deulu brenhinol Hollywood erbyn hyn, ond rydym yn eithaf sicr bod Catherine Zeta-Jones yn dal yn ferch o’r Mwmbwls.

 


 

Hwyl Syrffio

Surfing Swansea BayOs ydych yn chwilio am fôr, tywod, haul ac ewin, does dim angen i chi deithio’r holl ffordd i Galiffornia. Wel, efallai y cewch fwy o heulwen yno, ond mae gennym ddigon o’r dair elfen arall. Mae Llangynydd ym Mae Rhosili wedi bod yn un o fannau syrffio pennaf y DU ers i’r gamp ddod yma o Awstralia yn y 1950au. Mae hefyd yn gartref i’r cyn bencampwr syrffio Prydeinig ac Ewropeaidd, Pete ‘PJ’ Jones, perchennog y siop syrffio leol.
 


 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

National Waterfront MuseumGan ddefnyddio technoleg yr 21ain ganrif i roi bywyd i’n hanes diwydiannol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw’r em yng nghoron Ardal Forol ddisglair Abertawe. Daw uwch-dechnoleg ynghyd â diwydiant trwm mewn arddangosion rhyngweithiol sy’n eich tywys drwy 300 mlynedd o arloesedd, stori epig o ager, dur, glo a haearn. Ond mae’n fwy na pheiriannau mawr a pheirianneg aruthrol. Gallwch hefyd ddysgu am y straeon dynol, gan gael cipolwg ar fywydau pobl a oedd yn flaenllaw yn y Chwyldro Diwydiannol.

 


 

Lleoliadau chwedlonol

The Collection SwanseaOs yw Abertawe’n edrych yn gyfarwydd i chi, mae hyn mwy na thebyg oherwydd ei bod yn ymddangos yn aml mewn nifer o’ch hoff sioeau teledu. Ffilmiwyd y tri thymor o’r ddrama anhygoel Da Vinci’s Demons yn y ddinas a’r cyffiniau, a bydd y rhai sy’n dwlu ar ffuglen wyddonol yn adnabod un o drinodau Abertawe, Neuadd Brangwyn, o benodau o Doctor Who. Mae’r arch-dditectif Sherlock hefyd wedi ymweld ag Abertawe, gyda Neuadd y Ddinas Abertawe’n cynrychioli’r Hen Feili yn y bennod The Reichenbach Fall. “Mae’r ffaith fod Abertawe’n ddinas go arbennig bob amser wedi bod yn hysbys i ni, ond mae’n braf cael cadarnhad.

 


 

Pier y Mwmbwls

Mumbles PierMae pier da yn elfen hanfodol o bob tref lan môr go iawn. Mae pier dihafal y Mwmbwls yn enghraifft arbennig o dda o hyn. Mae’r pier a adeiladwyd ym 1898 wedi bod yn fan i ymwelwyr fynd am dro, yn ganolfan i bysgotwyr, yn lleoliad ar gyfer gorsaf bad achub ac yn orsaf derfynol ar gyfer stemars olwyn. Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r pier wedi adennill ei safle fel rhan ganolog o brofiad y Mwmbwls, o ganlyniad i waith adnewyddu helaeth sydd wedi’i adfer i anterth ei ogoniant Fictoraidd.

 


 

Y Brenin Arthur

King Arthur's StoneMae chwedlau am frenin mytholegol Prydain i’w cael ar draws y wlad. Mae stori Maen Ceti neu Garreg Arthur yn perthyn i ni. Yn ôl y chwedl, roedd Arthur yn cerdded yn Sir Gâr pan ganfu gerigyn yn ei esgid, ac fe’i taflodd ar draws y foryd. Wrth iddo hedfan, tyfodd i faint enfawr cyn glanio yn ei safle presennol ar Gomin Cefn Bryn penrhyn Gŵyr. Bydd archeolegwyr yn dweud wrthych mai bedd Neolithig yw’r heneb greigiog hon sy’n dyddio’n ôl i 2500 CC, ond gwyddwn pa stori sydd orau gennym.

 


 

Jac Abertawe

Swansea JackY ci arwrol, Jac Abertawe, oedd y ci achub gorau. Credir bod y pencampwr cïol hwn, a oedd bob amser yn barod i ymateb i arwyddion cyfyngder, wedi achub 27 o bobl rhag boddi yn afon Tawe rhwng 1930 a 1937. I gydnabod ei ddewrder, enwyd Jac yn Gi Dewraf y Flwyddyn ym 1936 gan y London Star ac ef yw’r unig gi hyd heddiw i gael ei wobrwyo â dwy fedal efydd (sy’n cyfateb i Groes Victoria) gan yr Ymddiriedolaeth Gŵn. Mae ei chwedl y parhau. Hyd heddiw, defnyddir y llysenw ‘jacs’ ar gyfer brodorion Abertawe.

 


 

Amgueddfa Abertawe

Swansea MuseumAmgueddfa Abertawe, sy’n dyddio’n ôl i 1841, yw’r hynaf yng Nghymru. Ynghyd â’i helaethrwydd mympwyol o arddangosiadau – popeth o fymi 2000 o flynyddoedd oed i gegin Gymreig draddodiadol – credir bod yr amgueddfa’n gartref i nifer o ysbrydion a drychiolaethau. Cadwch lygad am ysbryd llongwr (o’r goleulong Helwick, sydd bellach wedi’i hangori ym Marina Abertawe) sy’n patrolio’r grisiau, a merch fach fwganllyd o’r enw Sarah sy’n tynnu llewys ymwelwyr wrth iddi chwilio am ei mam goll.