Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Nadolig
Ydych chi’n chwilio am hwyl yr ŵyl y gaeaf ‘ma? Dewch i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau! Gyda nosweithiau cwis, Llwybr Mawr yr Amgueddfa ar gyfer y gaeaf, Marchnad Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Gaeaf, rhagor o ddigwyddiadau Nadoligaidd ac wrth gwrs ein sgyrsiau a’n harddangosfeydd penigamp!
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n adrodd stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, yn awr a thros y 300 mlynedd ddiwethaf.
Cafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith enfawr ar Bobl, Cymunedau a Bywydau yn ogystal ag ar weddill y byd. Gall ymwelwyr werthfawrogi’r hanes gyda chymysgedd trawiadol o’r hen a’r newydd yn ardal arforol y ddinas sy’n datblygu’n gyflym.
Mae ein treftadaeth ddiwydiannol a rhyngweithiol arforol yn barod i’w harchwilio drwy dechnoleg ryngweithiol arloesol ynghyd ag arddangosfeydd traddodiadol.
Mae’r amgueddfa mewn warws rhestredig gwreiddiol wedi’i gyplysu ag adeilad llechi a gwydr hynod fodern.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eich rhoi chi yng ngofal y profiad, gan ganiatáu i chi gloddio mor ddwfn ag y dymunwch i’r arddangosfeydd, yr arddangosiadau a’r wybodaeth.
Hwyl yr ŵyl
Cymerwch gip ar ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau Nadoligaidd ar-lein
Oriau agor
- 7 niwrnod yr wythnos
10am-5pm
Lleoliad
- Oystermouth Road
Ardal Forol
Abertawe
SA1 3RD
Darganfod mwy
Twitter: @the_waterfront
Facebook: https://www.facebook.com/waterfrontmuseum
Instagram: @AmgueddfaCymru
Gwefan: https://amgueddfa.cymru/abertawe/
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: waterfront@museumwales.ac.uk
Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn
Nadolig Abertawe
Rydym yn dwlu ar y Nadolig yn Abertawe, a dyma lle gallwch ddod o hyd i holl hwyl yr ŵyl sydd ar ddod bob blwyddyn.
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl gyda hoff atyniadau pawb.
Marchnad Nadolig Abertawe
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn…
Digwyddiadau Tymhorol
Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.
Y Nadolig yn Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Gall Canolfan Celfyddydau Taliesin eich helpu i ganfod ffyrdd o ddifyrru'r plant dros y Nadolig!
Y Nadolig yn ein Lleoliadau Diwylliannol
P’un a yw’n well gennych archwilio’r ardal, creu llanast gyda chelf a chrefft neu gwtsio lan i ddarllen llyfr da, mae gan ein lleoliadau diwylliannol ddigon o weithgareddau…