Gorymdaith y Nadolig Abertawe Parcio a Theithio
Parcio a Theithio
Paratowch i weld bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau o ffilmiau Nadoligaidd, offer chwyddadwy ar thema’r ŵyl ac wrth gwrs, Siôn Corn a’i sled, wrth iddynt oll ymddangos yn nigwyddiad Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig eleni yn Abertawe!
Bydd gorymdaith eleni’n dechrau tua 5.00pm a disgwylir iddi orffen tua 6.30pm.

Sylwer y disgwylir i ganol y ddinas fod yn brysur iawn yn ystod y prynhawn a thrwy gydol y digwyddiad – sicrhewch eich bod yn cynllunio’ch trefniadau teithio yn briodol ac yn caniatáu digon o amser i gyrraedd er mwyn gweld llwybr yr orymdaith!
Mae'r llwybr newydd eleni yn cynnig nifer o gyfleoedd gwylio newydd:
- Beth am barcio yn y Rec a gwylio dechrau'r orymdaith yn Neuadd y Ddinas, lle bydd Siôn Corn yn goleuo'r adeilad gydag arddangosfa tân gwyllt
- Mae St Helens Road yn debygol o fod ychydig yn dawelach i'r rhai sydd am osgoi prysurdeb canol y ddinas
- Fel arall, gallwch osgoi'r trefniadau cau ffyrdd yn llwyr a pharcio yn y Ganolfan Ddinesig
- Paxton Street
Parcio
Mae gan ganol y ddinas nifer o feysydd parcio’r cyngor – gallwch weld rhestr lawn o’ rhain, gan gynnwys eu lleoliadau a’u codau post, yn abertawe.gov.uk/meysyddparcio.
- Maes parcio Dwyrain Stryd y Parc SA1 3DJ
- Maes Parcio Gorllewin Stryd y Parc SA1 3DF
- Maes Parcio Stryd Pell SA1 3ES
- Maes Parcio Stryd Rhydychen SA1 3AZ
- Maes Parcio Maes Caerwrangon SA1 1HY
- Maes Parcio Quadrant (SA1 3QR)
- Maes Parcio Bae Copr Bay De (Arena) (SA1 3BX)
- Maes Parcio Lôn Northampton (SA1 4EW)
- Maes Parcio Stry Paxton (SA1 3SA)
NEWYDD AR GYFER 2025
- Maes Parcio Heol East Burrows (SA1 1RR)
- Maes Parcio'r Rec (SA2 0AT) - £5
- Maes Parcio Dwyreiniol y Ganolfan Ddinesig i ymwelwyr (SA1 3SN)
- Maes Parcio Gorllewin y Ganolfan Ddinesig i ymwelwyr (SA1 3SN) - £5
Os ydych yn bwriadu parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer yr orymdaith, byddwch yn ymwybodol y gall fod peth oedi wrth adael y meysydd parcio wrth i ni aros i’r orymdaith basio’n ddiogel. Diolch am eich amynedd.
Cau Ffyrdd
Er mwyn cynnal yr orymdaith yn ddiogel, bydd nifer o ffyrdd ar gau ar noson y digwyddiad. Lle y bo’n bosib, cânt eu cau ar raglen dreigl. Bydd mynediad i wasanaethau brys ar bob adeg
8am - 10pm
-
Guildhall Road North: Ar ei hyd cyfan
12pm - 9pm
- Bellevue Way: Ar ei hyd cyfan
- Francis Street: Ar ei hyd cyfan
4pm - 8pm
- Guildhall Road South: Ar ei hyd cyfan
- St Helens Crescent: Ar ei hyd cyfan
- St Helens Road: Ar ei hyd cyfan
- Ffordd y Brenin: Ar ei hyd cyfan
- Christina Street: O'i chyffordd â Mansel Street a Ffordd y Brenin
- Dillwyn Street: O'i chyffordd â Stryd Rhydychen a Ffordd y Brenin
- Orchard Street: O'i chyffordd â Ffordd y Brenin a 10 Orchard Street
- College Street: Ar ei hyd cyfan
- Castle Street: Ar ei hyd cyfan
- Castle Bailey Street: Ar ei hyd cyfan
- Caer Street: Ar ei hyd cyfan
- Princess Way: Ar ei hyd cyfan
- Victoria Road / Oystermouth Road: O'i chyffordd â Ffordd y Gorllewin i'w chyffordd â Somerset Place
Llwybrau Dargyfeirio
Gall cerbydau deithio i'r Mwmbwls drwy fynd ar hyd llwybr amgen drwy Dyfaty, Carmarthen Road, y Cocyd a Sgeti, a dychwelyd yn yr un modd.
Cyfyngiadau Parcio
8am - 10pm
- Guildhall Road North, Francis Street, Rotwnda Neuadd y Ddinas, Maes Parcio'r Baddonau, St Helens Road
2pm - 8pm
- St Helens Crescent, Ffordd y Brenin, College Street, Castle Street, Princess Way
Bydd arwyddion dargyfeirio yn cael eu gosod i gynorthwyo llif y traffig yn yr ardal ond mae disgwyl y bydd yn brysur iawn, yn enwedig ar yr adegau pan fydd yr orymdaith yn teithio drwy'r ddinas.
Cynhelir mynediad i wasanaethau brys ar bob adeg.
Cyrraedd ar fws
Gallwch deithio ar y bws am ddim gyda chynnig Nadoligaidd – wedi’u hymestyn tan 9pm ar gyfer yr orymdaith yn unig! Bysus Am Ddim Abertawe! Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein.
Mae First Cymru wedi cyhoeddi bod camau gweithredu diwydiannol posib wedi cael eu gohirio tan 7 Rhagfyr. Felly, bydd gwasanaethau First Bus ledled de a gorllewin Cymru’n parhau i weithredu fel arfer tan hynny. I weld yr amserlenni bysus llawn, ewch i www.firstgroup.com/south-west-wales
www.adventuretravel.cymru/bus-services
www.southwalestransport.com/bus-routes-and-timetables
www.dansa.org.uk/route-timetables/ i gael help i drefnu’ch taith.
Sylwer: Ni fydd y safleoedd bws ar hyd llwybr yr orymdaith yn weithredol rhwng 4.00pm a 6.30pm, felly defnyddiwch Gorsaf Fysus y Cwadrant.
Rhannu Car
Os ydych yn teithio mewn car, rhannwch gar os oes modd. Bydd rhannu car yn eich helpu i arbed arian drwy rannu’r costau ac yn lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd, gan helpu’r amgylchedd.
Gorymdaith y Nadolig Abertawe
Gwnaethom groesawu tymor y Nadolig i Abertawe mewn steil nos Sul 17 Tachwedd 2024 gyda’n Gorymdaith y Nadolig!
Nadolig Abertawe
Rydym yn dwlu ar y Nadolig yn Abertawe, a dyma lle gallwch ddod o hyd i holl hwyl yr ŵyl sydd ar ddod bob blwyddyn.