Y Nadolig yn Canolfan y Celfyddydau Taliesin
Gall Canolfan Celfyddydau Taliesin eich helpu i ganfod ffyrdd o ddifyrru'r plant dros y Nadolig! Dewch i fwynhau ffefrynnau traddodiadol fel perfformiad cyfareddol y Bale ac Opera Brenhinol o The Nutcracker, neu'r ffilm Nadoligaidd boblogaidd Elf ar y sgrîn fawr.
I'r rhai hynny sy'n dwlu ar gerddoriaeth, cewch brofi hwyl yr ŵyl gyda Carols & Capers, a fydd yn cynnwys yr enwogion canu gwerin Maddy Prior a The Carnival Band. Os yw'r theatr yn mynd â'ch bryd, bydd y cwmni theatr Dyad yn ail-greu A Christmas Carol, gwaith bytholwyrdd Dickens, yn fyw ar y llwyfan. I brofi hud a lledrith, bydd y sioe ryngweithiol Roald Dahl and The Imagination Seekers yn cyflwyno chwedlau anhygoel Roald Dahl.
Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin ar Gampws Singleton Prifysgol Abertawe'n cynnig rhaglen fywiog llawn digwyddiadau i bobl o bob oedran a diddordeb. P'un a ydych yn chwilio am fale hudolus, ffilm galonogol, theatr fyw gyfareddol, neu antur ryngweithiol i'r plant, mae gan Ganolfan Celfyddydau Taliesin rywbeth at ddant pawb dros y Nadolig.
Peidiwch â cholli'r digwyddiadau gwych hyn sy'n siŵr o ddod â llawenydd a chyffro i'ch dathliadau.
Archebwch eich tocynnau nawr a mwynhewch Nadolig gwirioneddol arbennig llawn profiadau bythgofiadwy yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin!
Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn
Nadolig Abertawe
Rydym yn dwlu ar y Nadolig yn Abertawe, a dyma lle gallwch ddod o hyd i holl hwyl yr ŵyl sydd ar ddod bob blwyddyn.
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl 2024 gyda hoff atyniadau pawb.
Marchnad Nadolig Abertawe
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 23 Tachwedd i 22 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd…
Gorymdeithiau Cymunedol Abertawe
Mae Siôn Corn yn teithio ar draws Abertawe'r Nadolig hwn! Bydd Siôn Corn yn teithio ar draws y ddinas ar ei sled ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, gan ddod â hwyl yr ŵyl i Abertawe…
Y Nadolig yn ein Lleoliadau Diwylliannol
P’un a yw’n well gennych archwilio’r ardal, creu llanast gyda chelf a chrefft neu gwtsio lan i ddarllen llyfr da, mae gan ein lleoliadau diwylliannol ddigon o weithgareddau…
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Nadolig
Ydych chi’n chwilio am hwyl yr ŵyl y gaeaf ‘ma? Dewch i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Digwyddiadau Tymhorol
Ni waeth pa adeg o'r flwyddyn byddwch yn ymweld â Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, mae rhaglen ddigwyddiadau ffyniannus, golygfeydd gwych i'w harchwilio a bwydydd lleol blasus.