Siopa Nadolig yng Nghanol y Ddinas
Canol Dinas Abertawe yw'r lle delfrydol i gael popeth sydd ar eich rhestr Nadolig!
Mae ganddi amrywiaeth bendigedig o siopau annibynnol, brandiau cenedlaethol, Marchnad y Nadolig ac wrth gwrs, marchnad arbennig Abertawe, felly bydd gennych ddigon o ddewis!
Gallwch siopa gyda’r hwyr mewn nifer o siopau drwy gydol cyfnod y Nadolig a bydd Marchnad Abertawe ar agor bob dydd Sul yn ystod mis Rhagfyr. (Gwiriwch wefannau masnachwyr unigol am fanylion yr oriau agor.)
Ond wrth gwrs, mae mwy i’r ddinas na siopa’n unig! P’un a oes awydd coffi neu goctel arnoch, mae digon o fariau a bwytai lle gallwch gael seibiant a llenwi’ch bol.
Darganfyddwch Abertawe'r Nadolig hwn
Nadolig Abertawe
Rydym yn dwlu ar y Nadolig yn Abertawe, a dyma lle gallwch ddod o hyd i holl hwyl yr ŵyl sydd ar ddod bob blwyddyn.
Gorymdaith y Nadolig Abertawe
Gwnaethom groesawu tymor y Nadolig i Abertawe mewn steil nos Sul 17 Tachwedd 2024 gyda’n Gorymdaith y Nadolig!
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl gyda hoff atyniadau pawb.
Marchnad Nadolig Abertawe
Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn…
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y Nadolig
Ydych chi’n chwilio am hwyl yr ŵyl y gaeaf ‘ma? Dewch i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Y Nadolig yn y Cwadrant
Gyda thros 30 o frandiau mawr yng nghanol Abertawe, mae dod o hyd i’r anrheg berffaith y Nadolig hwn yn hawdd yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant.