Mae prif ganolfan siopa Abertawe’n falch o fod yn gartref i siopau cenedlaethol ac annibynnol sy’n llawn anrhegion i gyffroi unrhyw un sy’n eu hagor ar fore Nadolig.
Mwy o wybodaeth a quadrantshopping.co.uk
Yn newydd ar gyfer Nadolig 2021
Yn ogystal â’i 30 o siopau presennol, sy’n cynnwys Pandora, Schuh, Clogau a Boots; mae’r ganolfan wedi croesawu rhagor o enwau newydd yn ddiweddar – yn barod ar gyfer y Nadolig.
Yn ogystal â bod yn lle gwych i wneud eich siopa, bydd llawer o ddigwyddiadau yn y Cwadrant y Nadolig hwn hefyd, sy’n sicr o’ch helpu i deimlo hwyl yr ŵyl cyn 25 Rhagfyr.
Coblyn Enfawr ar y Silff
Bydd Quin, Coblyn y Cwadrant, yn cuddio yn y lleoliad drwy gydol mis Rhagfyr. Mae’n goblyn direidus sy’n archwilio’r ganolfan gyda’r hwyr ac yn cuddio yn y siopau yn ystod y dydd. A fyddwch chi’n ei weld?
Cofiwch gadw llygad ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol y mis hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau arbennig Ennill gyda Quin.
Cyngherddau dros dro ar gyfer y Nadolig
Gallwch ddisgwyl perfformiadau cerddorol Nadoligaidd arbennig bob dydd Sadwrn rhwng 20 Tachwedd ac 18 Rhagfyr.
Bydd corau cymysg, corau meibion, bandiau pres a llawer mwy yn eich diddanu gyda’u carolau Nadolig a’u caneuon Nadolig poblogaidd wrth i chi wneud eich siopa dydd Sadwrn yn y Cwadrant. Caiff y perfformiadau eu cyhoeddi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cwadrant.
Apêl y Nadolig Mr X
Bydd dau fan cyfrannu at Mr X yn dychwelyd i’r Cwadrant eleni – bydd un ohonynt ar y llawr gwaelod ger Krispy Kreme a’r llall ar y llawr cyntaf, ger y toiledau i gwsmeriaid. Dyma’ch cyfle i brynu anrheg ychwanegol y Nadolig hwn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn heb anrheg ar fore dydd Nadolig.