Wrth i'r diwrnodau fyrhau, dyma’r amser perffaith i gyflwyno rhywfaint o hwyl yr ŵyl i'r nosweithiau tywyll. Y mis Tachwedd hwn ewch i weld yr arddangosfa tân gwyllt drawiadol neu profwch ysbryd yr ŵyl yng Ngorymdaith y Nadolig. Mae digon o ddigwyddiadau ar y gweill wrth i chi baratoi ar gyfer tymor yr ŵyl, a gallwch joio bae Abertawe'r mis Tachwedd hwn!
Arddangosfa Tân Gwyllt Drawiadol
Paratowch ar gyfer noson o hwyl go arbennig yn Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe!
Ymunwch â ni nos Fercher 5 Tachwedd ar Faes San Helen ar gyfer arddangosfa tân gwyllt flynyddol Cyngor Abertawe, lle bydd archarwyr yn flaenllaw!
Gallwch fwynhau adloniant arbennig ar thema archarwyr cyn i'r tân gwyllt oleuo'r awyr, gan gynnwys:
- Sesiwn ddawnsio K-Pop Demons
- Sesiwn ddawnsio ryngweithiol symudiadau Spiderman
- Symudiadau Marvel: Cystadleuaeth ddawnsio rhwng Deadpool a Wolverine
Mae tocynnau'n gwerthu’n gyflym – peidiwch â cholli'r cyfle i'w prynu!
- Pryd: Nos Fercher 5 Tachwedd - Gatiau'n agor am 5pm gyda'r tân gwyllt am 7.30pm
- Ble: Maes San Helen, Abertawe
Silent Night, Raging Eve yn Theatr Volcano
Nid sioe Nadolig nodweddiadol yw hon...
Mae Silent Night, Raging Eve yn gynhyrchiad doniol sy'n cynnwys sefyllfaoedd y gellir uniaethu â nhw a bydd yn dod i Theatr Volcano rhwng 25 Tachwedd a 20 Rhagfyr. Mae'r sioe wedi'i hysgrifennu a'i pherfformio gan Joanna Simpkins, ac mae'n eich gwahodd i barti Nadolig ychydig yn anhrefnus sy'n llawn llawenydd y Nadolig a phwysau cynyddol bywyd.
Wrth i'r noson ddatblygu, mae Eve yn archwilio beth mae'n ei olygu i dyfu'n hŷn mewn byd sy'n obsesiwn ag edrych yn iau a harddwch, a'r cyfan wrth geisio goroesi'r ŵyl â gwên ar ei hwyneb. Mae'n llawn chwerthin, eiliadau annisgwyl, a bydd yn rhoi safbwynt newydd o ran y teimladau y mae llawer ohonom yn eu profi.
Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol i'w wneud y Nadolig hwn, dewch i weld Silent Night, Raging Eve.
Gwobrau Chwaraeon Abertawe
Mae Gwobrau Chwaraeon Abertawe, a gyflwynir mewn partneriaeth â Freedom Leisure, yn dychwelyd yn 2026 i roi sylw i ddoniau, ymroddiad a brwdfrydedd anhygoel ein harwyr chwaraeon lleol.
O unigolion ysbrydoledig i dimau buddugol a chlybiau arloesol, byddwn yn dathlu eu holl gyflawniadau ar draws 15 o gategorïau yn seremoni flynyddol Gwobrau Chwaraeon Abertawe, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn nos Iau 2 Ebrill 2026.
Bydd enwebiadau'n agor ar 3 Tachwedd ac yn cau ar 31 Rhagfyr, felly peidiwch â cholli'ch cyfle i anrhydeddu'r rheini sy'n gwneud Abertawe'n falch, enwebwch nhw heddiw!
Caiff rhestr fer enwebeion Gwobrau Chwaraeon Abertawe ei chyhoeddi ym mis Ionawr, pan fydd tocynnau i'r seremoni wobrwyo'n mynd ar werth. Dewch 'mlaen Abertawe, gadewch i ni ddathlu rhagoriaeth chwaraeon gyda'n gilydd!
Gorymdaith y Nadolig Abertawe
CADWCH Y DYDDIAD YN RHYDD! Bydd Gorymdaith y Nadolig a digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig yn dychwelyd ddydd Sul 23 Tachwedd, 5pm! Dewch draw i gymeradwyo a chwifio at Siôn Corn ar hyd ei lwybr newydd ar gyfer 2025 (i’w gyhoeddi ar 6 Tachwedd). Bydd cerddoriaeth, goleuadau, dawnswyr, a mwy yn ymuno â Siôn a Siân Corn i groesawu tymor yr ŵyl. Cyflwynir y digwyddiad am ddim hwn i chi gan Gyngor Abertawe.
Cyn i'r orymdaith oleuo'r noson, gallwch fwynhau'r awyrgylch tymhorol yn y Farchnad Fictoraidd yng nghanol y ddinas a phrofi hwyl yr ŵyl yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau ym Mharc yr Amgueddfa.
- Pryd: Dydd Sul 23 Tachwedd
- Ble: Canol dinas Abertawe
Peidiwch â bod yn surbwch, ymunwch â ni ar 23 Tachwedd i gael Nadolig llawen iawn!
Ffair Nadolig Fictoraidd Abertawe
Dymunwn Nadolig Llawen! Yn Abertawe, mae'r Nadolig yn llawn hwyl draddodiadol yr ŵyl !
Paratowch at gael eich cludo'n ôl mewn amser wrth i Ffair Nadolig Fictoraidd ddod i Stryd Rhydychen Abertawe rhwng 20 a 23 Tachwedd, gydag
- Ardal yn llawn swyn yr oes Fictoraidd gyda goleuadau Nadoligaidd a hwyl yr oes a fu.
- Anrhegion artisan, crefftau a danteithion tymhorol gan fusnesau lleol gwych.
- Gwin y gaeaf, cnau castan rhost a bwyd stryd blasus.
- Cerddoriaeth fyw, carolwyr a pherfformwyr stryd Fictoraidd i ddiddanu pob oedran.
P'un a ydych yn siopa am anrhegion unigryw neu'n mwynhau'r awyrgylch Nadoligaidd, dyma'r trip tymhorol perffaith i ddechrau eich dathliadau Nadolig.
- Pryd: Dydd Iau 20 Tachwedd: 12pm – 8pm; dydd Gwener i ddydd Sul (21–23 Tachwedd): 10am – 8pm
- Ble: Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street
Gwisgwch ddillad cynnes ac ymunwch â ni am ddathliad Fictoraidd hudolus lle gallwch brofi ysbryd yr ŵyl!
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Paratowch ar gyfer gaeaf hudolus ynn Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe!
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n dychwelyd i Abertawe rhwng 21 Tachwedd a 4 Ionawr – ac mae'n fwy, yn fwy disglair ac yn fwy Nadoligaidd nag erioed o'r blaen!
Sglefriwch ar draws y llyn iâ dan orchudd sy’n berffaith ar gyfer cael hwyl ym mhob tywydd. P'un a ydych yn sglefriwr profiadol neu'n sglefrio am y tro cyntaf, mae'n brofiad hudolus i ffrindiau a theuluoedd.
Newydd ar gyfer 2025
- Llwyfan cerddoriaeth fyw bob dydd Gwener i ddydd Sul
- Ardaloedd eistedd a gwylio dan orchudd – gallwch aros yn gysurus wrth fwynhau'r adloniant
- Drysfa coed Nadolig – antur Nadoligaidd i bob oed
- Calendr digwyddiadau byw – gyda gwesteion a syrpreisys arbennig!
Ar ôl mwynhau'r Olwyn Fawr ddisglair, reid gyflym Ice Jet, a'r ffefrynnau teuluol fel y ceir clatsio, y Tŷ Hwyl a thrên The Grinch, beth am adfywio'ch hun gyda bwyd a diod flasus?
- Pryd: 21 Tachwedd – 4 Ionawr, ewch i'r wefan am yr oriau agor llawn
- Ble: Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Parc yr Amgueddfa, Abertawe
Cyflwynir i chi gan Sayers Events ac A2H Live, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.
Gŵyl Ymylol Abertawe – 3 Diwrnod o Gerddoriaeth, Comedi a Diwylliant!
Paratowch ar gyfer tridiau cyffrous o greadigrwydd ac anhrefn wrth i Ŵyl Ymylon Abertawe feddiannu canol y ddinas rhwng 27 a 29 Tachwedd!
Profwch y gorau o ddoniau newydd a sefydledig ar draws y meysydd cerddoriaeth a chomedi, y gair llafar a mwy – a'r cyfan mewn tridiau bythgofiadwy.
O nosweithiau cartrefol i berfformiadau bywiog, bydd lleoliadau Abertawe'n llawn egni a diwylliant.
Nid gŵyl yn unig yw hon – mae'n ddathliad o bopeth hynod, creadigol a chymunedol. Penwythnos penigamp!
- Pryd: 27 - 29 Tachwedd
- Lleoliad: Amryfal leoliadau, canol dinas Abertawe
- Cost: Tocyn penwythnos, £25
Marciwch eich calendr a pharatowch i brofi digwyddiad diwylliannol mwyaf eclectig Abertawe.