Mwynhewch haf o hwyl ym Mae Abertawe!
Mae'r haf wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae llawer o gyffro yn yr arfaeth ym Mae Abertawe. Cymerwch gip ar yr uchafbwyntiau hyn ...
IRONMAN 70.3 Abertawe
Mae Abertawe'n barod i gynnal digwyddiad chwaraeon arall o'r radd flaenaf, wrth i ras IRONMAN 70.3 Abertawe ddychwelyd i'r ddinas ddydd Sul 12 Gorffennaf.
Mae'r ras yn cyfuno nofio am 1.2 filltir yn Noc Tywysog Cymru â beicio 56 milltir o gwmpas Gŵyr cyn gorffen drwy redeg 13.1 filltir o gwmpas canol y ddinas ac ar hyd golygfeydd godidog Bae Abertawe. Nid yw'n rhyfedd bod y cwrs hwn wedi gorffen yn y trydydd safle mewn pleidlais ar gyfer y llwybrau rhedeg IRONMAN 70.3 mwyaf poblogaidd yn Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.
Er na allwch gofrestru ar gyfer y ras hon mwyach gan fod pob tocyn wedi'i werthu, rydym yn gobeithio y byddwch yn galw heibio i gefnogi'r athletwyr. Darllenwch ragor o wybodaeth am y ras a ble gallwch ei gwylio a chefnogi'r cyfranogwyr.
Bydd yn rhaid cau rhai ffyrdd i draffig arferol er mwyn sicrhau diogelwch yr athletwyr a'r gwylwyr.
Sioe Awyr Cymru’n Dychwelyd ar 25 a 26 Gorffennaf
Bydd Sioe Awyr Cymru’n dychwelyd i Fae Abertawe ar 25 a 26 Gorffennaf, gan gyflwyno penwythnos cyffrous o hedfan, adloniant a hwyl i'r teulu i ddechrau gwyliau'r haf.
Dewch i ryfeddu at gampau acrobatig peilotiaid o'r radd flaenaf wrth iddynt arddangos eu sgiliau anhygoel. Mwynhewch berfformiadau gan dimau arddangos Typhoon, Hediad Coffa Brwydr Prydain a Tutor y Llu Awyr Brenhinol, yn ogystal ag amrywiaeth o arddangosiadau sifil, gan gynnwys pâr Strikemaster, y Jet Pitts, Spitfire Rolls-Royce, y Swordfish a'r Wasp, hofrennydd pyro Otto a llawer mwy!
Bydd digon o gyffro ar y tir hefyd, a bydd amrywiaeth eang o fwydydd a diodydd i ddiwallu eich anghenion drwy gydol y penwythnos, ynghyd â cherddoriaeth fyw, arddangosiadau milwrol ac atyniadau ffair bleser.
Ac mae mynediad i'r digwyddiad gwych hwn AM DDIM!
Dewch i gael profiad VIP yn Sioe Awyr Cymru
Uwchraddiwch eich profiad a mwynhewch y golygfeydd gorau oll. Mae pecyn premiwm y Bwrdd Hedfan, a noddir gan Faes Awyr Caerdydd, yn cynnig ardal wylio bwrpasol a seddau cyfforddus.
Cynlluniwch eich taith i Sioe Awyr Cymru
Cynlluniwch eich ymweliad drwy fynd i’n gwefan a darllen yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio a thrafnidiaeth. Gallwch hefyd gadw eich lle parcio, gan eich galluogi i fwynhau'r cyfnod cyn penwythnos mawr Abertawe!
Tocynnau i'r Sinema Awyr Agored ar Werth Nawr
Paratowch i ganu wrth i ni ddangos pedair ffilm gerdd yr haf hwn. P'un a ydych chi am ddawnsio gyda'ch hoff gymeriadau Disney neu ymarfer dawnsfeydd eiconig o'r 70au, mae gan y Sinema Awyr Agored ffilm i bobl o bob oedran sy'n mwynhau sioeau cerdd.
5 Awst, Cae Lacrosse Parc Singleton
- 2pm – Encanto: Sing-Along – Gallwch ddisgwyl ymddangosiadau gan gymeriadau, paentio wynebau a digon o gyfleoedd i ganu ar y cyd i'ch hoff ganeuon.
- 6.30pm – The Rocky Horror Picture Show – Dewch i ddathlu hanner canmlwyddiant y clasur cwlt hwn.
12 Awst, Amffitheatr
- 2pm – Matilda the Musical: Sing-Along – Daw stori glasurol Roald Dahl yn fyw gyda'r dangosiad egnïol hwn sy'n rhoi cyfle i chi ganu ar y cyd.
- 6.30pm – Wicked: For Good – Peidiwch â cholli ail ran epig y gyfres, Wicked: For Good.
Tocynnau i'r Theatr Awyr Agored ar Werth Nawr
Bydd y Theatr Awyr Agored yn dychwelyd yn ystod yr haf a bydd cwmni theatr Illyria yn cyflwyno tri pherfformiad byw ar diroedd Castell Ystumllwynarth!
🎭As You Like It, nos Fawrth 25 Awst, 7pm – stori Shakespeare am gamadnabod rhamantaidd
🏴☠️Pirates of Penzance, nos Fercher 26 Awst, 7pm – opereta ddoniol Gilbert a Sullivan.
🤥 Pinocchio, ddydd Iau 27 Awst, 2pm – y bachgen pren sydd am fod yn fachgen go iawn, ond cyn hynny mae'n rhaid iddo ddysgu'r gwahaniaeth rhwng da a drwg.
Theatr Awyr Agored mewn cydweithrediad â Day's Peugeot
Gŵyl y Môr Abertawe ... Ahoi!
Byddwch yn barod am benwythnos llawn antur, diwylliant a dathliadau arfordirol yng nghanol Ardal Forol Abertawe.
O'r cei canoloesol bach i sawl doc mawr a gafodd eu datblygu yn ystod y chwyldro diwydiannol er mwyn gwasanaethu'r diwydiant mwyndoddi copr a fu gynt yn ffyniannus, i'r ddinas fywiog ar y glannau sydd yma heddiw, mae’r môr wedi llunio stori Abertawe.
Mae Gŵyl y Môr Abertawe'n dod â'r stori honno'n fyw gyda rhaglen llawn adloniant byw, gweithgareddau sy'n addas i'r teulu a phrofiadau bythgofiadwy ar hyd glannau'r ddinas.
Cynlluniwch eich taith
- Lleoliadau: Parc yr Amgueddfa a’r Ardal Forol gyfagos yn Abertawe, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Dyddiadau: Dydd Sadwrn 8 a dydd Sul 9 Awst 2026
- Mynediad: Am ddim
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n Cyrraedd y Ddinas
Bydd dathliad bythgofiadwy arall o gerddoriaeth wych pan fydd Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe'n dychwelyd ym mis Medi.
Gan ddod â cherddorion o'r radd flaenaf ynghyd â phobl dalentog leol sy'n dod i'r amlwg, bydd yr ŵyl yn cynnig rhaglen gyfoethog o jazz byw rhwng 3 a 6 Medi mewn lleoliadau ledled Abertawe.
P'un a ydych yn dwlu ar gerddoriaeth jazz neu'n chwilio am noson allan o safon, dewch i fwynhau awyrgylch yr ŵyl, darganfod ffefrynnau newydd a phrofi byd diwylliannol bywiog Abertawe.
Hwyl a Sbri ar Hyd Prom Abertawe
Mae digon o bethau difyr i'w gwneud os ydych yn cerdded ar hyd Prom Abertawe ...
Byddwch yn dod o hyd i elyrch, dreigiau a hyd yn oed ungyrn yn Llyn Cychod Singleton. Beth am neidio i mewn i un o'r pedalos ar ffurf creaduriaid a thanio dychymyg anturus y plant, cyn cael gêm o golff gwallgof? Cadwch lygad am y deinosoriaid!
Mae Lido Blackpill, â'i le agored a'i ardal chwarae i blant, yn lleoliad perffaith i gael hoe cyn neidio ar Drên Bach Bae Abertawe i gael taith atyniadol i'r Mwmbwls a Gerddi Southend, lle byddwch yn dod o hyd i faes chwarae a chwrs golff gwallgof arall.
Aelodaeth Tymor 26/27 y Gweilch ar werth nawr!
Mae'r Gweilch yn ôl yn Abertawe ac yn barod i symud i'w cartref newydd, safle eiconig San Helen.
Mae'n amser ar gyfer pennod newydd, wedi'i seilio ar gyflawniadau'r gorffennol. Y tymor hwn, mae cefnogi’ch tîm doed a ddelo yr un mor bwysig â phrynu tocyn.
Prynwch eich Aelodaeth Tymor nawr i weld sêr o Gymru fel Dan Edwards yn chwarae. Bydd rhywbeth at ddant pawb yn San Helen, gydag ardal gefnogwyr newydd sbon ac aelodaeth i bobl ifanc dan 16 oed o £50 yn unig! Hefyd, mae cynlluniau talu'n golygu y gallwch wasgaru cost eich tocyn dros dri mis.
P'un a ydych yng nghanol y prif eisteddle neu'n teimlo cyffro'r teras, byddwch y cefnogi'ch tîm, Y Gweilch, pan fydd arnyn nhw eich angen fwyaf.
Dewiswch eich lle, bachwch eich buddion a pharatowch am dymor cyntaf y Gweilch yn San Helen.
Tri Digwyddiad Anhepgor ym Mharc Singleton
Ni waeth beth sy’n mynd â’ch bryd, bydd rhywbeth i'ch sbarduno i ddechrau mis Awst drwy ddawnsio ym Mharc Singleton gyda thri digwyddiad mewn tri diwrnod.
Ibiza Orchestra, nos Wener 31 Gorffennaf: Cerddorfa â 26 o aelodau, yn perfformio traciau gan gynhyrchwyr a DJs fel Rudimental, Ian Van Dahl, Daft Punk, Fatboy Slim, Prodigy, a llawer mwy.
Gŵyl Selsig a Seidr, ddydd Sadwrn 1 Awst: Scouting for Girls, mwy na 30 math o seidr, mwy nag 20 math o selsig, actau teyrnged a mwy
Summer in Nashville, ddydd Sul 2 Awst: Gŵyl canu gwlad deithiol fwyaf y DU – cerddoriaeth fyw, dawnsio llinell, barbeciw Americanaidd, bwyd stryd a mwy.