Gŵyl y Môr Abertawe
Dewch i fwynhau penwythnos o antur, diwylliant a dathlu arfordirol yng nghanol Ardal Forol Abertawe 8 -9 Awst!
Mae Gŵyl y Môr Abertawe'n addo ffordd ddifyr ac ymdrochol o ddarganfod a dathlu ein hanes morwrol cyfoethog drwy weithgareddau rhyngweithiol i deuluoedd, arddangosfeydd treftadaeth, adloniant byw a llawer mwy, gan daflu goleuni ar y bobl, y straeon a'r diwydiannau a luniodd ein dinas. Ymunwch â ni i brofi Abertawe ar ei gorau, ger y môr!
O'r cei canoloesol bach drwy ddatblygiad sawl doc mawr o gyfnod y chwyldro diwydiannol a wasanaethodd ddiwydiant mwyndoddi copr ffyniannus, i'r ddinas flaengar ar y glannau a welwn heddiw, mae stori Abertawe wedi'i llunio gan y môr.
Mae Gŵyl y Môr Abertawe yn dod â'r stori honno'n fyw gyda rhaglen lawn o adloniant byw, gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd a phrofiadau bythgofiadwy ar hyd glannau'r ddinas.
Cynhelir y digwyddiad ym Mharc yr Amgueddfa a'r marina cyfagos yn Abertawe, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gyda cherddoriaeth fyw yn Amffitheatr Abertawe, gweithgareddau a gweithdai yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Oriel Mission a Chanolfan yr Amgylchedd, a rhaglen grwydro llawn cerddoriaeth fyw yn The Pumphouse, The Queen’s, The Swigg a'r Copper Jack – a hynny i gyd am ddim!
Masnachu yng Ngŵyl y Môr Abertawe
Mae stondinau masnach ar gael hefyd os hoffech chi fod yn rhan o'r digwyddiad gwych hwn – gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyflwyno cais ar-lein
Digon i'w fwynhau
- Arddangosiadau dŵr yn y marina, gan gynnwys rafftiau a badau achub bywyd, ymarferion achub pobl o'r môr, agerlongau, cychod hwylio a mwy
- Arddangosiadau ac efelychwyr creaduriaid môr chwyddadwy a llongau môr-ladron pren, a morlyn môr-forwynion
- Profiadau yn yr harbwr, gan gynnwys hwylio a theithiau ar gychod, ac arddangos cychod hwylio, agerlongau a mwy
- Cerddoriaeth Fyw yn Amffitheatr Abertawe
- Rhaglen grwydrol o gerddoriaeth yn The Pumphouse, The Queen’s, The Swigg a'r Copper Jack
- Arddangosiadau dŵr yn y marina, gan gynnwys rafftiau a badau achub bywyd, ymarferion achub pobl o'r môr, agerlongau, cychod hwylio a mwy
- Arddangosiadau ac efelychwyr creaduriaid môr chwyddadwy a llongau môr-ladron pren, a morlyn môr-forwynion
- Profiadau yn yr harbwr, gan gynnwys hwylio a theithiau ar gychod, ac arddangos cychod hwylio, agerlongau a mwy
- Cerddoriaeth Fyw yn Amffitheatr Abertawe
- Rhaglen grwydrol o gerddoriaeth yn The Pumphouse, The Queen’s, The Swigg a'r Copper Jack
Peidiwch â cholli'r cyfle
Mae Gŵyl y Môr Abertawe'n addo ffordd ddifyr ac ymdrochol o ddarganfod a dathlu ein hanes morwrol cyfoethog drwy weithgareddau rhyngweithiol i deuluoedd, arddangosfeydd treftadaeth, adloniant byw a llawer mwy, gan daflu goleuni ar y bobl, y straeon a'r diwydiannau a luniodd ein dinas. Ymunwch â ni i brofi Abertawe ar ei gorau, ger y môr!
Cynlluniwch eich ymweliad
Lleoliadau: Parc yr Amgueddfa Abertawe a'r Marina cyfagos, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mynediad: Mynediad am ddim.


Noddwyr a Chefnogwyr
Dechrau'n Deg yn cefnogi gweithgareddau'r Sea Shell Academy

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.
Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:
- Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Gofal plant am 2.5 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymhorau ysgol.
Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol: Gwirio eich cymhwystra a gwneud cais
Day's Motor Group a Chery yng Ngŵyl y Môr Abertawe – yn cefnogi gweithgareddau gwneud cychod a physgod origami Tsieineaidd.

Mae Day's Motor Group yn falch o gefnogi gweithgareddau gwneud cychod a physgod origami Tsieineaidd i blant yng Ngŵyr y Môr Abertawe eleni – un o ddathliadau mwyaf poblogaidd Cymru o'r môr, y gymuned a'r arfordir.
Fel grŵp modurol mwyaf dibynadwy de Cymru ers mwy na 100 mlynedd, mae Day's wedi bod yn rhan o'r gymuned leol am genedlaethau. Eleni, mae'n destun cyffro i ni gyflwyno rhywbeth newydd i'r ŵyl: Chery, un o'r brandiau car sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, sydd ar gael yma yn Abertawe am y tro cyntaf.
P'un a ydych yn dod oherwydd y gerddoriaeth, y bwyd neu'r golygfeydd nodedig ar y glannau, rydym yn gobeithio y byddwch yn oedi i gael cip ar Chery. Dyluniad beiddgar, gwerth trawiadol ac amrywiaeth eang o gerbydau trydan – mae'n werth rhoi sylw i'r brand hwn.
Dewch i'n gweld a'n cyfarch yn ystod yr ŵyl. Byddai'n bleser i ni gwrdd â chi.
Day's Motor Group — yn falch o fod yn rhan o Abertawe.
Digwyiddiadau Haf
- Jul 25, 2026 - Jul 26, 2026
Sioe / Arddangosfa
Sioe Awyr Cymru
Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol…
Encanto: Cyd-ganu
Hawlfraint llun: Disney, Filmbank Camwch i fyd llawn hud yr haf hwn a dewch i brofi ffilm Encanto…
The Rocky Horror Picture Show
Hawlfraint llun: 20th Century Fox Film Corporation, Filmbank Byddwch yn barod, Abertawe... rydyn…
Matilda The Musical: Cyd-ganu
Hawlfraint llun: Columbia Pictures Industries Inc. Filmbank Byddwch yn barod i fod ychydig yn…
Wicked: For Good
Hawlfraint llun: Universal Studios, Filmbank Camwch i fyd o hud, cyfeillgarwch, a straeon heb eu…
- Castell Ystumllwynarth
- Aug 25, 2026
Perfformiad
As You Like It
Bydd Illyria yn cyflwyno As You Like It yn lleoliad nodedig Castell Ystumllwynarth am noson ryfeddol…
- Castell Ystumllwynarth
- Aug 26, 2026
Perfformiad
Pirates of Penzance
Bydd Illyria yn cyflwyno Pirates of Penzance gan Gilbert a Sullivan yn lleoliad nodedig Castell…
- Castell Ystumllwynarth
- Aug 27, 2026
Awyr Agored
Pinocchio
Bydd Illyria yn cyflwyno perfformiad cyfareddol o Pinocchio yn lleoliad nodedig…
- Aug 22, 2026 - Aug 23, 2026
Cerddoriaeth Fyw
Amplitude
Dathliad Trydanol o Gerddoriaeth Llawr Gwlad Fyw Ymunwch â ni yn Amffitheatr…
- Sep 3, 2026 - Sep 6, 2026
Musical Event
Swansea International Jazz Festival
Swansea International Jazz Festival is back, presenting some of the best of local and international…