Cau Ffyrdd ar gyfer IRONMAN 70.3 Abertawe

Dydd Sul 12 Gorffennaf 2026

Mae treiathlon IRONMAN 70.3 cychwynnol Abertawe’n dod i Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Mae’r digwyddiad yn cynnwys nofio am 1.2 milltir, beicio am 56 milltir a rhedeg am 13.1 milltir a bydd 2,000 o bobl yn cystadlu.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel bydd nifer o drefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith yn yr ardal, i sicrhau diogelwch athletwyr a’r cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad:

Cyfeiriwch at y mapiau a ddarperir am ragor o wybodaeth

Sylwer

  • GALL cerddwyr groesi’r cwrs ar unrhyw adeg os yw’n ddiogel gwneud hynny.
  • Cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg
  • Bydd mynediad hanfodol ar gyfer gofalwyr yn cael ei hwyluso, cysylltwch a swansea70.3@ironmanroadaccess.com , rydym yn gofyn I chi drefnu hyn ymlaen llaw cyn 9 Gorffenaf er mwyn lleihau oedi.
  • Bydd cyfyngiadau parcio ar waith ar y cyrsiau beicio a rhedeg, gyda system halio cerbydau ar waith

Ar ol y nofio yn Noc Tywysog Cymru bydd yr athletwyr yn rhedeg dros y Bont Hwylio u drosglwuddo. Byddant yn cychwyn y cwrs beicio o faes parcio Heol East Burrows, gan deithio i Somerset Place a thua’r gorllewin ar Heol Ystumllwynarth (A4067). Bydd un ochr i’r Bont Hwylio ar agor i gerddwyr ar fore’r ras.

Bydd y beiciau’n parhau ar hyd y bae drwy’r Mwmbwls, o amglych rhannauo Gwyr cyn dychwelyd i faes parcio East Burrows ar hyd Heol Ysumllwynarth. Mae’r cwrs rhedeg 2 lap, yn gadael maes parcio East Burrows ac yn defnyddio Llwybr Beicio Bae Abertawe/y promenad i lawr i Lon Lilliput/Canolfan TA. Wrth ddychwelyd byddant yn defnyddio’r llwybr beicio cyn ymuno a Heol Ystumllwynarth trwy Faes Parcio Lon Sgeti i Barc yr Amgueddfa ar ol eu hail lap. Bydd y llwybr beicio ar gau o Lon Lilliput i Abertawe, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwyddi draw.

Cau ffyrdd – Dydd Sul 12 Gorffennaf 2026

Mesydd Parcio

  • Maes Parcio Blaendraeth Lôn Sgeti, Maes Parcio Blaendraeth San Helen; ar gau ar ddydd Sul 06:00-17:00.
  • Maes parcio East Burrows ar gau Dydd Mercher 08:00 — Dydd Llun 18:00. Bydd mynediad i Faes Parcio Canolfan Ddinesig/Chwarter Morwrol gan ddefnyddio’r llwybrau mynediad isod.  

Heol Ystumllwynarth - Ar gau tua'r gorllewin yn unig  6am  – 5pm

  • Ar ôl y nofio yn Noc Tywysog Cymru bydd yr athletwyr yn rhedeg dros y Bont Hwylio i drosglwyddo.
  • Byddant yn cychwyn y cwrs beicio o faes parcio Heol East Burrows, gan deithio i Somerset Place a thua’r gorllewin ar Heol Ystumllwynarth (A4067).
  • Bydd un ochr i'r Bont Hwylio ar agor i gerddwyr ar fore’r ras a bydd Somerset Place ar gau i geir ddydd Sadwrn rhwng 07:00 —18:00, ddydd Sul rhwng 04:00 — 18:00.
  • Bydd Burrows Place a Stryd Adelaide ar gau i geir rhwng 04:00 — 20:00
  • Bydd y beiciau'n parhau ar hyd y bae drwy'r Mwmbwls, o amgylch rhannau o Gŵyr cyn dychwelyd i faes parcio East Burrows ar hyd Heol Ystumllwynarth. Mae'r cwrs rhedeg 2 lap, yn gadael maes parcio East Burrows ac yn defnyddio Llwybr Beicio Bae Abertawe/y promenâd i lawr i Lôn Lilliput/Canolfan TA. Wrth ddychwelyd byddant yn defnyddio'r llwybr beicio cyn ymuno â Heol Ystumllwynarth trwy Faes Parcio Lôn Sgeti i Barc yr Amgueddfa ar ôl eu hail lap.  

CYNGOR MYNEDIAD

  • Bydd y llwybr beicio ar gau o Lôn Lilliput i Abertawe, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwy gydol y dydd. Bydd y cwrs rhedeg yn brysur rhwng 11:00 — 16:00, felly cofiwch hyn wrth gyrchu'r traeth a'r ardal gyfagos. Bydd ochr ddeheuol Ffordd Ystumllwynarth (tua'r Gorllewin) ar gau rhwng 06:00 — 17:00.
  • Bydd ceir yn gallu teithio tua'r Dwyrain ar Heol Ystumllwynarth fel arfer drwy gydol y dydd.  Nid yw'r llwybrau melyn ar y map yn cael eu heffeithio gan y ffyrdd caeedig a chynghorir traffig sy'n teithio tua’r Gorllewin i ddefnyddio'r llwybrau gwyro melyn a ddangosir. Mae modd cyrraedd Sainsbury's drwy'r dydd trwy'r llwybrau melyn/oren a ddangosir ar y map i Barêd y Cei.  Mae dau fan croesi cerbydau wedi’i reoli ar Heol Ystumllwynarth. Defnyddiwch y lleoliadau croesi cerbydau dynodedig er mwyn sicrhau eich bod yn croesi mor gyflym â phosibl.
  • Bydd system groesi wedi'i reoli ar gyfer mynediad i mewn i'r Chwarter Morwrol gan ddefnyddio'r llwybr oren a ddangosir ar y map, Stryd Morgannwg, Heol Ystumllwynarth a chroesi'r ffordd caeedig i mewn i Dunvant Place. Gadewch allan o'r Chwarter Morwrol, defnyddiwch y man croesi heibio'r Ganolfan Ddinesig a throwch i'r dde i Ffordd Ystumllwynarth. Efallai y bydd oedi ar y croesfannau hyn ar adegau prysur.  Bydd mynediad i gerddwyr i Draeth Abertawe, Lido Blackpill, Y Parc Sglefrio, Golff-Troed Abertawe, The Secret Beach Bar and Kitchen yn cael ei gynnal fel arfer.  

Ffordd y Brenin 4am - 10am

  • Bydd rhwng y Bont Hwylio a Maes Parcio Adeilad Y Fforwm ar gau rhwng 04:00 — 10:00 Dydd Sul er diogelwch cerddwyr.  

Y Mwmbwls: 6am – 10am

  • Mae'r cwrs yn dilyn yr arfordir ar Heol y Mwmbwls heibio i Bier y Mwmbwls ac yn troi i'r dde ger Bae Limeslade y tu allan i Forte’s Ice Cream i Lôn Plunch.
  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau tua'r de DIM OND hyd at Lôn y Pentref rhwng 06:00-10:00. Bydd ceir yn gallu teithio tua'r gogledd o Lôn y Pentref (tuag at Abertawe) am gyfnod y cau.  

CYNGOR MYNEDIAD

  • Bydd gwyriad unffordd i drigolion sydd angen mynediad.
  • Bydd modd i drigolion deithio tua’r gorllewin ar y B4436, i'r chwith i Heol Murton Green, yna tua’r dwyrain ar Heol Mansfield, Lôn Murton a Heol Newton. 

Newton (B4593), Llandeilo Ferwallt: 6.30am – 10.30am

  • Yna bydd y cwrs yn dilyn Lôn Plunch a Lôn Uwch cyn troi i'r chwith i’r lôn tua’r De B4593/Heol Caswell trwy Newton yn pasio Traeth Bae Caswell. Yn dilyn Heol Caswell i'r Gogledd, gan droi i'r chwith i Heol y Pîl/Heol Llandeilo Ferwallt ac i'r chwith i Heol Pennard B4436. Bydd y ffyrdd a enwir ar gau yn llawn rhwng 06:30 — 10:30.

Kittle, Murton: 6.30am – 12.30pm, 12.30pm – 1.45pm

  • Mae'r cwrs yn parhau tua’r gorllewin ar hyd y B4436 i gyffordd Lôn Vennaway. Mae gan y rhan hon o'r cwrs gaeadau amrywiol gan fod beiciau’n defnyddio'r ffyrdd hyn wrth fynd allan a dod i mewn.  
  • Bydd y B4436 o Murton Green i Gyffordd Lôn Vennaway ar gau yn gyfan gwbl rhwng 06:30-12:30.
  • Bydd yn agor tua'r gorllewin (tuag at Pennard) o 12:30 ac yn agor yn llawn ar gyfer traffig i'r ddau gyfeiriad erbyn 13:45.  

Lon Vennaway: 6.30am – 1.30pm

  • Yn unol â'r uchod mae'r llwybr yn defnyddio Lôn Vennaway i'r ddau gyfeiriad yn ystod y digwyddiad. Bydd Lôn Vennaway ar gau yn gyfan gwbl 06:30-12:30 ac yna bydd yn agor ar gyfer traffig sy’n teithio tua'r gogledd i droi i'r chwith ac i'r dde ar Ffordd De Gŵyr o 12:30.  Bydd y ffordd yn hollol agored erbyn 13:30. 

Pennard, Southgate: 6.30am – 10.45am

  • Mae'r cwrs yn dilyn Heol Pennard trwy Kittle a Phennard cyn gwneud tro pedol yn Southgate y tu allan i Gaffi'r Tri Chlogwyn. Yna mae'r beiciau'n teithio yn ôl trwy Pennard ac yn troi i’r chwith i Lôn Vennaway.  

CYNGOR MYNEDIAD

  • Caniateir gadael o Southgate/Pennard tuag at Kittle tan 06:30 a chaniateir mynediad o Kittle i Southgate/Pennard ar ôl 10:45. Caniateir gadael tuag at Gilâ Uchaf ar ôl 12:15.  

Melin y Parc, Penmaen, Nicholaston, Reynoldston: 7am – 12.30pm, 7am – 1pm

  • Mae'r cwrs yn dilyn yr A4118 trwy Felin y Parc, Penmaen, Nicholaston. Bydd yr A4118 ar gau hyd at gyffordd Reynoldston rhwng 07:00 - 12:30.
  • Yna mae'r cwrs yn teithio i'r Gogledd tuag at Reynoldston cyn troi i'r dwyrain i Cilibion a fydd ar gau yn gyfan gwbl rhwng 07:00-13:00.  

Llanrhidian, Penuel, Y Crwys: 7.30am – 11.30am, 7am – 12pm

  • O Cilibion mae'r cwrs yn teithio i Lanrhidian sydd ar gau rhwng 07:30-11:30. Yna mae'r llwybr yn teithio tua’r dwyrain drwy Penuel ac ymlaen at Y Crwys, cyn mynd tua'r de ar Heol Tirmynydd, bydd y rhan hon o'r cwrs ar gau yn gyfan gwbl rhwng 07:30 - 12:00. 

Cila Uchaf, Llangrove, Lunnon, Llanilltud Gwyr, Llethryd: 7.30am – 1pm, 7am – 1.30pm

  • Mae'r cwrs beicio yn cynnwys un dolen allanol fwy ac ail ddolen fewnol lai sy'n teithio drwy Llethryd ar y B4271 a fydd ar gau rhwng 07:30-13:00. Bydd Ffordd De Gŵyr A4118 o gyffordd Cilâ Uchaf i Lôn Vennaway ar gau tua'r de rhwng 07:00-13:30.  

CYNGOR MYNEDIAD

  • Bydd croesfan tua'r gogledd ar gael ar gyfer traffig sy'n teithio tua’r gogledd ar Ffordd De Gŵyr tuag at Gilâ Uchaf fel y dangosir ar y map.  

Comin Clyne, West Cross: 8.30am – 1.45pm

  • Bydd yr athletwyr yn gorffen y cwrs beicio trwy ddilyn y B4436 (Comin Clyne) tua'r dwyrain cyn troi i'r dde ar Heol Fairwood drwy West Cross.
  • Bydd y beiciau'n parhau i lawr y bryn ar Heol Fairwood ac yn troi i'r chwith i'r A4067 i ddychwelyd i Ganol Dinas Abertawe.  
  • Bydd Comin Clyne o Heol Fairwood - Murton Green ar gau tua'r dwyrain o 08:30 - 13:45. Bydd Heol Fairwood ar gau tua'r dwyrain o 08:30-13:45.  

CYNGOR MYNEDIAD

  • Bydd mynediad i breswylwyr ar gael tua'r gogledd (i fyny'r bryn) ar Heol Fairwood drwy gydol y dydd, ynghyd â man croesi ar gyffordd Heol Fairwood/Heol Mayals ar gyfer ceir sy'n teithio tua’r gogledd tuag at Kittle. 

Sylwer bod gwaith ffordd yn parhau ar Fabian Way rhwng cyffordd Jersey Marine (cylchfan Amazon) a slipffordd yr M4. Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

 

 

IRONMAN 70.3 Abertawe

Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd godidog gyda’r dociau SA1 hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac amaethyddiaeth gyfoethog Abertawe wledig.