Chwaraeon Haf yn Abertawe
Cynhaliwyd haf arall o chwaraeon o safon fyd-eang yn Abertawe yn 2024, pan ddychwelodd Cyfres y Byd Para Triathlon 2024 ar 22 Mehefin ac Ironman 70.3 Abertawe ar 14eg Gorffennaf! Gwelsom hefyd ddychwelyd yr Ŵyl Parasports wythnos o hyd, lle croesawyd miloedd o athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr!
Rhwng 21 Mehefin – 13 Gorffennaf roedd yr Ŵyl Parasports yn cynnwys digwyddiadau Cymerwch Ran a Gwirfoddoli, gan roi cyfle i bobl gymryd rhan, yn ogystal â digwyddiadau gwych i wylwyr a oedd yn cynnig cyfle i weld paraathletwyr o’r radd flaenaf yn cystadlu.
Ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf, cyrhaeddodd rhai o baratriathletwyr gorau’r byd Abertawe i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas yng Nghyfres y Byd Para Triathlon 2024.
A daeth mabolgampau’r haf i ben gydag uchafbwynt ddydd Sul 14 Gorffennaf gydag Ironman 70.3 Abertawe, lle cwblhaodd miloedd o gystadleuwyr gwrs Abertawe gan arddangos ein dinas anhygoel, bae a phenrhyn Gŵyr.
IRONMAN 70.3 Abertawe
Gall athletwyr a gwylwyr ddisgwyl llwybr gwych mewn cyrchfan rasys sy’n cynnig golygfeydd godidog gyda’r dociau SA1 hanesyddol, penrhyn Gŵyr, bryniau tonnog gwyrdd, porfeydd ac amaethyddiaeth gyfoethog Abertawe wledig.
Gŵyl Para Chwaraeon
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad wythnos o hyd y llynedd, dychwelodd Gŵyl Para Chwaraeon 2025 i Abertawe i adeiladu ar y cyfleoedd cynhwysol lleol a’r cyfleoedd para-chwaraeon cystadleuol a arddangoswyd y llynedd.
Am gael rhagor o wybodaeth am chwaraeon?
Digwyddiadau
Mae arweiniad Digwyddiadau Croeso Bae Abertawe yma i roi'r holl wybodaeth a'r ysbrydoliaeth…
Digwyddiadau Chwaraeon
Gyda'u milltiroedd o forlin a thraethau trawiadol, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn…