Sinema Awyr Agored

Ym mis Gorffennaf, cewch gyfle i fwynhau ffilmiau o fri pan fydd y Cae Lacrosse ym Mharc Singleton yn cael ei drawsnewid yn sinema awyr agored syfrdanol. Mae'n destun cyffro i ni ddangos dwy ffilm anhygoel o dan y sêr, a fydd yn creu profiad gwirioneddol unigryw a bythgofiadwy.

Outdoor Cinema Dirty Dancing

Sinema Awyr Agored: Dirty Dancing

Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Dirty Dancing nos Sadwrn 26 Gorffennaf.

Outdoor Cinema Jaws

Sinema Awyr Agored: Jaws

Bydd sinema awyr agored Abertawe ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton yn dangos Jaws nos Sul 27 Gorffennaf.

Bydd y ffilmiau'n dechrau tua 8.45pm-9pm gyda'r cyfnos.

Wrth gwrs, ni ellir ymweld â'r sinema awyr agored heb bicnic cyn y sioe yn lleoliad hardd y Cae Lacrosse. Dewch â blanced, byrbrydau a'ch hoff bobl a mwynhewch yr awyrgylch wrth i chi aros i'r ffilm ddechrau. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'n sinema awyr agored. Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch am haf llawn adloniant bythgofiadwy.

 

Tocynnau – fesul ffilm

  • 15 ar gyfer tocyn safonol
  • £25 ar gyfer tocyn premiwm – Bydd y tocyn premiwm yn cynnwys mynediad cyflym, cadair gynfas mewn lleoliad gwylio gwych a blanced.

Ffi archebu o 5% ar bob pryniant tocynnau.

 

Manylion y Lleoliad

  • what three words - ///gender.booth.scans
  • Cae Lacrosse, Parc Singleton, Brynmill, Abertawe SA2 0AX.

Am gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau gwych?

Comedi

Ydych chi am gael hwyl? Ni fyddai ymweliad â Bae Abertawe'n gyflawn heb fwynhau noson o…