Mae'n amser cael hwyl yn yr haul ym Mae Abertawe. Os ydych yn mwynhau ymgolli'ch hun mewn hanes neu chwarae ar y traeth, neu mynd i digwyddiadau, mae digon i'w fwynhau.
Archwilio Castell Ystumllwynarth
Mae Castell Ystumllwynarth bellach ar agor 7 niwrnod yr wythnos rhwng 11am a 5pm (mynediad olaf am 4.30pm).
Archwiliwch hanes cyfoethog y castell o frenhinoedd canoloesol, marchogion a'r arglwyddes wen ei hun - yr Arglwyddes Alina de Braose, trwy fynd ar un o'r teithiau tywys am ddim. Bydd y teithiau'n digwydd am 11.30am bob dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul.
Ddydd Sadwrn 21 Mehefin, bydd y castell yn cynnal ei Llwybr Tylwyth Teg Hud blynyddol. Dewch o hyd i'ch ffordd o gwmpas y castell dirgel, sleifiwch heibio'r coblynnod drwg a chwiliwch o gwmpas y goedwig hud am ein tylwyth teg coll

Mwynhewch Hwyl i'r Teulu yn ein Hatyniadau Awyr Agored
Gallwch ddod o hyd i 4 atyniad awyr agored gwych y gall yr holl deulu eu mwynhau ar hyd un darn 5 milltir o hyd o Fae Abertawe.
Mae Lido Blackpill yn agor, yno i chi ei fwynhau a bydd ar agor drwy'r haf tan ddydd Sul 28 Medi.
Gallwch ddewis pedalo alarch, ungorn neu ddraig i archwilio Llyn Cychod Singleton cyn mwynhau golff gwallgof ar y cwrs 18 twll. Cofiwch wneud ffrindiau â'r dinosoriaid yn eu cartref newydd ger y llyn! Os byddwch yn cymryd hunlun gyda nhw, tagiwch ni gan ddefnyddio'r stwnshnod #joioabertawe 🦖
Os ewch chi ymhellach i lawr y prom, mae gan Gerddi Southend gwrs golff gwallgof gwych a gallwch logi bowls os hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd.
Ar ôl diwrnod o hwyl, gallwch brynu hufen iâ a theithio ar hyd Prom Abertawe mewn steil ar Drên Bach Bae Abertawe. Dyma'r ffordd berffaith o fwynhau'r golygfeydd arfordirol wrth i chi orffen eich diwrnod allan gyda'r teulu!

Ennill un o ddau le yn nigwyddiad IRONMAN 70.3 ac aros dros nos yng ngwesty Morgans!
Gallwch gofrestru ar gyfer ein cystadleuaeth Facebook i ENNILL un o ddau le yn nigwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe lle gwerthwyd pob tocyn, ac ar ôl y ras gallwch chi a'ch gwestai ymlacio drwy aros dros nos mewn ystafell glasurol yng ngwesty mawreddog Morgans!

Digwyddiadau sydd ar ddod!
Gŵyl Tawe - 7 Mehefin
Bydd Gŵyl Tawe, sef gŵyl Menter Iaith Abertawe, yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn!
Bydd artistiaid cyfoes amgen fel Adwaith, Los Blancos, Gruff Rhys a mwy yn arddangos yr iaith Gymraeg ar ddau lwyfan mewn ffyrdd cyffrous ac unigryw. Bydd hefyd sioeau theatr rhyngweithiol i deuluoedd, perfformiadau gan ysgolion lleol ac amrywiaeth o weithgareddau gweithdy creadigol a gyflwynir yn stondinau ein partneriaid yng nghyntedd yr amgueddfa.
Cynhelir Gŵyl Tawe ddydd Sadwrn 7 Mehefin rhwng 10am a 9pm ac mae'r digwyddiad am ddim!

Cyngherddau Parc Singleton - 20, 21 a 22 Mehefin
Byddwch yn barod am benwythnos o gerddoriaeth fyw anhygoel yn y Cae Lacrosse, Parc Singleton!
Oes gennych chi eich esgidiau cowboi? Bydd Gŵyl Canu Gwlad Campfire yn dod â'r gorllewin gwyllt i Abertawe gyda rhestr o sêr newydd lleol a pherfformwyr teyrnged gwych ddydd Gwener 20 Mehefin.
Gallwch ail-fyw oes aur caneuon a ffasiwn eiconig ac adloniant di-stop wrth i Beatmasters ein tywys yn ôl i'r 90au a'r 2000au cynnar ddydd Sadwrn 21 Mehefin.
I gau'r penwythnos, bydd Gŵyl We Love It yn dod ag anthemau roc a rôl clasurol yn fyw wrth i'w restr o berfformwyr teyrnged llawn sêr fynd i lwyfan Parc Singleton ddydd Sul 22 Mehefin.

Sioe Awyr Cymru - 5 a 6 Gorffennaf
Mae'r Red Arrows, awyrennau Hedfan Coffa Brwydr Prydain, tîm arddangos Typhoon a thîm arddangos Tutor wedi'u cadarnhau ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf, gan roi arddangosiadau erobateg anhygoel yn yr awyr dros Fae Abertawe dros ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru 2025. Ac mae mynediad i’r digwyddiad gwych hwn AM DDIM!
Bydd yna hefyd atgynhyrchiadau o awyrennau, arddangosfeydd milwrol rhyngweithiol, ffair hwyl a cherddoriaeth fyw i'ch diddanu ar y ddaear wrth i chi aros i'r arddangosfeydd awyr ardderchog ddechrau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yno'n gynharach i brofi popeth sydd gan Sioe Awyr Cymru i'w gynnig. Gellir archebu tocynnau ar gyfer y Bwrdd Hedfan a lleoedd parcio ar-lein nawr.

Theatr Awyr Agored - 13 a 14 Awst
Y mis Awst hwn, bydd Theatr Awyr Agored Abertawe'n dychwelyd i Gastell Ystumllwynarth gyda dwy sioe anhygoel. Pa un ohonynt fyddwch chi'n mynd i'w gweld?
Bydd y Theatr Awyr Agored yn cynnal perfformiad o Pride and Prejudice ddydd Mercher 13 Awst a The Wind in the Willows ddydd Iau 14 Awst. Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch am haf o adloniant bythgofiadwy.

10k Bae Abertawe Admiral - 14 Medi
Byddwch yn barod ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral ym mis Medi!
Gallwch deimlo'r cyffro o redeg ar hyd bae godidog Abertawe. Mae'r cwrs gwastad yn rhoi'r cyfle delfrydol i chi gael amser personol gorau newydd. Os ydych yn rhedwr profiadol neu'n ddechreuwr, mae'r digwyddiad yn berffaith i bawb. Cofiwch fod rasys 1k a 3k ar gael i redwyr iau, sy'n golygu ei fod yn ddiwrnod allan gwych i'r teulu.
Peidiwch ag oedi, cofrestrwch nawr yn www.10kbaeabertawe.com/cofrestrwch ac ymunwch â ni am brofiad bythgofiadwy.
