Joio Mis Rhagfyr

Gallwn addo mis Rhagfyr llawn holl hwyl yr ŵyl i chi ym Mae Abertawe. Cymerwch gip ar y rhestr anhygoel o ddigwyddiadau Nadoligaidd i'ch helpu i baratoi ar gyfer amser gorau'r flwyddyn!

A family at the winter funfair with stuffed toys

Creu atgofion gyda'ch anwyliaid dros y Nadolig yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau

Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn ôl, tan 4 Ionawr gyda hwyl i bob oed!
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Llyn iâ dan orchudd - gallwch sglefrio iâ gyda'ch gilydd, boed law neu hindda!
  • Drysfa Coed Nadolig - atyniad newydd difyr i blant ac oedolion fel ei gilydd.
  • Cerddoriaeth fyw ar y llwyfan - dewch i fwynhau cerddoriaeth y Nadolig bob penwythnos.
  • Hwyl yn y  Ffair - o'r olwyn fawr i ffefrynnau'r teulu fel yr Ice Jet a thrên The Grinch, mae rhywbeth at ddant pawb!

Gallwch fwynhau'r awyrgylch llawen gyda ffrindiau a theulu dros ddiod Nadoligaidd yn y Bar Alpaidd.

Ble: Parc yr Amgueddfa, Abertawe
Pryd: 21 Tachwedd–4 Ionawr (gweler y wefan am amserau)

Archebwch eich tocynnau

Fire and Ice welsh

Gŵyl Tân ac Iâ

Peidiwch â cholli'r Ŵyl Tân ac Iâ newydd a chyffrous. Dewch i gael eich swyno gan berfformiadau ar thema tân ac iâ, tynnwch luniau hudolus yn y glôb eira enfawr, neu byddwch yn greadigol drwy roi cynnig ar gerfio iâ rhyngweithiol.

Nid dyna'r cyfan, oherwydd bydd naw cerflun iâ unigryw i'w darganfod ar draws y ddinas wrth ymyl rhai tirnodau eiconig. Allwch chi ddod o hyd i bob un?

Pryd: Dydd Sadwrn 6 – dydd Sul 7 Rhagfyr

  • Llwybr cerfluniau iâ | 10am – 5pm
  • Glôb eira enfawr | 10 am – 5pm
  • Cerfio iâ rhyngweithiol | 11.30am – 3.30pm
  • Sioeau Tân ac Iâ yn St David’s Place | 1.30pm, 3.30pm, 4.30pm
  • Canwch gerddoriaeth fyw yng Nghaban y Carolwyr!

Ble: St David's Place, Sgwâr y Santes Fair a chanol y ddinas.

Rhagor o wybodaeth

Mistletoe and Markets 2025

Uchelwydd a Marchnadoedd 

Byddwch yn barod i siopa ar y cyd â rhaglen gyffrous o adloniant byw ar draws dau lwyfan bywiog.

Ewch i Gaban y Carolwyr, a noddir gan Costa Coffee, a Gardd y Farchnad i gael eich swyno gan yr harmonïau hudolus a'r rhythmau Nadoligaidd, neu beth am ddiddanu'ch rhai bach gyda sioe hud a danteithion melys?
Uchafbwyntiau:

  • Bydd cerddoriaeth fyw gan driawd The Bluebird Belles, caneuon gafaelgar Hot Gin Swing, synau bywiog Eine Kleine Oompah, a mwy!
  • Gall y plant bach fwynhau sioe hud a lledrith a miri mawr yng nghwmni Kelly a Debbie, a bydd gweithgareddau paentio wynebau ac addurno cwcis am ddim yn siŵr o ddifyrru pawb! 
  • Dewch i gwrdd â llu o westeion arbennig disglair, gyda chymeriadau atyniadol o'r gorffennol ddydd Sadwrn a chreaduriaid coetirol hynod ddydd Sul. 

Pryd: Dydd Sadwrn 13 – dydd Sul 14 Rhagfyr
Ble: Marchnad Dan Do Abertawe a Marchnad Nadolig Abertawe,

Rhagor o wybodaeth

A couple looking at cheese at the Christmas Market

Marchnad y Nadolig

Mae Marchnad Nadolig Abertawe yn dychwelyd i Stryd Rhydychen a Portland Street ac mae'n addo digonedd o hwyl yr ŵyl!
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

  • Masnachwyr, anrhegion, crefftau a danteithion artisan
  • Masnachwyr newydd sbon yn Y Babell Lawen (amserau cyfyngedig yn unig)
  • Y Bar Alpaidd a bwyd stryd blasus
  • Cerddoriaeth fyw a chanwyr carolau

Pryd: Dydd Sadwrn 29 Tachwedd – Dydd Llun 22 Rhagfyr
Ble: Stryd Rhydychen, Princess Way a Portland Street  

Rhagor o wybodaeth

Aladdin 2025

Aladdin – Pantomeim Theatr y Grand Abertawe

Ewch i Theatr y Grand Abertawe am antur pantomeim fythgofiadwy gydag Aladdin!
Gallwch brofi perfformiad trawiadol sy'n llawn:

  • Set ddigidol ddisglair gyda sgriniau LED a golygfeydd animeiddiedig
  • Slapstic hynod ddoniol a digon o ryngweithio â'r gynulleidfa
  • Caneuon gwych y byddwch yn eu canu am ddyddiau

Dyma sioe nad ydych chi am ei cholli'r Nadolig hwn! Archebwch yn gynnar ar gyfer y prisiau a'r argaeledd gorau.

Pryd: 6 Rhagfyr – 4 Ionawr, sawl perfformiad bob dydd
Ble: Theatr y Grand Abertawe

Archebwch eich tocynnau

Sunny Afternoon the Kinks

Sunny Afternoon - Arena Swansea Building Society

Yn dilyn dwy flynedd anhygoel yn y West End a thaith gyntaf wych o gwmpas y DU ac Iwerddon, mae'r sioe gerdd “gampus” (The Times) a enillodd wobr Olivier, sy'n olrhain uchafbwyntiau ewfforig ac isafbwyntiau poenus THE KINKS yn ôl!
Mae Sunny Afternoon yn dathlu egni, angerdd a sain fythol un o fandiau mwyaf eiconig Prydain, gan adrodd yr hanes drwy gasgliad o ganeuon a gyrhaeddodd brig y siartiau, gan gynnwys "You Really Got Me", "Lola" ac "All Day and All of the Night."
Mae Sunny Afternoon wedi'i gosod ym Mhrydain yn y 60au ac mae'n ddathliad "gwefreiddiol" (The Financial Times) a theimladwy o gerddoriaeth a bywyd y cyfnod a'r band a newidiodd y cyfan.  Mae Sunny Afternoon yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan yr enwognwog Ray Davies, ysbrydoliaeth o’r llyfr gan Joe Penhall, a chyfarwyddyd gan Edward Hall.

Pryd: 2 – 6 Rhagfyr 2025
Ble: Arena Swansea Building Society

Archebwch eich tocynnau

NWM Santa

Nadolig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymunwch â ni ar ddydd Sul 7 Rhagfyr ar gyfer dathliadau Nadolig MAWR Y Glannau!
 
Mwynhewch y prynhawn Nadoligaidd perffaith , llawn hud yr wyl.
 
Yn cynnwys:

  •  Ceirw'n Dawnsio a Phrancio gyda Kitsch n Sync
  •  Crefftau Nadoligaidd i blant.
  •  Cerddoriaeth yr ŵyl gyda'r Côr Roc
  • Paentio wynebau
  •  ...ac amser stori arbennig gyda Siôn Corn sy'n siŵr o danio'r ysbryd Nadoligaidd.

 
Bydd corachod drygionus Siôn Corn yn ymweld a’r amgueddfa ar gyfer y Sioe Corachod (£3 y plentyn)
 
Felly, dewch draw i fwynhau yr holl hwyl Nadoligaidd.

Archebwch eich tocynnau

Y Storfa

Dewch i ddarganfod Y Storfa – hwb diwylliannol newydd Abertawe! 

Os ydych yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr yn gwneud rhywfaint o siopa Nadolig, yn pori marchnadoedd Nadolig Abertawe, neu'n profi Gŵyl Tân ac Iâ canol y ddinas, beth am alw heibio'r Storfa ac archwilio'r man newydd cyffrous hwn yng nghanol Abertawe? Mae'n fwy nag adeilad yn unig - mae'n hwb bywiog sy'n dod â gwasanaethau, diwylliant a chymuned ynghyd.
 
Beth sydd y tu mewn?
•  Cyfle i weld cartref newydd Llyfrgell Ganolog Abertawe, yr Archifau, adrannau Opsiynau Tai, Refeniw a Budd-daliadau, Cyngor ar Bopeth, Gyrfa Cymru Abertawe a Llyfrgell Glowyr De Cymru.
•  Llawer o weithgareddau sy'n addas i deuluoedd a digon i'w ddarganfod drwy gydol y dydd.
 
Pam ymweld â'r Storfa?
•  Gallwch ddarganfod yr hwb cymunedol newydd a'r hyn y mae'n ei gynnig. 
•  Gallwch fod yn rhan o'r bennod newydd gyffrous hon i Abertawe.