Prynnu Tocynnau Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru
Ydych chi’n ystyried mynd â’ch profiad o Sioe Awyr Cymru i’r lefel nesaf?
Beth am wella’ch profiad a threulio’ch diwrnod ar Fwrdd Hedfan unigryw Sioe Awyr Cymru noddir gan Faes Awyr Caerdydd!

Bydd eich tocyn i ardal y Bwrdd Hedfan, ar bwys y Senotaff ar Brom Abertawe yng nghanol yr ardal arddangos yn sicrhau golygfa drawiadol a gwych heb ei rhwystro o’r arddangosiadau awyr dros Fae Abertawe.
Mae Bwrdd Hedfan Sioe Awyr Cymru yn cynnwys;
- Ardal eistedd ddiogel, hamddenol gyda ffens o’i hamgylch i wylio’r sioe yn gyfforddus
- Byrddau a phabell fawr i ddarparu lloches rhag ofn y bydd y tywydd yn arw neu i’w ddefnyddio fel cysgod.
- Bar y mae’n rhaid talu am ddiodydd a chyfleusterau arlwyo ar gyfer bwyd a diod dwym.
- Toiledau arbennig
- Addas i deuluoedd – croesewir plant
- Niferoedd cyfyngedig yn unig
- Eleni, cynhelir 3 sesiwn:
- 11.00am – 6.00pm ddydd Sadwrn WEDI'U GWERTHU
- 7.30pm - 9.45pm ddydd Sadwrn WEDI'U GWERTHU
- 11.00am - 6.00pm ddydd Sul
- Cyfle i fynd a dod drwy’r dydd – bydd rhyddid i chi fwynhau’r arddangosiadau ar y ddaear, gan wybod y gallwch ddychwelyd unrhyw bryd!
- Mae mynediad am ddim i blant dan 3 oed
(Sylwer: ni chaniateir dod a alcohol i mewn i’r Bwrdd Hedfan. Ni chaniateir smygu yn ardal y Bwrdd Hedfan.)
Ni chaniateir cŵn, dim ond cŵn tywys. Telerau ac Amodau (PDF).
Dod o hyd i ardal y Bwrdd Hedfan
Bydd pabell y Bwrdd Hedfan ger cofeb y Senotaff (côd post SA2 0AS) a bydd baneri ‘Bwrdd Hedfan’ yn dangos yr ardal. Y maes parcio agosaf yw’r Rec (Glas). Mae’r man gollwng ar gyfer Parcio a Theithio tua 1,000m o ardal y Bwrdd Hedfan.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhan o gynllun arbedion haf Prydain Fawr ac maent yn destun TAW ostyngedig o 5% yn unig – cyfrifir hyn yn awtomatig wrth i chi dalu
Sioe Awyr Cymru: 25 - 26 Gorffennaf
Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous,