fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol yn dod yn fuan

Mae treiathlon IRONMAN 70.3 cychwynnol Abertawe’n dod i Abertawe a Phenrhyn Gŵyr. Mae’r digwyddiad yn cynnwys nofio am 1.2 milltir, beicio am 56 milltir a rhedeg am 13.1 milltir a bydd 2,000 o bobl yn cystadlu.

Er mwyn hwyluso’r digwyddiad hwn yn ddiogel bydd nifer o drefniadau cau ffyrdd, dargyfeiriadau traffig a chyfyngiadau parcio dros dro ar waith yn yr ardal, i sicrhau diogelwch athletwyr a’r cyhoedd.

Bydd y trefniadau cau ffyrdd a’r cyfyngiadau hyn ar waith ddydd Sul 16 Gorffennaf 2023

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â threfnwyr y digwyddiad:

Cyfeiriwch at y mapiau a ddarperir am ragor o wybodaeth

Sylwer

  • GALL cerddwyr groesi’r cwrs ar unrhyw adeg os yw’n ddiogel gwneud hynny.
  • Cynhelir mynediad i gerbydau brys ar bob adeg
  • Bydd mynediad hanfodol ar gyfer gofalwyr yn cael ei hwyluso, cysylltwch a swansea70.3@ironmanroadaccess.com
  • Bydd cyfyngiadau parcio ar waith ar y cyrsiau beicio a rhedeg, gyda system halio cerbydau ar waith

Cau ffyrdd – Dydd Sul 16 Gorffennaf 2023

Cwrs Canol y Dinas

Ar ôl y nofio yn Noc Tywysog Cymru bydd yr athletwyr yn rhedeg dros y Bont Hwyl i drawsnewid. Byddant yn cychwyn y cwrs beiciau o faes parcio East Burrows Road, gan deithio ymlaen at Somerset Place ac i’r gorllewin ar Heol Ystumllwynarth (A4067). Bydd un ochr o’r Bont Hwyl yn agored i gerddwyr ar fore’r ras a bydd Somerset Place ar gau i geir rhwng 04:00 – 18:00. Bydd Burrows Place ac Adelaide Street ar gau i geir rhwng 04:00 –20:00.
Bydd y beiciau’n parhau ar hyd y bae trwy’r Mwmbwls, o gwmpas rhannau o Benrhyn Gŵyr cyn dychwelyd i faes parcio East Burrows trwy Heol Ystumllwynarth . Mae’r cwrs rhedeg 2 lap, yn gadael maes parcio East Burrows ac yn defnyddio Llwybr Beicio Bae Abertawe i lawr i Lilliput Lane/Canolfan y Fyddin Diriogaethol. Wrth ddychwelyd byddant yn defnyddio’r llwybr beicio cyn ymuno â Heol Ystumllwynarth trwy Faes Parcio Lôn Sgeti i Barc yr Amgueddfa ar ôl eu hail lap.

Canol y Dinas a Oystermouth Road

  • Bydd Somerset Place ar gau i geir rhwng 4am – 6pm
  • Bydd Burrows Place ac Adelaide Street ar gau i geir rhwng 4am – 8pm
  • Bydd ochr ddeheuol Heol Ystumllwynarth (tua’r Gorllewin) ar gau rhwng 6am – 5pm
  • Bydd ceir yn gallu teithio tua’r dwyrtain ar Heol Ystumllwynarth fel arfer trwy’r dydd
  • Mae dau groesfan cerbydau wedi’u rheoli ar Heol Ystumllwynarth. Defnyddiwch y croesfannau cerbydau dynodedig i wneud eich croesiad mor gyflym â phosibl
  • Bydd system groesfan reoledig ar gyfer mynediad i’r Ardal Forol gan ddefnyddio’r llwybr oren a ddangosir ar y map, Glamorgan Street, Heol Ystumllwynarth ac ar draws y ffordd wedi’i chau i mewn i Dunvant Place
  • Gadewch allan o’r Ardal Forol, defnyddiwch y groesfan heibio i’r ganolfan Ddinesig a throwch i’r dde ar Heol Ystumllwynarth
  • Gall oediadau fod wrth y croesfannau hyn ar adegau prysur
  • Bydd Mynediad Cerddwyr i Draeth Abertawe, Lido Blackpill, Y Parc Sglefrio,Golff Troed Abertawe, The Secret Beach Bar and Kitchen yn cael ei gynnal fel arfer
  • Bydd y llwybr beiciau ar gau o Lilliput Lane i Abertawe, bydd mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal drwyddi draw
  • Bydd y cwrs rhedeg yn brysur 11:00 – 16:00 felly cadwch hyn mewn cof wrth gyrchu’r traeth a’r ardal gyfagos

Kings Road

  • Rhwng yr Hwylbont ac Adeilad y Fforwm bydd Maes Parcio Adeliad y Fforwn ar gau 4am – 10am

Y Mwmbwls: 6am – 10am

  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau tua’r de hyd at Village Lane o 6am – 10am
  • Bydd ceir yn gallu teithio tuar’ Gogledd o Village Lane (tuag at Abertawe) yn ystod cyfnod y cau.
  • CYNGOR MYNEDIAD: Dargyfeiriad Preswyl un ffordd ar gyfer mynediad i’r Mwmbwls yn ystod cyfnod y cau
  • Bydd preswylwyr yn gallu teithio i’r gorllwein ar y B4436, i’r chwith ar Murton Green Road ac wedyn i’r dwyrain ar Mansfield Road, Murton Lance a Newton Road i gyrchu Heol y Mwmbwls.

Newton (B4593), Llandeilo Ferwallt: 6.30am – 10.30am

  • Bydd y cwrs wedyn yn dilyn Plunch Lane a Higher Lane cyn troi i’r chwith ar Southward Lane (B4593) / Caswell Road trwy Newton a Thraeth Bae Caswell. Dilyn Caswell Road North, i’r chwith ar Pyle Road / Bishopston Road ac i’r chwith ar Pennard Road (B4436)
  • Bydd y ffyrdd uchod wedi’u cau yn llwyr rhwng 6.30am – 10.30am

Kittle, Murton, Comin Clun: 6.30am – 12.30pm, 12.30pm – 1.45pm

  • Mae’r cwrs yn parhau i’r Gorllewin ar hyd y Bff36 at gyffordd Vennaway Lane. Mae gan yr adran hon o’r cwrs amserau cau amrywiol oherwydd bod beiciau’n defnyddio’r ffyrdd hyn allan ac i mewn.
  • Bydd y B4436 o Murton Green i Gyffordd Vennaway Lane Junction ar gau yn llwyr 6.30am – 12.30pm. Bydd yn agor tua’r Gorllwein (Pennard) o 12.30pm ac gwbl agored i draffig yn y ddau gyfeiriad erbyn 1.45pm

Vennaway Lane: 6.30am – 1.30pm

  • Mae’r llwybr yn defnyddio Vennaway Lane yn y ddau gyfeiriad
  • Bydd Vennaway Lane ar gau yn llwyr 6.30am – 12.30pm
  • Bydd yn agor i drafftig tua’r Gogledd sy’n troi i’r chwith a’r dde ar South Gower Road o 12.30pm ac yn gwbl agored erbyn 1.30pm

Pennard, Southgate: 7.15am – 10.45am

  • Mae’r cwrs yn dilyn Pennard Road trwy Kittle a Pennard cyn gwneud tro pedol yn Southgate y tu allan i’r Three Cliffs Cafe
  • Mae’r beiciau wedyn yn teithio yn ol trwy Pennard ac yn troi i’r chiwth ar Vennaway Lane.
  • CYNGOR MYNEDIAD: Mynd allan o Southgate / Pennard tuag at Kittle Wedi’i ganiatau hyd 7.15am ac mae mynediad o Kittle i Southgate / Pennard yn cael ei ganiatau ar ol 10.45am.
  • Caniateir gadael tuag at Gila Uchaf ar ol 12.15pm

Melin y Parc, Nicholaston, Reynoldston, Cilibion: 7am – 11.30am

  • Mae’r cwrs yn dilyn yr A4118 trwy Felin y Parc, Penmaen, Nicholaston
  • Bydd yr A4118 ar gau hyd at Reynoldston rhwng 7am – 11.15am
  • Mae’r cwrs wedyn yn teithio i’r Gogledd tuag at Reynoldston cyn troi i’r dwyrain at Gilibion fydd wedi’i gau yn llwyr rhwng 7am – 11.30am

Llanrhidian, Penuel, Three Crosses: 7.30am – 1.30pm

  • O Gilibion mae’r cwrs yn teithio at Llanrhidian wedyn i’r dwyrain trwy Benuel ac ymlaen i Three Crosses, a bydd ar gau 7.30am – 1pm
  • Bydd Tirmynydd Road i’r de o’r Three Crosses wedi’i chau yn llwyr 8am – 1pm

Cila Uchaf, Langrove, Lunnon, Ilston, Llethryd: 7.30am – 1.30pm, 8am – 12.30pm

  • Mae’r cwrs beiciau yn cynnwys 2 ddolen lle mae’r ail ddolen lai yn teithio trwy Lunnon ac Ilston
  • Bydd y South Gower Road (A4118) o gyffordd Cila Uchaf i Vennaway Lane are gau tua’r De 7am – 1.30pm
  • Ar Lap 2 bydd athletwyr yn dilyn South Gower Road drwodd i Felin y Parc ac yn troi i’r dde wrth Sheperds of Gower, trwy Lunnon ac Ilston ac i’r chiwth ar y B4271 heibio i ffyrdd Llethryd
  • Lunnon ac Islton fydd ar gau 8am – 12.30pm
  • Bydd y B4271 trwy Llethryd ar gau 7.30am – 1pm
  • CYNGOR MYNEDIAD: Tua’r gogledd croesfan ar gael ar South Gower Road tuag at Gila Uchaf fel y dangosir ar y map atodedig

Comin Clun, West Cross: 8.30am – 1.45pm

  • Mae’r cwrs yn dilyn y B4436 (Comin Clun) tua’r de ac yn troi i’r dde ar Fairwood Road trwy West Cross. Mae’r beiciau’n parhau i lawr y bryn ar Fairwood Road ac i’r chwith ar yr A4067 i ddychwelyd i mewn i Ganol Dinas Abertawe
  • Comin Clun o Fairwood Road – mae Murton Green ar gau tua’r Dwyrain o 8.30am – 1.45pm
  • Bydd Fairwood Road ar gau tua’r Dywrain o 8.30am – 1.45pm
  • CYNGOR MYNEDIAD: Bydd mynediad i breswylwyr ar gael tua’r Gogledd ar Fairwood Road trwy gydol y dydd, ynghyd a chroesfan yng nghyffordd Fairwood Road / Mayals i geir sy’n teithio tua’r Gogledd i Kittle