Does dim rhaid i’r hwyl ddod i ben gan fod gwyliau’r haf wedi gorffen. Mae digon i’w weld a’i wneud yn Abertawe drwy gydol mis Medi!
Diwrnod Agored yn Castell Ystumllwynarth
Ddydd Sadwrn 14 Medi, am ddiwrnod yn unig, bydd y castell yn cynnal diwrnod agored lle ceir mynediad AM DDIM rhwng 11am a 5pm. Dewch i archwilio’r castell a chael amser gwych!
10k Bae Abertawe Admiral
Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ddydd Sul 15 Medi. Er bod y cyfle i gofrestru ar gyfer y ras wedi dod i ben, gallwch ddal i fod yn rhan o’r cyffro ar y dydd. Mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan, o gefnogi’r rhedwyr ar hyd y cwrs cyfan i ddod yn wirfoddolwr ar gyfer y digwyddiad. Rhagor o wybodaeth
Castles in the Sky
Mae llwybr arbennig Castles in the Sky yn dod i ben ddydd Sul 15 Medi. Mae Castles in the Sky yn ddigwyddiad celf gyhoeddus sy’n addas i’r teulu sy’n cymysgu diwylliant, celf a hanes Cymru fel cyfres o gerfluniau Cestyll. Bydd y llwybr a ddyluniwyd gan artistiaid lleol ac a noddir gan fusnesau lleol, yn mynd â chi ar daith ddarganfod anturus ar draws Bae Abertawe. Cyflwynir y llwybr gan Ambiwlans Awyr Cymru. Dilynwch y llwybr heddiw i ddarganfod pob cerflun unigryw cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Cymerwch gip ar y map arbennig o’r llwybr ar-lein.
Cyflwynwyd y llwybr gan Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae Cyngor Abertawe’n falch o noddi’r castell ‘Nights in Shining Armour’ yng Nghastell Abertawe. Rhagor o wybodaeth am y cestyll yma.
Atyniadau Awyr Agored
Efallai fod y plant wedi dechrau nôl yn yr ysgol ond mae amser o hyd i fwynhau atyniadau awyr agored Abertawe cyn iddynt gau am y tymor ddydd Sul 22 Medi!
Dewch i fwynhau atyniadau awyr agored Abertawe heddiw – gallwch chwarae golff gwallgof, teithio ar y pedalos a mwynhau morlin y Mwmbwls wrth i chi deithio ar Drên Bach Bae Abertawe.
Gallwch weld yr holl amserau agor yma
Tîm Chwaraeon ac Iechyd
Dechreuwch yr hydref yn y ffordd iawn drwy gadw’n heini’r mis Medi hwn!
Mae nifer o weithgareddau a dosbarthiadau’n cael eu cynnal ar draws Bae Abertawe drwy gydol y mis felly galwch heibio i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Digwyddiadau y Neuadd Brangwyn
Ddydd Gwener 20 Medi, bydd yn amser gwisgo’ch esgidiau cowboi gan fod rhywfaint o’r gorllewin yn dod i Abertawe. Bydd Hometown Hoedown yn profi’ch sgiliau marchogaeth ar y tarw mecanyddol cyffrous ac yn rhoi cyfle i chi wneud ychydig o ddawnsio llinell. Bydd Hometown Hoedown yn siŵr o wneud i chi weiddi ‘YeeHaw’ drwy gydol y nos!
Penwthnos Celfyddydau Abertawe
O 4 i 6 Hydref cynhelir Penwythnos Celfyddydau Abertawe, gŵyl celfyddydau creadigol sy’n dathlu artistiaid, perfformwyr a phobl greadigol lleol a rhyngwladol yn Ne Cymru.
Gyda digonedd o bethau i’w gwneud ar gyfer unigolion a theuluoedd fel ei gilydd, bydd yr ŵyl gelfyddydau’n cynnig amrywiaeth eang o sioeau, profiadau rhyngweithiol a gweithgareddau difyr ar draws nifer o atyniadau, orielau celf, mannau digwyddiadau a lleoliadau adloniant Abertawe.
Artistiaid Ydym Oll – mae Artistiaid Ydym Oll, sef digwyddiad newydd ar gyfer 2024, yn cynnwys arddangosfeydd celf, gweithdai a gweithgareddau creadigol a gynhelir mewn pum oriel a lleoliad perfformio yn Abertawe
Olympic Fusion – mae Olympic Fusion, sef yr ail ddigwyddiad newydd ar gyfer eleni, yn brofiad y gellir ymgolli ynddo sy’n gyfuniad o breg-ddawnsio, sglefrfyrddio, syrffio a dringo.
Gŵyl Ymylol Abertawe – mae’r Ŵyl Ymylol, sy’n boblogaidd iawn ymhlith bobl leol ac ymwelwyr ag Abertawe, yn dychwelyd yn 2024.