Dewch i Fae Abertawe dros y Nadolig
Dewch i Fae Abertawe dros y Nadolig er mwyn manteisio ar ein calendr nodedig sy’n cynnwys llu o weithgareddau i'ch diddanu a lleoliadau i ddiwallu eich holl anghenion.
Ysbrydoliaeth yn ein Lleoliadau Diwylliannol
Dewch i gael eich ysbrydoli gan eiriau Dylan Thomas a darganfod rhyddiaith chwareus ei stori ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’. Ochr yn ochr â'r arddangosfa barhaol ‘Dwlu ar y Geiriau’, sy'n adrodd hanes bywyd, gwaith ac etifeddiaeth Dylan, byddwch yn dod o hyd i lu o weithgareddau am ddim i'w mwynhau, gan gynnwys crefftau, ysgrifennu creadigol, corneli darllen a wardrob gwisgo i fyny a chwarae.
📍 Ble: Canolfan Dylan Thomas
📅 Pryd: Tan ddydd Sul 4 Ionawr (gweler yr amserau agor ar ein gwefan)
Mae'r gwyliau hefyd yn amser da i archwilio lleoliadau diwylliannol eraill Abertawe, gan gynnwys Oriel Gelf Glynn Vivian, sy’n cynnig cyfle i fwynhau ‘Linder: Danger Came Smiling’, yr arddangosfa deithiol uchel ei bri o Oriel Hayward yn Llundain. Gallwch hefyd alw heibio i Amgueddfa Abertawe lle ceir arddangosfa am Abertawe yn yr 20fed ganrif sy'n hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd am hel atgofion neu gael rhagor o wybodaeth am hanes diweddar y ddinas.
Yn olaf, os bydd Siôn Corn yn methu dod â'r llyfr clawr meddal cyffrous hwnnw rydych wedi bod yn ysu i’w ddarllen drwy'r flwyddyn, mae Llyfrgelloedd Abertawe yno i fenthyca llyfrau a llawer mwy.
Y Nadolig yng Ngolau Cannwyll yn Neuadd Brangwyn
Bydd Cerddorfa Siambr Cymru'n dychwelyd unwaith eto i oleuo Neuadd Brangwyn a’ch diddanu gyda Chyngerdd y Nadolig yng Ngolau Cannwyll, sy'n un o'r digwyddiadau blynyddol mwyaf poblogaidd yng nghalendr y ddinas.
Bydd dawnswyr gosgeiddig Mellin Arts yn ymuno â'r gerddorfa eleni, yn ogystal â Chôr Allegro, a fydd yn arddangos lleisiau anhygoel wrth ganu alawon Nadoligaidd traddodiadol.
📍 Ble: Neuadd Brangwyn
📅 Pryd: Nos Iau 18 Rhagfyr, 7.30pm
Cost: £21.00
Ewch ati i ddechrau eich dathliadau'n gynnar a sicrhau bod y Nadolig yn wirioneddol arbennig – archebwch eich tocynnau nawr!
Carolau yn y Castell Amdani!
Gwisgwch yn gynnes ac ymunwch â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth ynghyd â grwpiau cymunedol lleol am brynhawn hyfryd llawn carolau y tu mewn i waliau hanesyddol y castell.
📍 Ble: Castell Ystumllwynarth, y Mwmbwls
📅 Pryd: Dydd Sul, 21 Rhagfyr am 12pm
Cost: Bydd mynediad am ddim, ond bydd rhoddion i helpu i gynnal a chadw'r castell hanesyddol yn cael eu gwerthfawrogi.
Chwiliwch am Anrheg Arbennig ym Marchnad Nadolig Abertawe
Bydd Marchnad Nadolig Abertawe ar agor tan ddydd Llun 22 Rhagfyr i ddiwallu eich holl anghenion siopa hwyr.
Bydd y crefftwyr talentog a'r masnachwyr traddodiadol yn Stryd Rhydychen a Portland Street yn y ddinas yn cynnig rhywbeth at ddant pawb a bydd marchnad dan do Abertawe ar agor bob dydd tan Noswyl Nadolig hefyd.
Ar ôl i chi siopa, dewch i fwynhau gwres a lluniaeth ysgafn yn y Bar Alpaidd – mae gwin y gaeaf yn un o hoff ddanteithion Nadolig tîm Joio Bae Abertawe.
📍 Ble: Portland Street a Stryd Rhydychen
📅 Pryd: Dydd Llun, 22 Rhagfyr, 12pm
Cyfle i greu atgofion yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau
Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn dod â holl hwyl yr ŵyl i bobl o bob oedran!
Byddwch yn barod i fwynhau:
· Llyn iâ dan orchudd – dewch i sglefrio gyda'ch gilydd, boed law neu hindda
· Drysfa Coed Nadolig – atyniad newydd sbon i blant ac oedolion fel ei gilydd
· Llwyfan cerddoriaeth fyw – dewch i fwynhau cerddoriaeth y Nadolig bob penwythnos
· Hwyl yn y Ffair – o'r Olwyn Fawr i ffefrynnau i'r teulu fel yr Ice Jet a thrên The Grinch, mae rhywbeth at ddant pawb
Hefyd, gallwch fwynhau'r awyrgylch llawen gyda ffrindiau a theulu dros ddiod Nadoligaidd yn y Bar Alpaidd.
📍 Ble: Parc yr Amgueddfa, Abertawe
📅 Pryd: Tan ddydd Sul 4 Ionawr (gweler yr amserau ar y wefan)
Archebwch eich tocynnau i'r llyn iâ heddiw er mwyn mwynhau Nadolig bythgofiadwy!
Dewch i fwynhau antur hudolus Aladdin yn Theatr y Grand Abertawe
Bydd Aladdin yn goleuo Theatr y Grand Abertawe tan 4 Ionawr gyda phrofiad pantomeim nodedig i'r teulu cyfan.
Mae'r sioe hon yn cynnig y nodweddion nodedig canlynol:
· Set ddigidol ddisglair sy'n cynnwys sgriniau LED a golygfeydd animeiddiedig godidog
· Digon o gyfleoedd i'r gynulleidfa chwerthin a rhyngweithio
· Caneuon campus y byddwch yn eu mwmian ymhell ar ôl i'r sioe ddod i ben
Peidiwch â cholli'r antur hudolus hon – archebwch eich tocynnau nawr!
📍 Ble: Theatr y Grand, Abertawe
📅 Pryd: Tan ddydd Sul 4 Ionawr, sawl perfformiad bob dydd