Cyfle i greu atgofion ym mis Mai, ni waeth beth yw eich cyllideb! 

Gyda dwy ŵyl banc ar y gorwel, cymerwch gip ar ein hargymhellion gorau i'ch helpu i wneud yn fawr o'r penwythnosau hir hynny a'r gwyliau hanner tymor.

Cerddoriaeth fyw. Aer y môr. Awyrgylch yr haf. Mae Tunes on the Bay yn ôl yn Abertawe!

Mae Tunes on the Bay, sy'n dod â pherfformiadau byw anhygoel i draeth euraidd Bae Abertawe, yn addo dathliad go iawn o gerddoriaeth ger y môr.
Cymerwch gip ar y rhestr berfformio gyffrous:

  • Dydd Gwener 1 Mai: JLS,The Wanted 2.0, The Vamps, Dick & Dom, Pitbull UK, Who's Molly, Ellie Sax
  • Dydd Sadwrn 2 Mai: Scooter, Kaos Brothers, Kimmic, Shugz, a Symmetrik
  • Dydd Sul 3 Mai: Rossi, Jamback, Omar+, Saoirse, Boss Priester, Lucas Alexander, ac RTK Tarantino

Beth am ddod â ffrind? Mae cynnig newydd cyffrous yn caniatáu i gynulleidfaoedd sicrhau dau docyn dydd am bris un ddydd Gwener 1 Mai, gan gychwyn penwythnos gŵyl y banc mewn steil yn Tunes on the Bay, yr ŵyl gerddoriaeth ar lan y môr.  
Mae'r ŵyl hefyd yn cynnig gostyngiad GIG a Golau Glas o 50% oddi ar bob tocyn dydd ar gyfer y dydd Gwener gyda'r côd 'bay50', gyda cherdyn adnabod dilys yn ofynnol wrth y fynedfa.
Peidiwch â cholli Tunes on the Bay, parti traeth arbennig Abertawe!

Archebwch eich tocynnau heddiw!

Ellie Sax at Tunes on the Bay

Mwynhewch Pride Abertawe

Mae digwyddiad blynyddol Pride Abertawe yn dechrau ddydd Sadwrn 16 Mai gyda'r orymdaith yn dechrau o Wind Street am 11am.

Ar ôl yr orymdaith, ewch draw i Neuadd y Ddinas am ddiwrnod llawn o adloniant yn yr Ŵyl Pride o 12pm i 7pm. Bydd Donna Marie yn perfformio fel GaGa, a bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan yr eiconau o Abertawe Ruby Slippers a Jamie J Rampage.

Nid oes angen tocynnau ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn – dim ond y chi, cerddoriaeth a hud GaGa.

Rhagor o wybodaeth am Pride Abertawe 2026

 

Swansea Pride Bus

Digwyddiadau yng Nghastell Ystumllwynarth ym mis Mai! 

O ddigwyddiadau gŵyl y banc i deithiau tywys, mae llawer o ddigwyddiadau difyr ar ddod yn y castell ym mis Mai.

Teithiau Tywys Am Ddim - dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul, 11.30am

Archwiliwch hanes cyfoethog y castell o frenhinoedd canoloesol, marchogion a'r arglwyddes wen ei hun - yr Arglwyddes Alina de Braose, drwy ymuno ag un o'r teithiau tywys am ddim.

Gemau Calan Mai - dydd Llun 4 Mai, 12pm - 4pm

Dewch i ddathlu Calan Mai gyda chasgliad o gemau traddodiadol i'r teulu. Rhowch gynnig ar gemau fel gêm taro tuniau, bachu hwyaid, cylchynnau hwla a mwy. 

Picnic Tedi Bêrs - dydd Llun 25 Mai, 11am - 3pm

Dewch â'ch hoff dedi (neu gallwch fenthyca un) a mwynhewch brofiad picnic difyr ‑ gyda helfeydd eirth, caneuon a gweithgareddau.
 
Mynediad am ddim i blant ysgol yn Abertawe (cynnig yn ystod y tymor yn unig)

Gall plant sy'n gwisgo eu gwisgoedd ysgol ar gyfer ysgolion yn Abertawe fwynhau mynediad am ddim pan fyddant yng nghwmni oedolyn sy'n talu drwy ymweld â'r swyddfa docynnau ar ddyddiau'r wythnos ar ôl 3pm yn ystod y tymor.
 
Mae Castell Ystumllwynarth bellach ar agor 7 niwrnod yr wythnos o 11am i 5pm (mynediad olaf am 4.30pm).

Digwyddiadau yng Nghastell Ystumllwynarth

Oystermouth castle eshot

Mwynhewch ddiwrnod o hwyl i'r teulu ar hyd Prom Abertawe 

Mae eich antur yn dechrau pan fyddwch yn mynd ar un o'r pedalos yn Llyn Cychod Singleton. Gallwch reidio ar ddraig, uncorn neu alarch, yna gadewch i blant ifanc redeg yn wyllt cyn mwynhau rownd o golff gwallgof. Cadwch lygad am y deinosoriaid - mae'n rhaid i chi weld ein hatyniad diweddaraf!

Mae'r hwyl yn parhau yn Lido Blackpill gyda’r pwll padlo sy'n addas i deuluoedd a’r ardal chwarae i blant, sy'n yn agor yn fuan ar gyfer tymor yr haf.  

Peidiwch â cholli Gerddi Clun yn eu Blodau. Ar draws y ffordd o'r lido mae Gerddi Clun, ac mae'r rhododendronau a'r gwelyau blodau'n hyfryd yr adeg hon o'r flwyddyn. Hefyd, mae digwyddiadau a gweithgareddau am ddim i'w mwynhau bob dydd Sul ym mis Mai.

Ewch ar y trên i'r Mwmbwls, lle gallwch sylwi ar y golygfeydd godidog o Fae Abertawe. Ewch ar Drên Bach Bae Abertawe, sy'n gweithredu o Lido Blackpill i Gerddi Southend bob penwythnos yn ystod mis Mai ac yn ddyddiol yn ystod hanner tymor.

Yn y Mwmbwls, wrth i chi agosáu at ddiwedd y prom, beth am eistedd ac ymlacio yng Ngerddi Southend wrth i'r teulu fanteisio'n llawn ar yr ardal chwarae a'r cwrs golff gwallgof?

Neu gwnewch y cyfan i'r gwrthwyneb... Pa ffordd bynnag y byddwch chi'n mynd, treuliwch ddiwrnod yn mwynhau’r atyniadau awyr agored ar Brom Abertawe a byddwch yn gadael gydag atgofion hapus a fydd yn para llawer hirach.

Cynlluniwch eich ymweliad heddiw!

 

Outdoor attractions