Ffyrdd i Fwynhau Bae Abertawe Dros y Pasg!
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg yn prysur agosáu. Edrychwch ar ein prif argymhellion i'ch helpu chi i wneud y gorau o wyliau'r ysgol – heb dalu ffortiwn!
Hwyl a Sbri ar Hyd y Prom!
P'un a ydych am chwarae golff gwallgof, mwynhau reid hamddenol ar y pedalos, neu deithio ar Drên Bach Bae Abertawe ar ôl mynd am dro gyda'ch teulu (gan gynnwys y ci🐶) ar hyd yr arfordir, mae Prom Abertawe yn cynnig rhywbeth at ddant pawb! O ddydd Sul 29 Mawrth, bydd Llyn Cychod Parc Singleton, Trên Bach Bae Abertawe a Gerddi Southend ar gael bob penwythnos tan ddydd Sul 27 Medi.
Bydd Lido Blackpill yn ailagor o ddydd Sadwrn 2 May a bydd ar agor bob dydd tan ddydd Sul 27 Medi.
Dewch i Greu yn Amgueddfeydd ac Orielau Abertawe
O weithdy paentio cyfryngau cymysg ymarferol i'r teulu yn Oriel Gelf Glynn Vivian yn archwilio gorffennol diwydiannol Abertawe, i weithdai wedi'u hysbrydoli gan farddoniaeth yng Nghanolfan Dylan Thomas, a straeon anhygoel y gwrthrychau diddorol yn Amgueddfa Abertawe, mae rhywbeth i bobl o bob oedran a diddordeb yn lleoliadau diwylliannol Abertawe ym mis Ebrill.
P'un a ydych yn chwilio am rywbeth i danio eich dychymyg, archwilio hanes lleol neu fwynhau diwrnod difyr, mae amgueddfeydd ac orielau Abertawe yn llawn gweithgareddau ac arddangosfeydd difyr a diddorol i wneud gwyliau'r Pasg yn fythgofiadwy. Mae mynediad AM DDIM i’n lleoliadau diwylliannol! (Codir ffi fechan am rai gweithdai yn Oriel Gelf Glynn Vivian, ond rydym yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd am ddim i geiswyr lloches a’r rhai ar incwm isel).
Ewch o Gwmpas Abertawe AM DDIM Dros y Pasg!
Mae cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd Cyngor Abertawe yn ôl ar waith, gan eich galluogi i deithio am ddim ar bob taith sy'n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe cyn 7pm.
Neidiwch ar y bws a rhowch wybod i'r gyrrwr ble rydych chi'n mynd, a chewch deithio am ddim. Dim prawf adnabod. Dim ffwdan.
P'un a ydych yn mynd i ganol y ddinas, y traethau neu'r siopau, neu'n cwrdd â ffrindiau, dyma eich cyfle i archwilio Abertawe ac arbed arian ar yr un pryd.
Achubwch ar y cyfle i deithio am ddim!
Castell Ystumllwynarth – Helfa Wyau Pasg
Mae'r gwanwyn wedi cyrraedd Castell Ystumllwynarth! Mae'r castell ar agor bob dydd o 11am i 5pm! Mae llu o ddigwyddiadau i'r teulu ar y gorwel yn ystod y gwanwyn. Dewch i ddathlu'r Pasg yng Nghastell Ystumllwynarth ac ymuno â chwningod y castell yn holl hwyl yr Helfa Wyau Pasg ar 5 Ebrill!
Dilynwch y cliwiau o amgylch y castell i ddatgelu'r atebion a hawlio eich wy siocled. Os oes angen cymorth arnoch, bydd ein cwningod cyfeillgar yn barod i'ch helpu. Galwch heibio rhwng 11am a 2pm (bydd y castell ar agor tan 5pm) – bydd taliadau mynediad arferol yn berthnasol.
Rasys Hwyl 10k a 2k BRISCO Gorseinon
Bydd rasys hwyl 10k a 2k Gorseinon i'r teulu yn dychwelyd ddydd Sul 12 Ebrill! Mae'r ras gymunedol nid er elw hon yn addas i redwyr o bob oedran a gallu ac yn codi arian ar gyfer sefydliad Morgan’s Army a'i elusen bartner ar gyfer 2026, sef hosbis Tŷ Hafan i blant.
P'un a ydych am sicrhau amser personol gorau yn y ras 10k neu’n ymuno yn y ras hwyl 2k gyda'r teulu, bydd pob cam yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd ledled de Cymru.
Pryd: Dydd Sul, 12 Ebrill 2026
Lleoliad: Llinell gychwyn yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol
Cost: Gellir cofrestru o £14
Byddwch yn Barod am Tunes on the Bay
Mae Tunes on the Bay yn ôl! Ar ôl yr ŵyl hynod lwyddiannus dros dridiau y llynedd, bydd y digwyddiad yn dychwelyd i draeth Abertawe ar benwythnos Gŵyl y Banc Calan Mai. Y tro hwn, JLS fydd yn hawlio’r sylw nos Wener, bydd Scooter yn cyflwyno curiadau technolegol nos Sadwrn a bydd Rossi yn dod â'r penwythnos i ben nos Sul. Bydd yn benwythnos bythgofiadwy o gerddoriaeth anhygoel, hwyl a sbri ac ymdeimlad gwych. Achubwch ar y cyfle i archebu eich tocynnau ar-lein heddiw!
Pryd: Dydd Gwener 1 Mai i ddydd Sul 3 Mai
Lleoliad: Traeth Abertawe
Cost: Bydd prisiau tocynnau'n dechrau o £45 a bydd ffi archebu o £4.50
Monty Don, Hoff Arddwr Prydain, yn Arena Swansea Building Society
Mae Monty Don, hoff arddwr Prydain, yn dychwelyd gyda sioe newydd sbon sy'n dathlu ei lyfr poblogaidd a'i gyfres ar BBC2, British Gardens.
Gan ddefnyddio delweddau a straeon prydferth, mae Monty yn archwilio'r tirweddau, y traddodiadau a'r straeon sy'n datgelu pwy ydym ni drwy'r gerddi rydyn ni'n eu creu. O ben uchaf yr Alban i arfordir Cernyw, mae Monty’n edrych ar yr hyn y mae ein gerddi'n ei ddatgelu amdanom ni fel cenedl, ein dyfeisgarwch, ein ecsentrigrwydd a'n cysylltiad parhaol â'r byd naturiol.
Drwy safbwynt cynnes a doeth Monty, rydym yn myfyrio ar erddi Prydeinig sydd wedi llunio ein hanes, ac yn archwilio'r ffyrdd rydym yn parhau i gysylltu â'n hunaniaeth ein hunain drwy'r pridd o dan ein traed.
Pryd: Dydd Sul 12, Ebrill
Ble: Arena Swansea Building Society
Cost: Yn dechrau £35.44 (+£3.95 ffi drafod)
Cofrestrwch ar Gyfer Ras 10k Bae Abertawe
Mae'r cyffro'n cynyddu cyn Ras 10k Bae Abertawe a dyma'r amser delfrydol i gadw eich lle ar y llinell gychwyn ar ôl i bob tocyn gael ei werthu yn 2025!
P'un a ydych am sicrhau amser personol gorau, yn rhedeg dros achos, neu'n chwilio am her i hybu eich ffitrwydd yn yr haf, mae’r ras eiconig hon yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. O ystyried y cwrs cyflym, gwastad a'r golygfeydd godidog ar draws Bae Abertawe, dyma'r digwyddiad perffaith i'ch cymell yn ystod y misoedd mwy golau sydd i ddod.