Byddwch yn barod i Joio Bae Abertawe yn 2025! Mae digonedd o ffyrdd i Joio Bae Abertawe yn 2025. Ar ôl blwyddyn llwyddiannus o ddigwyddiadau y llynedd, rydym wrth ein boddau i rannau rhagor o ddyddiadau i chi eu hychwanegu at eich dyddiadur, gyda blwyddyn enfawr arall o ddigwyddiadau ar y gweill! Gyda digwyddiadau chwaraeon mawr fel Ironman, cerddoriaeth fyw ym Mharc Singleton a digwyddiadau tymhorol poblogaidd fel Sioe Awyr Cymru, mae rhywbeth i bawb.
Mae ein harweiniad Digwyddiadau Joio Bae Abertawe ar gael i roi'r holl ysbrydoliaeth a'r wybodaeth y mae eu hangen arnoch.
Roedd 2024 yn flwyddyn i'w mwynhau!
Roedd ein dinas wedi cynnal gwledd o ddigwyddiadau y llynedd ac rydym yn gyffrous iawn i'ch croesawu chi nôl am flwyddyn wych arall o ddigwyddiadau yn 2025. Gwyliwch ein fideo i gael cip yn ôl ar 2024 hyfryd yn Abertawe.
Gwyliwch y fideo
Croeso
Mae'r Ŵyl Croeso'n dechrau calendr digwyddiadau 2025, gan ddychwelyd i strydoedd dinas Abertawe ar 28 Chwefror a 1 Mawrth. Mae'r ŵyl yn dathlu popeth Cymreig gan gynnwys bwyd a diod, cerddoriaeth fyw, adloniant ar y stryd, gweithdai, celf a chrefft a llawer mwy!
Gallwch fwynhau digon o ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth ac adloniant byw yn ystod Gŵyl Croeso. Gallwch hyd yn oed ddweud Shwmae ac ymgolli'ch hun yn yr Iaith Gymraeg, bydd digonedd o gymorth i’r rheini sy'n dysgu (neu sy'n ystyried dysgu) Cymraeg.