Joio'r Hydref!
P'un a ydych yn edrych ymlaen at gyfnod Calan Gaeaf neu'n gobeithio cadw'n gynnes yn yr hydref gyda rhywfaint o ymarfer corff, mae digon o weithgareddau i ddewis ohonynt i ddiddanu'r teulu cyfan.
Ysbrydion yn y Ddinas: El Día de los Muertos
Dydy Calan Gaeaf ddim yn ymwneud â phethau dychrynllyd yn unig! Profwch hud El Día de los Muertos (Diwrnod y Meirw) wrth i St David's Place ddod yn fyw gyda ffiesta fywiog sy'n llawn lliw, diwylliant a thraddodiad.
Mae'r dathliad amlgenhedlaeth hwn yn dod â cherddoriaeth, crefftau ac adloniant byw ynghyd, pethau y bydd y teulu cyfan yn eu mwynhau. Ymysg yr uchafbwyntiau mae:
• Cerddoriaeth fyw
• Gweithdai crefft, sgiliau syrcas a phypedau
• Dawnsio Lladin-Americanaidd go iawn
• Paentio wynebau
• Sioeau pypedau cysgod
• Cymeriadau sy'n crwydro, offer chwyddadwy enfawr a mwy!
Ble: Canol Dinas Abertawe – St David’s Place
Pryd: Dydd Sadwrn 31 Hydref, 1pm - 6pm
Mynediad: AM DDIM
Dewch yn fyw y Calan Gaeaf hwn a dathlwch Ddiwrnod y Meirw yn nigwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas.
Gefnogir gan Lepas Day's Motor Group
Pawb ar y Trên Bwganod
Ewch ar Drên Bach Bae Abertawe am daith iasol ar hyd y promenâd hyfryd y Calan Gaeaf hwn.
Bydd y trên bach poblogaidd yn cael ei drawsnewid ar gyfer ei deithiau arswydus arbennig ar hyd y prom yn ystod hanner tymor mis Hydref. Beth am wisgo i fyny yn eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau i ychwanegu at yr awyrgylch arswydus?
Bydd pob plentyn yn derbyn tystysgrif "Goroesais Drên Bach Bwganod Calan Gaeaf 2026" i gofio'i antur fwganllyd.
Ydych chi'n chwilio am brofiad Calan Gaeaf tawelach? Mae'r ymadawiadau golau dydd rhwng 2.30pm a 3.30pm yn llai brawychus ac yn ddelfrydol ar gyfer plant iau a'r rhai y mae'n well ganddyn nhw brofiad tawelach, llai dwys.
Ble: Lido Blackpill (gadael a dychwelyd)
Pryd: Dydd Llun 26 – dydd Sadwrn 31 Hydref.
Gadael: 2.30pm, 3.30pm, 4.30pm, 5.30pm, 6.30pm, 7.30pm. Bydd pob taith yn para tua 45 munud.
Tocynnau: £8.50, rhaid archebu ymlaen llaw.
Ymwelwch â'r Castell Arswydus – Antur Arswydus Ardderchog Alina
Profiad Calan Gaeaf yng Nghastell Ystumllwynarth i blant yn unig! Mae'r Castell Arswydus yn lle llawn hwyl a chwerthin yn hytrach nag ofn a dychryn.
Ymunwch â'r Arglwyddes Alina, Arglwyddes Wen Castell Ystumllwynarth, a'i ffrindiau hudol am antur fwganllyd nad yw'n frawychus. Dewch i gwrdd â'r fampir Cownt Crumble, y wrach Mabel Moonbeam, yr anghenfil Boris Bumbles a llu o ysbrydion, dreigiau a sombis cyfeillgar. Dilynwch y llwybr antur, mwynhewch straeon bwganllyd a dawnsiwch yn nawns yr angenfilod.
Ni fydd dim yn codi ofn arnoch chi... oni bai eich bod yn cael eich troi'n froga!
Pryd: Dydd Sadwrn 24 Hydref, 11am – 4pm (mynediad olaf 3pm, gatiau'n cau am 5pm). Sioeau am 11.30am, 12pm, 12.30pm, 1pm, 2pm a 3pm
Ble: Castell Ystumllwynarth
Mynediad: Mae taliadau mynediad arferol yn berthnasol.
Gallwch dalu ffioedd mynediad wrth y brif gât ar y diwrnod. Gall plant dan 5 oed fynd i mewn am ddim.
Hwyl hanner tymor na ddylid ei cholli yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe
Mae gŵyl wyddoniaeth fwyaf Cymru yn ôl am ei 10fed flwyddyn!
Mae rhaglen Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n llawn hwyl, cost isel i'r teulu, o sioeau gwyddoniaeth rhyfeddol i weithdai ymarferol a gweithgareddau galw heibio am ddim.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
• Cyffesion Bradwr – bydd dau o gystadleuwyr mwyaf cofiadwy Cymru o The Traitors, Fiona ac Amanda, a seicolegydd o Brifysgol Abertawe, Dr Alex Jones, yn archwilio gwyddoniaeth twyll, ymddiriedaeth ac ymddygiad dynol. 🤥
• Grace's Amazing Machines – ewch i weithdy trydanol cyflwynydd CBeebies💡
• Gwyddoniaeth Harry Potter – i fodloni eneidiau chwilfrydig myglars ym mhobman 🧙
• Bomiau baddon – dewch i wneud bomiau baddon yn ein gweithdy lliwgar 🛀
• Gwyddoniaeth Gyflym – sut mae gwyddonwyr Abertawe'n newid y byd 🔬
Yn ogystal â'r prif sioeau, gallwch archwilio gweithgareddau galw heibio am ddim, arddangosfeydd rhyngweithiol ac arddangosiadau hynod ddiddorol.
Ble: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Pryd: 30 – 31 Hydref
Tocynnau sioe: Yn dechrau o £1 y pen (plant dan 2 oed am ddim)
Gwersylloedd Chwaraeon Hanner Tymor Chwaraeon ac Iechyd
Ymunwch â'r tîm Chwaraeon ac Iechyd yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan ar gyfer eu gwersylloedd hanner tymor arobryn.
Us Girls | Dydd Mawrth 27 Hydref | 10am – 3pm
Diwrnod cyffrous llawn egni a chyffro. Gall merched fwynhau amrywiaeth o weithgareddau, o gymnasteg a phêl-osgoi i nofio ac aml-chwaraeon.
Gemau Stryd | Dydd Mercher 28 Hydref | 10am – 3pm
Diwrnod cyffrous yn llawn gweithgarwch corfforol a hwyl. Gyda nofio, aml-chwaraeon a phêl-droed ar yr agenda, bydd digon o weithgarwch i sicrhau bod pawb yn symud ac yn gwenu'n gyson.
I gadw lle, ffoniwch Ganolfan Hamdden Pen-lan ar 01792 588079
Gweithgareddau i Oedolion Hŷn
Arhoswch yn egnïol yr hydref hwn gyda'r Tîm Chwaraeon ac Iechyd, sy'n darparu ystod eang o weithgareddau i oedolion hŷn ar draws Abertawe, gan helpu pobl i aros yn egnïol, yn gymdeithasol ac yn annibynnol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cerdded Nordig, cylchedau llai heriol, sesiynau dawns a llawer o gyfleoedd eraill i wella iechyd a lles wrth gwrdd â phobl newydd.
Cadwch eich lle heddiw: Tocynnau Chwaraeon ac Iechyd Abertawe
Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe
Cofiwch, Cofiwch, y Pumed o Dachwedd... Ymunwch â ni ym Mharc Singleton ar noson Tân Gwyllt ar gyfer Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe!
Dewch i fwynhau arddangosfa tân gwyllt arbennig yn ogystal â digon o hwyl i'r holl deulu, adloniant, stondinau bwyd a mwy. Mae tocynnau teulu yn dechrau o £13!
Cefnogir gan Gynnig Gofal Plant Cymru
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe'n dychwelyd
Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe'n dychwelyd i Barc yr Amgueddfa ddydd Iau, 19 Tachwedd - dydd Sul, 3 Ionawr! Gallwch ddisgwyl eich holl hoff atyniadau, o reidiau cyffrous a sglefrio iâ i ddanteithion blasus a stondinau marchnad y Nadolig.
Mae tocynnau ar gyfer y llyn iâ ar werth nawr! Mae'r prisiau'n dechrau o £10 yn unig, ac mae'r llyn iâ dan gysgod yn sicrhau hwyl yr ŵyl beth bynnag fo'r tywydd.
Singleton Live
Yr act gyntaf yng nghyfres newydd Singleton Live, Simply Red, fydd prif berfformwyr cyntaf Singleton Live ddydd Gwener, 20 Awst 2027, fel rhan o'u taith Summer Funk '27 yn y DU ac Ewrop.
Cadwch lygaid ar y wefan, gan y bydd rhagor o gyhoeddiadau am artistiaid yn dilyn fel rhan o'r gyfres gyffrous hon o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth.
Cofiwch y dyddiad
Bydd llawer mwy o hwyl i edrych ymlaen ati'r hydref a'r gaeaf hwn, gan gynnwys:
Gorymdaith y Nadolig: Nos Sul 22 Tachwedd
Carolau yn y Castell: Dydd Sul 20 Rhagfyr