Methu meddwl am bethau i'w gwneud yn Abertawe yn ystod hanner tymor? Os felly, darllenwch yr e-bost isod. Rydym wedi llunio rhestr o bethau difyr i'w gwneud a fydd yn difyrru'r teulu cyfan, a hynny am brisiau rhesymol!
Mae Gŵyl Croeso yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe
Byddwch yn barod i ddathlu Croeso mewn cydweithrediad a Tomato Energy o ddydd Gwener 28 Chwefror i ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025 ar draws dinas Abertawe. Mae Croeso'n ŵyl sy'n dathlu popeth Cymreig, o ddawnsio a cherddoriaeth, i fwyd a'r Gymraeg.
Bydd llawer o hwyl drwy gydol y penwythnos gydag arddangosiadau coginio byw, gan gynnwys Georgie Grasso, enillydd The Great British Bake Off 2024. Bydd mwy nag 20 o stondinau masnach ar hyd strydoedd y ddinas, yn ogystal ag adloniant byw, llwybr i blant a gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi Sant.
Peidiwch â cholli'r digwyddiad AM DDIM hwn!
Diolch Noddwr 2025
Tomato Energy – Prif noddwr
Nathaniel Cars - Noddwr y Babell Fawr Bwyd a Diod
First Bus – Partner Teithio
Y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - cefnogi'r Llwybr i Blant
Darganfod mwy Croeso
Dathlu 35 mlynedd o Plantasia yn ystod hanner-tymor
Mae'n anodd credu bod 35 mlynedd wedi mynd heibio ers i sŵ trofannol Plantasia agor ei ddrysau am y tro cyntaf. I lawer ohonom, mae'n llawn atgofion plentyndod – teithiau ysgol, anturiaethau yn y jyngl a'r teimlad rhyfeddol hwnnw o gamu i fyd trofannol.
Yn ystod hanner-tymor (22 – 28 Chwefror), rydym yn eich gwahodd i ail-fyw'r atgofion hynny a chael eich cyfareddu unwaith eto. Ymunwch â ni am wythnos o ddathlu, sy'n rhan o'ch mynediad cyffredinol.
Dewch i greu campwaith gyda chrefftau cardiau pen-blwydd, ennill gwobr gyffrous ar lwybr jyngl, a chael rhodd am ddim i bob plentyn* wrth i ni nodi'r garreg filltir arbennig hon.
Dewch i weld yr hyn sydd wedi newid, ailddarganfod yr hyn rydych wedi dwlu arno a dathlu gyda ni a'n hanifeiliaid anhygoel yn ein jyngl dan do hudolus.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl!
*Mae rhoddion am ddim yn amodol ar argaeledd.
Rhagor o wybodaeth
Gweithgareddau Hanner Tymor – Chwaraeon ac Iechyd Abertawe
Gwersyll Aml-gampau (8-14 oed) 📍Canolfan Hamdden Llandeilo Ferwallt 📅 24 Chwefror ⏰10:00-15:00 💷 £15
Diwrnod cyffrous o chwaraeon gan gynnwys pêl-fasged, pêl-bicl a chyfeiriannu. Rhaid cadw lle (01792) 235040
Gwersyll Us Girls (8-14 oed) 📍Canolfan Hamdden Pen-lan 📅 25 Chwefror ⏰ 10:00-15:00 💷 £7.50
Chwaraeon, gweithgareddau ffitrwydd a gweithdai gwell iechyd yn arbennig i ferched. Rhaid cadw lle (01792) 588079
Beicio Mynydd (11-14 oed) 📍Dyffryn Clun 📅 26 Chwefror 10:00-12:00 ac ⏰ 13:00-15:00 💷 £5
Anturiaethau beicio mynydd cyffrous dan arweiniad arweinwyr beicio mynydd profiadol. Rhaid cadw lle yma
Gwersyll Gemau Stryd (8-14 oed) 📍Canolfan Hamdden Cefn Hengoed 📅 27 Chwefror⏰10:00-15:00 💷 £7.50
Chwaraeon trefol difyr i bawb gan gynnwys tennis bwrdd, pêl-foli a mwy. Rhaid cadw lle (01792) 798484
Chwaraeon ac Iechyd Abertawe
Canolfan Dylan Thomas yn ystod hanner-tymor
Mae hanner-tymor yn rhoi cyfle gwych i deuluoedd ymweld â Chanolfan Dylan Thomas. Archwiliwch yr arddangosfa barhaol sy'n ymwneud â Dylan Thomas, bardd a llenor byd-enwog o Abertawe, lle byddwch yn gweld llu o arddangosion rhyngweithiol cyn galw heibio'r man dysgu am chwarae hunanarweiniedig.
Mae gweithgareddau'n cynnwys ysgrifennu creadigol, pypedau, gemau, cornel ddarllen, crefftau a gwisg ffansi, a'r rhain i gyd wedi'u hysbrydoli gan yr anifeiliaid sy'n ymddangos yng ngwaith Dylan. Hefyd, bydd cyfres o weithdai ddydd Gwener pan gewch gyfle i greu eich mwgwd anifail eich hun.