Mae gwyliau'r haf wedi dechrau ac mae Bae Abertawe, lle mae'r môr yn cwrdd â'r bryniau a phob llwybr yn arwain at antur newydd, yn llawn gweithgareddau gwych i'w mwynhau yn yr awyr agored sy'n addo awyr iach, hwyl ac atgofion bythgofiadwy. Cymerwch gip ar uchafbwyntiau awyr agored y ddinas...

Singleton Boating Lake

Llyn Cychod a Golff Gwallgof Singleton

Gallwch logi pedalo a hwylio ar draws y llyn ymysg yr elyrch ar ddreigiau - mae antur yn aros amdanoch! Beth am brofi eich sgiliau ar y cwrs golff gwallgof yng ngwyrddni Parc Singleton? Cadwch lygad am y dinosoriaid sy'n cuddio yn y coed!

Ar agor 10am - 6pm bob dydd yn ystod gwyliau'r haf. 

Singleton Boating Lake's Mini Golf Course

Lido Blackpill

Mae Lido Blackpill yn cynnwys pwll padlo am ddim â nodweddion dŵr a maes chwarae cyfagos ychydig gamau i ffwrdd o'r traeth, ac mae'n berffaith i deuluoedd. Beth am fynd i fwynhau'r lido cyn mynd am dro neu feicio ar hyd prom Abertawe?

Ar agor bob dydd yn ystod gwyliau'r haf.  

Blackpill Lido

Trên Bach Bae Abertawe

Neidiwch ar Drên Bach Bae Abertawe, trên bach sydd â 72 o seddi sy'n dilyn llwybr rheilffordd gwreiddiol y Mwmbwls rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend yn y Mwmbwls. Dyma'r ffordd hawdd o fwynhau golygfeydd Prom Abertawe!

Ar agor 10am - 6pm bob dydd yn ystod gwyliau'r haf. 

Swansea Bay Rider Land Train

Golff Gwallgof a Gerddi Southend

Mae Gerddi Southend dafliad carreg o lan y môr y Mwmbwls, ac mae'n lle gwych i fwynhau ychydig o hwyl i'r teulu. P'un a ydych yn chwaraewr golff gwallgof profiadol neu'n rhoi cynnig am y tro cyntaf, bydd y cwrs golff gwallgof yn sicr o'ch diddanu. Ar ôl eich gêm, gallwch fwynhau'r lle chwarae i blant a'i nodweddion newydd difyr sy'n cysylltu'r gerddi â'r prom.

Ar agor 10am - 6pm bob dydd yn ystod gwyliau'r haf. 

southend gardens mini golf