Penwythnos Celfyddydau Abertawe
11 - 12 Hydref
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe’n ddathliad deuddydd AM DDIM o greadigrwydd, diwylliant a chymuned yng nghanol dinas Abertawe.
Fe'i cynhelir ddydd Sadwrn 11 Hydref rhwng 10am a 11pm a dydd Sul 12 Hydref rhwng 10am ac 11pm, a bydd yr ŵyl yn trawsnewid y ddinas yn ganolfan o ysbrydoliaeth, gan ddod â cherddoriaeth, celfyddydau gweledol, a pherfformiadau byw at ei gilydd i bawb eu mwynhau.
Dros y penwythnos, gall ymwelwyr archwilio cymysgedd deinamig o raglenni wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion a theuluoedd. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Cerddoriaeth a Pherfformiadau Byw - o dalentau lleol i berfformwyr gwadd arbennig, a fydd yn llenwi lleoliadau a mannau awyr agored â sain ac egni.
- Arddangosfeydd a Gosodiadau - sy'n arddangos gwaith cymuned greadigol ffyniannus Abertawe ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.
- Gweithdai a Phrofiadau Rhyngweithiol – cyfleoedd ymarferol i bobl o bob oedran fod yn greadigol, dysgu sgiliau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau artistig unigryw.
- Adloniant Stryd a Digwyddiadau Dros Dro - perfformiadau a chyfleoedd chwarae annisgwyl ar draws canol y ddinas.
- Sgyrsiau am y diwydiant - sesiynau llawn gwybodaeth gyda rhai o dalentau gorau Cymru.
Mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe, y mae orielau, mannau digwyddiadau, theatrau a lleoliadau awyr agored i gyd yn cymryd rhan ynddo, yn fwy na gŵyl gelfyddydol yn unig – mae'n gyfle i ddathlu creadigrwydd, ymgysylltu â'r gymuned a darganfod rhywbeth newydd ar bob cyfle.
P'un a ydych wedi dwlu ar y celfyddydau erioed neu'n chwilio am ddiwrnod allan difyr, mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n addo ysbrydoliaeth, adloniant a phrofiadau bythgofiadwy i bawb.

