🎃Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus 🎃
🎟️AM DDIM
📅25 Hydref, 3pm - 8pm
📍St Davids Place a Pharc Amy Dillwyn, Abertawe
Byddwch yn barod am ddechrau brawychus i hanner tymor mis Hydref ddydd Sadwrn 25 Hydref wrth i greaduriaid chwyddadwy enfawr a bwystfilod sy'n cerdded o gwmpas feddiannu canol dinas Abertawe!
Mae ein digwyddiad blynyddol AM DDIM, Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus, a gefnogir gan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, wedi cael diweddariad arswydus. Yn ogystal â hwyl i'r teulu yn St Davids Place, bydd parth newydd sbon ym Mharc Amy Dillwyn yn eich diddanu ac yn gyrru ias i lawr eich cefn.
St Davids Place
Ewch i'r prif lwyfan adloniant, a gefnogir gan Dechrau'n Deg, lle bydd amserlen lawn o berfformiadau i'ch diddanu. Bydd perfformiadau cabaret creaduriaid, amser stori, gemau a chystadleuaeth gwisg ffansi, felly bydd rhywbeth i'r teulu cyfan.
Cadwch lygad am angenfilod sy'n crwydro o amgylch yr ardal.
Cystadleuaeth Gwisg Ffansi
Am 4.30pm gallwch gymryd rhan mewn cystadleuaeth gwisg ffansi, felly gwisgwch eich gwisg frawychus orau ac ymunwch yn yr hwyl. Mae 4 categori a bydd cyfle i gystadleuwyr ennill amrywiaeth o wobrau o Plantasia, Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe, Comic Con Abertawe, Laserzone a Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe:
- Anghenfil Gorau – Iau
- Anghenfil Gorau - Oedolyn
- Anghenfil Gorau – Grŵp/Teulu
- Gwisg Orau
Parc Amy Dillwyn
Dewch i'n hardal newydd os ydych chi'n ddigon dewr.
Bydd angenfilod sy'n cerdded o gwmpas yno drwy gydol y digwyddiad.
Ymunwch â Mark Rees am sgwrs ar 'Galan Gaeaf yng Nghymru: Llên Gwerin, Angenfilod a Mannau Mwyaf Bwganllyd Abertawe' sy'n archwilio ochr dywyll y ddinas. Bydd y sgwrs yn digwydd am 4pm ac am 7pm.
Angenfilod Anferth
Allwch chi weld yr holl angenfilod chwyddadwy yn St Davids Place a Pharc Amy Dillwyn? Byddant yn cynnwys creadur enfawr chwyddadwy ag wyth tentacl, felly fyddwch chi ddim am golli'r arddangosfeydd trawiadol hyn.
Bwth Ffotograffau
Beth am fynd i'r stondin Joio i gael eich llun am ddim a anfonir atoch drwy e-bost fel atgof o'r digwyddiad?
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi'n chwilio am gyffro neu’n dwlu ar Galan Gaeaf neu'n chwilio am ffordd unigryw o archwilio Abertawe, mae Ysbrydion yn y Ddinas: Angenfilod Afreolus yn addo amser hynod o dda i deuluoedd a phlant o bob oedran.
Cynnig Gofal Plant Cymru - prif bartner cefnogi Ysbrydion yn y Ddinas

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.
Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru'n ceisio lleihau'r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych wedi'i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i'ch teulu.
Mae'r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu'n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai'r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Peidiwch â cholli'ch cyfran chi o'r cyllid gofal plant.
https://www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch
Dechrau'n Deg - yn cefnogi'r adloniant ar y llwyfan yn St David's Place

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.
Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:
• Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
• Gofal plant am 2.5 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymor yr ysgol.
Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol:
Gwirio'ch cymhwystra a gwneud cais. https://account.swansea.gov.uk/earlyyears/eligibility/index