Mae’r hydref wedi cyrraedd ac mae’n amser gwych o’r flwyddyn i roi eich esgidiau cerdded ymlaen a mynd allan am dro ym Mae Abertawe…byddwch yn sicr o gael llawer o awyr iach a gweld golygfeydd gwych! A ph’un a ydych chi’n gwisgo’ch esgidiau cerdded am y tro cyntaf neu’n gerddwr profiadol, ym Mae Abertawe mae gennym lwybrau hawdd ar gyfer teithiau hamddenol yn ogystal â theithiau cerdded ar gyfer yr heiciwr mwyaf profiadol! Rydym wedi mynd am dro trwy ein tudalennau cerdded ac wedi rhestru pump o’n ffefrynnau isod, ond gyda bron i 400 milltir o lwybrau troed ym Mae Abertawe, ni fyddwch yn brin o leoedd i grwydro!

1. Taith hamddenol ar hyd … Y Prom.

Gallwch gerdded o ganol y ddinas i’r Mwmbwls ar hyd y darn gwastad, pedair milltir hwn o lwybr yr arfordir, gan gynnwys hygyrchedd gwych, a golygfeydd o Fae Abertawe a Phen y Mwmbwls – ac efallai cewch fwynhau hufen ia arobryn yn Verdi’s ar ddiwedd y daith (nid yw byth yn rhy oer i gael hufen iâ!).

2.  Perlau arfordirol … Llwybr yr Arfordir i Fae Caswell

Mae’r rhan hardd hon o Lwybr Arfordir Gŵyr yn ymlwybro ar hyd y clogwyni o Fae Langland i Fae Caswell. Mae 700 metr o’r llwybr hwn o Langland, a ailwynebwyd yn ddiweddar, bellach yn hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Cymerwch saib yn Langland’s Brasserie i fwyta bwyd môr lleol neu tapas wrth edrych dros y bae.

3. Ymgollwch yn y goedwig… Coed Cwm Penllergaer.

Mae gan y baradwys gudd hon o oes Fictoria, sydd wedi’i hadennill gan fyd natur, gyfoeth o deithiau cerdded coediog, ar hyd llynnoedd a rhaeadrau (peidiwch â cholli cipryswydden y gors yn y llyn sydd wedi troi’n oren tywyll). Ewch i’r siop goffi i gael siocled poeth i’ch cynhesu (peidiwch ag anghofio’r hufen a’r malws melys!) a phowlen o gawl poeth. Mae’r babell hefyd wedi’i gwresogi, felly mae’n gynnes iawn yma – a’r peth gorau yw bod croeso hefyd i’ch ci! Cadwch lygad allan am y cyffylogiaid gwibiog o Benllergaer, pilaod gwyrdd, dyfrgwn, tylluanod, hebogiaid Marthin ac ystlumod!

4. Dilynwch eich llwybr eich hun … Llwybr Gŵyr.

Mae’r llwybr uchelgeisiol hwn mewn tair rhan (nid oes rhaid i chi eu cerdded i gyd ar unwaith) ac yn mynd â’r cerddwr profiadol o benrhyn Gŵyr yn Rhosili dros amrywiaeth o dirweddau, gan ddringo i fyny i Benlle’r Castell, y pwynt uchaf ym Mae Abertawe a oedd unwaith yn safle i gaer ganoloesol.

5. Pen y daith… Taith i Ben Pyrod.

Profwch un o olygfeydd mwyaf eiconig Cymru trwy ddilyn y llwybr gwastad i lawr i Ganolfan Gwylio Arfordir Rhosili – os ydych chi’n bwriadu mentro i’r sarn i Ben Pyrod – peidiwch ag anghofio galw heibio i’r ganolfan yn gyntaf i wirio amseroedd y llanw. Ar ôl mynd am dro, galwch heibio The View neu’r Worm’s Head Hotel i fwyta gyda Bae Rhosili yn y cefndir.

Os ydych chi am ddarganfod mwy o deithiau cerdded, ewch i’n tudalennau cerdded!