Ewch mas i fanteisio i'r eithaf ar y diwrnodau hir a braf ar ein traethau, yn ein parciau a'n hatyniadau awyr agored hardd. Mae'r haf bob amser yn adeg brysur o'r flwyddyn ym Mae Abertawe, ac nid yw 2025 yn eithriad. Darllenwch ymlaen i ddarganfod beth sydd ar y gweill ym mis Gorffennaf, a chadwch lygad am ein llyfryn Joio'r Haf lliwgar yn y mannau casglu arferol i weld beth arall sydd ar ddod!
Sioe Awyr Cymru - 5 a 6 Gorffennaf
Mae'r Red Arrows, awyrennau Hedfan Coffa Brwydr Prydain, tîm arddangos Typhoon a thîm arddangos Tutor wedi'u cadarnhau ar gyfer dydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf, gan roi arddangosiadau erobateg anhygoel yn yr awyr dros Fae Abertawe dros ddau ddiwrnod Sioe Awyr Cymru 2025. Ac mae mynediad i’r digwyddiad gwych hwn AM DDIM!

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Ydych chi’n barod i fwynhau Haf o Hwyl yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? Bydd gwledd o weithgareddau a digwyddiadau yma yn yr amgueddfa ar gyfer y teulu cyfan!
- Dewch i Gyfarfod y Gwenyn (£4yp) ar 28 Mehefin, 26 Gorffennaf a 30 Awst.
- Rhowch gynnig ar Argraffu Cerdyn Post ar ein Gwasg Argraffu (AM DDIM) ar 21–22 Gorffennaf, 1–2, 11–12 a 25–26 Awst.
- Byddwch yn greadigol yn ein sesiynau Creu Gyda Cardfwrdd (£3 y plentyn) ar 24, 31 Gorffennaf a 7 Awst.
- Codwch y tô gydol ein dathliadau Diwrnod Chwarae Cenedlaethol (AM DDIM) ar 6 Awst.
- Defnyddiwch eich sgiliau dylunio ac adeiladu yn Her FAWR K'Nex (AM DDIM) ar 14, 21 a 28 Awst.
- Dysgwch fwy am sut mae robotiaid yn gweithio yn ein Gweithdy Lego Roboteg (£2.50 y plentyn) ar 27 Awst.

Ironman 70.3 Abertawe - 13 Gorffennaf
Mae'r digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe lle gwerthwyd pob tocyn yn dychwelyd ddydd Sul 13 Gorffennaf. Dewch i wylio'r cannoedd o gystadleuwyr yn nofio 1.2 milltir o amgylch y doc, beicio 56 milltir o amgylch penrhyn Gŵyr a rhedeg 13.1 milltir yn ôl i'r dref. Arbennig! A fyddwch chi'n cefnogi'r cystadleuwyr?

Pencampwriaethau Achub Bywyd y Gymanwlad 10 - 13 Gorffennaf
Byddwch yn barod am Bencampwriaethau Achub Bywyd y Gymanwlad y Royal Life Saving Society (RLSS) yn Abertawe! Ymunwch â ni am benwythnos bythgofiadwy o ddewrder, sgiliau ac ysbryd cymunedol ym Mhencampwriaethau Achub Bywyd yr RLSS, yma yn Abertawe!
Dewch i wylio achubwyr bywyd gorau'r DU wrth iddynt gystadlu â rhai o wledydd y Gymanwlad mewn cystadlaethau cyffrous sy'n profi cyflymder, cryfder ac arbenigedd achub bywydau. O achubiadau dramatig i rasys cyfnewid llawn egni, mae pob digwyddiad yn arddangos doniau ac ymrwymiad yr arwyr go iawn hyn.
• Lleoliad: Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe
• Dyddiadau: 10-13 Gorffennaf 2025
• Ffi fynediad: £15
Ymunwch â'r dathliad difyr hwn ar gyfer yr achubwyr bywyd sy'n cadw ein dyfroedd yn ddiogel!

Sinema Awyr Agored - 26 a 27 Gorffennaf
Mwynhewch benwythnos o ffilmiau clasurol ar 26 a 27 Gorffennaf gyda'r Sinema Awyr Agored ar y Cae Lacrosse, Parc Singleton. Teithiwch yn ôl i'r 60au a mwynhewch daith ramantus gyda Dirty Dancing neu gallwch fentro i Amity Island i wylio cymuned dan ymosodiad siarc gwyn mawr yn y dangosiad i ddathlu 50 mlynedd ers rhyddhau Jaws. Neu, beth am wylio'r ddwy ffilm?
Digwyddiadau sydd ar ddod!
Theatr Awyr Agored - 13 a 14 Awst
Bydd y theatr awyr agored yn dychwelyd i diroedd delfrydol Castell Ystumllwynarth yn ystod yr haf. Bydd y castell hanesyddol yn cynnig cefndir i berfformiadau anhygoel o ddau glasur bytholwyrdd: Pride and Prejudice ddydd Mercher 13 Awst a The Wind in the Willows ddydd Iau 14 Awst. Archebwch eich tocynnau nawr!

Amplitude - 16 a 17 Awst
Ymunwch â ni yn Amffitheatr Abertawe (y tu allan i LC Abertawe) am Amplitude, ddau ddiwrnod o gerddoriaeth wych ar draws gwahanol genres, o indi-roc i jazz a phop i gerddoriaeth werin, gyda pherfformiadau byw gan rai o artistiaid anhygoel yr ardal, bydd digonedd i bawb ei fwynhau. Ac yn goron ar y cyfan – mae’ digwyddiad AM DDIM!

Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 4 - 7 Medi
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni, a gynhelir yng nghanol Ardal Forol y ddinas, yn addo dathliad bythgofiadwy arall o gerddoriaeth wych.
P'un a ydych wedi bod yn frwd dros jazz ers blynyddoedd neu'n newydd-ddyfodiad iddo, mae rhywbeth i bawb yn y digwyddiad deinamig hwn sy'n addas i deuluoedd, lle bydd y ddinas yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gyffrous llawn creadigrwydd a rhythm.
Ewch ar-lein i weld y rhestr lawn o berfformwyr ac i archebu tocynnau, yna paratowch i ymgolli yn yr awyrgylch cyffrous a rhythm y gerddoriaeth.


