Mae'r cennin pedr yn eu blodau ac mae'r diwrnodau braf wedi codi hwyliau preswylwyr ac ymwelwyr ym Mae Abertawe. Rydym wedi llunio canllaw o bethau cyffrous i'w gwneud yn Abertawe y mis hwn ac ar ôl hynny. P'un a ydych yn chwilio am hwyl gyda’r teulu a ffrindiau, neu antur unigol yn y ddinas, darllenwch ymhellach i ddarganfod eich diwrnod nesaf allan! Mae'r gwanwyn yn ei anterth bellach!
Gyda gwyliau'r Pasg ar y gorwel, beth am greu'r diwrnod perffaith allan i'r teulu yn Abertawe drwy deithio i'n hatyniadau awyr agored? Mae un ardal nodedig o 5 milltir ym Mae Abertawe'n cynnig hwyl i'r holl deulu. O 5 Ebrill bydd yn bosib i chi fwynhau'r pedalos elyrch, ungorn a ddraig yn Llyn Cychod Singleton, cyn chwarae ar ein cwrs golff gwallgof ag 18 twll. Mae gan yr elyrch a'r gwyddau yn Llyn Cychod Parc Singleton gymdogion newydd...dywedwch helô wrth y dinosoriaid! Mae'r bwystfilod cyfarwydd hyn wedi cael eu rhoddi'n garedig gan Day’s Motor Park. On'd ydyn nhw'n edrych yn wych? Mae croeso i chi fynd i'w gweld yn eu cartref newydd. Gallwch hyd yn oed gael hunlun gyda nhw, a chofiwch ein tagio! #joioabertawe 😊 Mynd i Erddi Southend am rownd o golff bach neu deithio ar hyd Prom Abertawe mewn steil ar Drên Bach y Bae. Bydd Lido Blackpill hefyd yn agor yn ddyddiol o ddydd Gwener 2 Mai i ddydd Sul 28 Medi 2025. Mwynhewch aer y gwanwyn yn ein hatyniadau awyr agored
Gall ymwelwyr bellach archwilio hanes cyfoethog a phensaernïaeth nodedig y castell mawreddog hwn saith niwrnod yr wythnos. Mae'r castell ar agor o 11am i 5pm (mynediad olaf am 4.30pm). Dewch i ymuno yn y teithiau tywys AM DDIM, sy'n dechrau am 11.30am bob dydd Mercher, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sul. Dyma eich cyfle i ddarganfod y straeon sy'n dod â'r castell yn fyw! Ni fyddwch am golli'r holl ddigwyddiadau difyr sydd yn yr arfaeth yn y gwanwyn! Nodwch y rhain yn eich calendrau: ⚔️ Gwerin y Gŵyr - 5 Ebrill 🐰 Helfa Wyau Pasg gyda Bwnis y Castell - 20 Ebrill 🏆Gemau Calan Mai – 5 Mai 🔥Goleuo Ffagl – 8 Mai 🧸Picnic Tedi Bêrs – 26 Mai Mae Castell Ystumllwynarth wedi agor ei ddrysau'n swyddogol ar gyfer tymor 2025
Fel arfer, dim ond unwaith y flwyddyn y bydd clwb yn cael cyfle i gynnal gêm ddarbi gorllewin Cymru (ydych chi'n cofio'r cais hynod hwyr hwnnw gan Iestyn Hopkins i ennill y gêm dros y Nadolig?). Ond eleni bydd ail gyfle unigryw. Bydd y Gweilch yn croesawu eu cymdogion o'r gorllewin am yr eildro y tymor hwn nos Sul, 6 Ebrill. Bydd y gic gyntaf am 5.30pm. Byddant yn cwrdd yn rowndiau diweddarach cystadleuaeth Ewropeaidd am y tro cyntaf erioed wrth i'r Gweilch geisio cyrraedd wyth olaf Cwpan Her yr EPCR am yr ail flwyddyn yn olynol. Gêm na ddylech ei cholli yw hon. Mae mwy na balchder lleol yn y fantol. Mae tocynnau lletygarwch ar gael yma. Gadewch i ni gefnogi’r Gweilch wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn Caerdydd yng ngêm Dydd y Farn X ar 19 Ebrill! Pob lwc i’r Gweilch! Y Gweilch yn erbyn y Scarlets – archebwch eich tocynnau nawr!
10.00am - 4.30pm, ddydd Mercher i ddydd Sul: Mae llwybr 'Hoff Losin Dylan' yn cynnwys jariau losin bach sydd wedi'u cuddio o amgylch yr arddangosfa - dewch o hyd i bob un ohonynt i ennill gwobr! 10am - 4.30pm - ddydd Mercher i ddydd Sul: Harddangosfa Dwlu Ar y Geiriau am ddim sy'n addas i deuluoedd yn adrodd stori bywyd, gwaith a chyd-destun diwylliannol Dylan Thomas. 10am -12.30pm, 25 Ebrill: Gweithdy Tawel i Deuluoedd Papur blodau gwyllt a barddoniaeth. Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ac ymarferol, i ddysgu sut i wneud papur blodau gwyllt sydd ychydig yn wahanol i'r arfer! 1.00pm - 4.00pm, 25 Ebrill: Gweithdy i’r Teulu: Papur blodau gwyllt a barddoniaeth. Ymunwch â ni am weithgaredd creadigol ac ymarferol, i ddysgu sut i wneud papur blodau gwyllt sydd ychydig yn wahanol i'r arfer! Mae ein man dysgu sy’n addas i deuluoedd ar agor ar gyfer chwarae hunanarweinedig am ddim! Mae gweithgareddau'n cynnwys ysgrifennu creadigol, pypedau, gemau, cornel ddarllen, crefftau a dillad gwisgo lan, gyda'r cyfan wedi'i ysbrydoli gan yr anifeiliaid yng ngwaith Dylan. Hwyl i'r Teulu yng Nghanolfan Dylan Thomas
Gwahoddir pobl i fwynhau'r gwanwyn trwy gofrestru ar gyfer Ras am Oes Abertawe Cancer Research UK! Cynhelir digwyddiadau Ras am Oes ym Mharc Singleton ac ar Parc Amgueddfa yn Abertawe ac maent yn agored i bobl o bob oedran a gallu. Ar ddydd Sadwrn 17 Mai, bydd cyfle i gymryd rhan yn 'Pretty Muddy', sef cwrs rhwystrau 5km mwdlyd, ac mae opsiwn 'Pretty Muddy Kids' i blant rhwng 6 a 12 oed. Ar ddydd Sul 18 Mai, gall pobl ddewis rhwng rasys 5km a 10km. Mae digwyddiadau poblogaidd yr elusen, sy'n codi arian am ymchwil sy'n achub bywydau, yn dychwelyd i'r ddinas. Gall unrhyw un sy'n cofrestru rhwng dydd Llun 17 Mawrth a dydd Sul 6 Ebrill gael 30% oddi ar y pris cofrestru fel rhan o gynnig arbennig gan ddefnyddio'r côd 25SPRING. Mae'r arian a godir ar gyfer Ras am Oes yn galluogi gwyddonwyr i ddod o hyd i ffyrdd newydd o atal, diagnosio a thrin canser, er mwyn creu byd lle gall pawb fyw bywydau hirach a gwell heb ofni canser. Mae Croeso i bawb yn ras am oes Abertawe!
Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu’r dorf yn Sioe Awyr Cymru’r haf hwn. Dyma’r enw mawr cyntaf a gadarnhawyd ar gyfer y digwyddiad deuddydd nodedig am ddim a gynhelir ym Mae Abertawe ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf a dydd Sul 6 Gorffennaf. Bydd y Red Arrows, sy’n enwog am arddangosiadau awyr gwefreiddiol a hedfan manwl gywir, yn perfformio ar y ddau ddiwrnod eleni, gan roi cyfle i gefnogwyr weld trefniannau nodweddiadol, symudiadau brawychus ac olion mwg coch, gwyn a glas disglair. Paratowch am arddangosiadau awyr gwefreiddiol ar draws Bae Abertawe, gweithgareddau cyffrous ar y ddaear a stondinau bwyd blasus i bawb eu mwynhau! Paratowch ar gyfer Sioe Awyr Cymru ym mis Gorffennaf
Wrth i'r gwanwyn gyrraedd, dyma'r amser delfrydol i ddechrau ymarfer yn yr awyr agored ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral. Os ydych wedi gorffwys ar eich rhwyfau yn ystod y gaeaf, gallwch adennill eich nerth drwy redeg yn hamddenol yng nghanol golygfeydd godidog Bae Abertawe. Gan na chaiff y digwyddiad mawr ei gynnal tan 14 Medi, mae gennych ychydig fisoedd i fagu eich gallu'n raddol tuag at redeg 10k, hyd yn oed os ydych newydd ddechrau. Mae cyfleoedd i bob oedran gymryd rhan, gan gynnwys rasys 1k a 3k i bobl ifanc. Cofrestrwch i gymryd rhan yn 10k Bae Abertawe Admiral