Bydd Croeso, dathliad Dydd Gŵyl Dewi sy'n para deuddydd yn dychwelyd i Abertawe gyda phen-cogyddion, diwylliant, cerddoriaeth fyw a llawer o hwyl!

Bydd Croeso, mewn cydweithrediad â Shirgar, yn dod ag awyrgylch gwych i ganol dinas Abertawe, gyda chymysgedd amrywiol o adloniant. Bydd dathliad y ddinas o bopeth Cymreig yn dychwelyd ddydd Sadwrn 28 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth, gan addo penwythnos difyr i bawb.

Gall ymwelwyr edrych ymlaen at amserlen gyffrous o berfformiadau, gan gynnwys sgyrsiau, barddoniaeth, sesiynau holi ac ateb gyda phobl flaenllaw o Gymru a llwyfan cerddoriaeth ac arddangosiadau coginio byw sydd wedi'u cynllunio i ysbrydoli a phlesio'r rhai hynny sy'n dwlu ar fwyd.

Bydd yr ŵyl am ddim hon a gyflwynir gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Shirgar, ac sy'n cael ei chefnogi gan Bwyd a Diod Cymru, yn llawn gweithgareddau cyffrous.

Mae'r cyfan am ddim, felly mae croeso i chi archwilio'r gwahanol leoliadau ar draws canol y ddinas a chael cip ar unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi.

Bydd bwyd a diod yn ganolbwynt yng ngŵyl Croeso. Crwydrwch drwy'r stondinau ac ewch i ddarganfod rhai o'r cynnyrch lleol gorau sydd ar gynnig gan wneuthurwyr a thyfwyr ledled Cymru. Os ydych yn chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth, peidiwch â cholli'r arddangosiadau coginio gan rai o ben-cogyddion a chogyddion cartref gorau'r DU, a fydd yn siŵr o dynnu dŵr o'ch dannedd. Cymerwch gip isod i weld pwy fydd yn arddangos eu sgiliau yng ngŵyl Croeso eleni:

Dydd Sadwrn 28 Chwefror

11:00 Katie Davies

Katie Davies

Cyrhaeddodd Katie Davies yr wyth olaf yng nghystadleuaeth Britain’s Best Home Cook ar BBC One gyda Mary Berry.  Mae'n fam i 4 o blant hyfryd ac mae'n ymdrin â galwadau 999 gyda Heddlu De Cymru. Mae Katie yn gogydd cartref brwd, a chanddi ddawn cyfuno cynhwysion anghyffredin. Mae hi bob amser yn chwilio am flasau neu weadeddau newydd i'w defnyddio yn ei choginio cartref godidog. Llwyddodd Katie i synnu a syfrdanu'r beirniaid gyda'i chreadigrwydd a'i chwaeth pryd bynnag y byddai'n coginio, ac yn enwedig ei defnydd o gynnyrch lleol o Gymru.  

12:00 Jonathan Woolway - The Shed

Jonathan Woolway

Ar ôl 16 mlynedd yn gweithio ochr yn ochr â'r enwog Fergus Henderson fel Pen-Cogydd a Chyfarwyddwr yng ngrŵp byd enwog St. JOHN Restaurant yn Llundain, dychwelodd Jonathan, brodor o Abertawe, i'w dref enedigol i agor bwyty The Shed ym mis Chwefror 2024.  Yn fuan wedi hyn, cafodd ei gynnwys yn y Michelin Guide, The Good Food Guide a 100 bwyty gorau'r DU SquareMeal (rhif 48), ochr yn ochr ag adolygiadau disglair gan The Guardian, The Telegraph a'r Financial Times ymysg eraill. Hyrddyn Llwyd Wedi'i Ffrio Mewn Colslo Coch a Rhuddygl (PDF)

13:00 Bara Brith gyda Shirgar - Holi ac Ateb gyda Leon Britton a Kevin Johns

Leon Britton holding a large silver cup trophy

Byddwch yn barod i fwynhau chwerthin, blasau lleol a sgyrsiau cyfeillgar wrth i arwr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe Leon Britton ymuno â Kev Johns ddydd Sadwrn 28 Chwefror am 1pm yn y babell arddangosiadau coginio byw ar Portland Street.

Diolch i'n prif noddwyr Shirgar, gall gwesteion fwynhau bara brith a menyn a phice ar y maen wrth i Leon gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb wrth iddo siarad am ei yrfa wych ym myd pêl-droed, ei amser yng nghlwb pêl-droed Dinas Abertawe a'i fywyd yng Nghymru. Bydd Kev wrth law i ychwanegu digon o gyffro, wrth gwrs.

Gall pawb sy'n galw heibio gymryd rhan yn ein raffl wobrau am ddim i ennill basged Shirgar sy'n llawn nwyddau Cymreig.

Mae Leon Britton yn parhau i fod yn un o chwaraewyr mwyaf eiconig oes fodern clwb pêl-droed Dinas Abertawe ac roedd yn ffigwr allweddol wrth i'r clwb symud o'r Ail Gynghrair i'r Uwch-gynghrair. Mae'n un o ffefrynnau'r cefnogwyr wrth i'w ffyddlondeb arwain at gyfnod bythgofiadwy.

14:00 Sam & Shauna Hang Fire BBQ

Sam and Shauna

Dechreuwyd 'Hang Fire' gan Samantha Evans a Shauna Guinn yn 2013 ar ôl pererindod farbeciw 6 mis i daleithiau deheuol UDA, gan ymweld â chymunedau i ddysgu diwylliant barbeciwio'n araf ar dymereddau isel. Oherwydd eu hegni, eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth fanwl am bob agwedd ar fwyd barbeciw maent bellach yn llysgenhadon arweiniol llwyddiannus iawn ar gyfer coginio yn yr awyr agored, a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Mae'r pâr wedi ennill llawer o wobrau ar gyfer eu dulliau coginio cynaliadwy, moesegol, ac mae eu huchafbwyntiau'n cynnwys ennill gwobr 'Bwyty Gorau' Observer Food Monthly, gwobr 'Bwyty Gorau' Slow Foods UK, y wobr 'Bwyd Stryd Gorau' yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC yn 2015, ac enillwyr gwobr Entrepreneur y Flwyddyn' NatWest.

Maent wedi creu a chyflwyno'u cyfres coginio eu hunain ar BBC One, 'Sam & Shauna’s Big Cookout', ac maent wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu Saturday Kitchen a Masterchef The Professionals. Maent yn feirniaid ar gyfer Gwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC a'r Gwobrau Bwyd Stryd Ewropeaidd. Maent yn cyflwyno, yn coginio ac yn arwain llawer o lwyfannau arddangos ac ardaloedd pyllau tân ar draws gwyliau mwyaf poblogaidd y DU bob blwyddyn ac yn cymryd rhan mewn gwyliau rhyngwladol yn Ewrop ac Awstralia. Nhw yw awduron y llyfr coginio 'Hang Fire; Adventures in American BBQ’ sy'n boblogaidd ar draws y byd, ac maent yn cyfrannu'n rheolaidd i gyhoeddiadau bwyd a diod cenedlaethol. Maent yn cynnal eu hysgol farbeciw boblogaidd eu hunain yng Nghymru.
 

15:00 Blasu Gwin gyda Antoinette Milne UWTSD

3 glasses of wine

Ymunwch â ni am sesiwn blasu gwin ddifyr dan arweiniad Antoinette Milne, Darlithydd mewn Rheoli Gastronomeg Ryngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac Addysgwr Gwin ardystiedig WSET arobryn. Mae ganddi brofiad helaeth yn y diwydiannau gwin yn y DU a Chanada ac mae'n gweithio fel beirniad yn rownd derfynol Cymru a'r byd ar gyfer cystadleuaeth gwin YYY, felly mae gan Antoinette wybodaeth eithriadol ac angerdd heintus am win.

Bydd y sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad i winoedd Cymru, gan archwilio mathau o rawnwin lleol, dylanwad yr hinsawdd, a beth sy'n gwneud Cymru'n rhanbarth gwin cyffrous sy'n dod i'r amlwg. Bydd Antoinette yn tywys y gynulleidfa drwy hanfodion blasu gwin,

gan flasu gwinoedd o Gymru drwy ddefnyddio dull blasu systematig WSET i drafod argraffion, arogleuon a blasau mewn ffordd hygyrch a difyr. Bydd y sesiwn yn gorffen gyda throsolwg byr o gymwysterau gwin WSET a gynigir yn PCYDDS a sesiwn holi ac ateb ddifyr.

Dydd Sul 1 Mawrth

 

11:00 James Freeman, Prif Cogydd Beach House Oxwich

James Freeman chef

Mae James wedi bod yn coginio mewn ceginau seren Michelin ers 2007. Ar hyn o bryd, ef yw pen-cogydd Beach House sydd â seren Michelin. Cyn hyn roedd yn ben-cogydd ym mwyty House yn Iwerddon sydd ag un seren Michelin.

Eleni byddwn yn dathlu 10 mlynedd ers i fwyty Beach House agor. Hywel Griffith yw'r cyfarwyddwr coginio. Mae'r bwyty wedi cael cydnabyddiaeth Michelin ers 6 blynedd a 3 rhoséd gan yr AA. Mae'r bwyty ym Mae Oxwich ac mae'n rhan o The Seren Collection.

12:00 Georgia Grasso (GBBO 2024)

Georgia Grasso

Mae Georgie (enillydd The Great British Bake Off) yn falch iawn o'i thras Gymreig-Eidalaidd ac mae hi'n byw mewn ffermdy gyda'i theulu yn ogystal â 10 o ieir, 2 hwyaden, 2 gi a chath. Mae hi eisoes wedi bod ar daith arbennig wrth ennill The Great British Bake Off ac mae hi'n edrych ymlaen at gael rhagor o anturiaethau eleni. Teisen Dorth Lemwn a Mafon (PDF)

 

13:00 Beca Lyne Perkis (S4C/ GBBO)

Beca Lynne Perkis

 

14:00 Alun Wyn Jones

Alun Wyn Jones

Mae Alun Wyn Jones, y chwaraewr rygbi sydd â’r nifer mwyaf o gapiau yn y byd a wnaeth gyrraedd rownd derfynol Celebrity MasterChef, yn dod â'i awch am fwyd o'r sgrîn i'r llwyan. Yn yr arddangosiad coginio hwn, bydd Alun yn mentora myfyriwr Rheoli Gastronomeg Rhyngwladol, gan gynnig cyfle unigryw iddo baratoi un o'r seigiau trawiadol y gwnaeth Alun ei goginio ar MasterChef yn fyw. Wrth i'r saig ddod at ei gilydd, bydd Alun yn rhannu mewnwelediad i'r gystadleuaeth, ei ddewisiadau bwydlen creadigol a'i daith yn cyrraedd y rownd derfynol. Bydd gwesteion yn cael y cyfle i ofyn eu cwestiynau eu hunain, ac wrth gwrs, i fwynhau saig o safon MasterChef wedi'i baratoi o'u blaenau.

15:00 Blasu Gwin gyda ND John

ND John logo

Caiff gwinoedd Cymreig eu harddangos yn y sesiwn flasu arbennig hon gan fasnachwr gwin sefydledig Abertawe, ND John. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cipolwg gwych i chi ar y mathau gwahanol o win sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru yn 2026, gan eich helpu i ddod o hyd i ffefrynnau newydd. Profiad dysgu gwych a llawer o hwyl hefyd!

Cyflwynir y sesiwn gan yr arbenigwr Chris James. Mae ei wybodaeth am gynhyrchwyr gwin Cymreig heb ei ail ac mae'n dilyn poblogrwydd ei brofiadau blasu gwin diymhongar yn Uplands sy'n denu pobl sy'n mwynhau gwin o bob cwr o'r byd.

 

Croeso Abertawe mewn cydweithrediad â Shirgar

Shirgar

Mae Menyn Cymreig Shirgar yn falch iawn o gefnogi digwyddiad Croeso Cyngor Abertawe, a gynhelir yn ystod penwythnos Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r digwyddiad yn dathlu hunaniaeth Gymreig, arweinyddiaeth ddinesig a chydweithio, felly mae'n berffaith ar gyfer brand Shirgar.

Ar gyfer Menyn Shirgar, mae'r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad cryf i gymuned, dilysrwydd a balchder yng Nghymru. Fel brand Cymreig balch, mae Menyn Shirgar yn gwerthfawrogi cyfleoedd sy'n dod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i rannu syniadau, cryfhau cysylltiadau a dathlu lle. Mae cynnal y digwyddiad yn ystod penwythnos Dydd Gŵyl Dewi yn rhoi ystyr arbennig iddo, gan gysylltu llywodraethu modern â chyfnod o ddathlu cenedlaethol a hunaniaeth ddiwylliannol.

Mae cefnogi digwyddiad Croeso yn atgyfnerthu rôl Menyn Shirgar fel brand sy'n hyrwyddo treftadaeth leol, ymgysylltu cadarnhaol a chroeso cynnes. Mae Menyn Shirgar yn falch o fod yn gysylltiedig â digwyddiad sy'n arddangos Abertawe fel dinas hyderus sy'n edrych i’r dyfodol, sy’n seiliedig ar werthoedd Cymreig cryf.
 

Noddir Cymeriadau ar Grwydr gan Nathaniel Cars

Nathaniel Cars Logo

 


Noddir Llwyfan Plant Gŵyl Croeso gan Gynnig Gofal Plant Cymru Croeso

Childcare Offer for Wales

Cael hyd at 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed
 

Noddir Gweithgareddau Cymraeg i Blant ar y Llwyfan gan Dîm Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar

Swansea Family Information Service logo

Mae Tîm Comisiynu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn falch o noddi diddanwr plant Cymraeg yn nigwyddiad Croeso Abertawe ar 28 Chwefror ac 1 Mawrth. Mae ein cefnogaeth yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyrwyddo'r Gymraeg o'r blynyddoedd cynnar a chryfhau cyfleoedd i blant a theuluoedd brofi diwylliant Cymru drwy chwarae. 
Eleni, rydym wedi cynnig grant i ddathlu'r Gymraeg i leoliadau gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar ar draws Abertawe, gan eu galluogi i gynllunio gweithgareddau Cymraeg ystyrlon a arweinir gan blant yn eu lleoliadau. Mae noddi digwyddiad Croeso'n ein galluogi i ehangu'r dathliad hwn, gan ddod â theuluoedd ynghyd yng nghanol y ddinas i fwynhau adloniant AM DDIM o ansawdd uchel. 
Mae digwyddiad Croeso'n cynnig rhaglen fywiog i blant, pobl ifanc ac oedolion hŷn o bob oed, sy'n arddangos cerddoriaeth, bwyd, diwylliant a gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd. Rydym yn falch iawn o helpu i sicrhau bod profiadau Cymraeg yn hygyrch, yn llawen ac yn ganolog i ddysgu a datblygiad plant. 

www.childcareinformation.wales/servicedetail?localauthoritycode=W06000011 

www.facebook.com/swanseafis/

Noddir Gweithgareddau Cymraeg i Blant yn y Babell Pawb a Phopeth gan ddarpariaeth Dechrau'n Deg

Flying Start logo

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu Gofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.

Mae gofal plant Dechrau'n Deg yn cynnig:

•            Gofal plant rhan-amser, o ansawdd uchel, a ariennir ar gyfer plant rhwng 2 a 3 oed drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

•            Gofal plant am 2.5 awr y dydd, hyd at 12.5 awr yr wythnos, yn unol â thymor yr ysgol.

Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am Ofal Plant Dechrau’n Deg drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol:

Gwirio'ch cymhwystra a gwneud cais.