'Gwledd I'r Llygaid' Arddangosfa Tân Gwyllt Nos Mercher 5 Tachwedd 2025 o 5pm
Mae Arddangosfa Tân Gwyllt Flynyddol enwog Cyngor Abertawe yn ôl a’r thema eleni yw archarwyr!
🗓️ Nos Mer, 5 Tachwedd 2025
📍Maes San Helen, Abertawe
⏰ 5pm – 8pm (tân gwyllt am 7.30pm)
Adloniant
Am un noson yn unig, bydd archarwyr yn ymweld â Maes San Helen. Bydd adloniant byw, cyfleoedd i gwrdd â chymeriadau a diweddglo tân gwyllt trawiadol.
🎭Bydd eich hoff arwyr a dihirod yno, fel Spiderman, Wonder Woman, Deadpool a Groot!
🎶Gallwch fwynhau perfformiadau a cherddoriaeth ar thema archarwyr, a sioe tân gwyllt wych 20 munud o hyd.
🍔Bydd bwyd a diod hynod flasus ar gael gan werthwyr bwyd ar y safle.
Mae tocynnau ymlaen llaw yn rhatach ac yn gwerthu'n gyflym.
Bwytewch gyda ni!
Bydd bwyd, diodydd a byrbrydau ar gael i'w prynu gan werthwyr bwyd ar y safle
Tocynnau
Tocynnau yn dechrau o £4 yn unig
|
Math o Docyn |
Pris ymlaen llaw |
Pris ar y diwrnod |
|
Oedolion |
£5 |
£6 |
|
Plant/Consesiwn |
£4* |
£5 |
|
Pasbort i Hamdden |
£3** |
£4 |
|
Teulu o 4 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 2 gonsesiwn) |
£12 |
£17 |
|
Teulu o 5 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 3 gonsesiwn) |
£14 |
£19 |
Bydd prisiau i deuluoedd o 4 (2 oedolyn a 2 blentyn) a theuluoedd o 5 (2 oedolyn a 3 phlentyn) yn cael eu gostwng yn awtomatig i'r pris i deuluoedd wrth y ddesg dalu.
*Plant 3 oed ac yn iau - AM DDIM
*Consesiynau: Plant dan 16 oed, y rheini dros 65 oed a myfyrwyr a chanddynt gerdyn adnabod myfyrwyr dilys.
**Bydd angen dangos cardiau Pasbort i Hamdden ar y noson.
Mae tocynnau ar-lein ar gael tan ganol nos ar nos Fawrth 4 Tachwedd. Ar ôl hynny gellir talu wrth y gât ar y diwrnod.
Parcio a Theithio
Cynhelir yr arddangosfa ym Maes Rygbi a Chriced San Helen, Bryn Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AR.
Os ydych yn bwriadu dod i'n Harddangosfa Tân Gwyllt, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein gwybodaeth am barcio a theithio ar-lein. Mae gwybodaeth am sut i gyrraedd y maes, lleoliadau ein meysydd parcio ar gyfer y digwyddiad, darpariaeth Parcio a Theithio a threfniadau cau ffyrdd cynlluniedig a mwy.
Cwestiynau Cyffredin
Rydym wedi creu adran Cwestiynau Cyffredin ddefnyddiol i ateb eich holl gwestiynau a’ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe eleni!