Rydych chi wedi paratoi cannoedd o becynnau cinio, wedi helpu gyda gwaith cartref ac wedi llwyddo i ollwng y plant yn yr ysgol a'u casglu. Yna mae hanner tymor mis Hydref yn cyrraedd.... ac mae rhywun bob amser yn llwglyd. Dydy'r WiFi ddim yn gweithio! Ac rydych chi'n brin o syniadau i ddifyrru pawb.
Os yw'n teimlo fel bod pob diwrnod yn waith caled, trefnwch wyliau haeddiannol i'ch hun ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.
Nid oes angen croesi'r môr i ddod o hyd i antur y bydd y teulu cyfan yn ei mwynhau. Gyda rhaglen lawn o ddigwyddiadau i'r teulu ar draws Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr, ni fydd unrhyw un yn cwyno ei fod wedi diflasu yn ystod eich gwyliau ym mis Hydref...
Daw Diwrnod y Meirw Mecsico i Abertawe wrth i ddigwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas feddiannu canol dinas Abertawe. Bydd cymeriadau sy'n crwydro, adloniant byw, a digonedd o hwyl Calan Gaeaf i bob oedran.
Bydd darpar helwyr dreigiau a thywysogesau wrth eu bodd yn archwilio'r Castell Arswydus, a bydd hyd yn oed plant yn eu harddegau yn chwilfrydig pan fydd holl gyfrinachau’r nos yn Calan Gaeaf ar Benrhyn Gŵyr yn cael eu datgelu.
Beth am fwynhau digwyddiadau Calan Gaeaf ym mhenrhyn Gŵyr? Mae gŵyl bwmpenni fwyaf Cymru’n cyfuno digwyddiadau adrodd straen y gellir ymgolli ynddynt â digwyddiadau hynod frawychus i'r rheini sy'n ddigon dewr i fynd iddynt.
Ewch i gwrdd â chymeriadau a chreaduriaid brawychus yn y digwyddiad 'Happy Halloween' yn Sw Drofannol Plantasia.
Byddwch yn greadigol drwy fynd i sesiwn Celf a Chrefft a LEGO Bwganllyd am ddim yn Founders & Co neu gall ddarpar wyddonwyr gael eu hysbrydoli yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe a gynhelir yn flynyddol.
Am eiliad o ryfeddod, sefwch o dan Gaia, ailgread syfrdanol o'r ddaear, sy'n cael ei arddangos yn lleoliad trawiadol Mystwyr Abertawe.
Archwiliwch filltiroedd o arfordir ar ein traethau sy'n croesawu cŵn heb dorfeydd yr haf. Ewch i ddarganfod crancod, berdys a gwlithod môr yn y pyllau trai, neu casglwch greigiau wrth ymyl y traeth o dan awyr ddramatig mis Hydref.
Ewch i barciau a gerddi'r ddinas, neu archwiliwch lwybrau coetir Penllergare, lle mae dail crensiog ac anturiaethau'r goedwig yn aros amdanoch.
Arsylwch ar wartheg yn pori ar dir comin Cefn Bryn, a chofiwch eich ysbienddrychau ar gyfer saffari bywyd gwyllt i'r teulu, lle gallwch gadw llygad am adar hirgoes ac ymwelwyr tymhorol eraill.
Wrth i'r diwrnod ddod i ben, gwisgwch yn gynnes, gwnewch siocled poeth a chwtshwch lan i wylio un o sioeau gorau natur: machlud haul ysblennydd dros yr arfordir, cyn syllu ar y sêr yn yr awyr dywyll syfrdanol.
Mae pob gwyliau gwych i deuluoedd yn dechrau gyda'r lle perffaith i aros. A fyddwch chi'n dewis gwesty bwtîc ger y môr, neu fwthyn clyd yng nghefn gwlad o dan y sêr?
P'un a ydych chi'n cynllunio seibiant gyda mam-gu neu dad-cu, gwyliau gyda phlant yn eu harddegau, neu antur i archwilwyr bach, byddwch chi’n dod o hyd i lety sy'n addas ar gyfer pob cyllideb, pob teulu a phob math o wyliau ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod ym mhle i gael bwyd a diod i’r teulu cyfan ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr fel nad oes rhaid i unrhyw un gwyno ei fod yn llwglyd.
Am awgrymiadau da ar gyfer bwyta allan fel teulu, ewch i'r adran Bwyd a Diod ar ein gwefan.
Ac os oes gennych fag llawn byrbrydau ond does dim un ohonynt yn gwneud y tro, peidiwch â phoeni! Mae cynnyrch lleol ffres, danteithion Cymreig blasus a ffefrynnau'r teulu ar gael ym marchnad dan do fwyaf Cymru.
Mae'n bryd i chi roi eich sgriniau heibio a mwynhau awyr iach y môr, rhoi'r gorau i waith cartref a mynd ar antur, a newid y drefn arferol am amser o safon fel teulu.
Gwnewch Fae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn #LleHapus i’ch teulu yn ystod hanner tymor mis Hydref.