Yr ŵyl fwyaf o'i bath yng Nghymru!

Mae'n bleser mawr gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi bod Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe'n dychwelyd a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 26 a 27 Hydref, rhwng 10am a 4pm yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Bydd yr ŵyl eleni yn cael ei chynnal yn yr amgueddfa ynghyd â pherfformiadau anhygoel yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe.

 

Mae'r Ŵyl yn dechrau gyda digwyddiad gwych a gynhelir cyn dechrau'r penwythnos yn Taliesin ddydd Gwener 25 Hydref, sy'n cynnwys ‘The Magical Mr West’ a'i berfformiad cyfareddol, Crafty Fools. Cynhelir y digwyddiad terfynol ddydd Llun 28 Hydref gyda’r cyflwynydd teledu adnabyddus, Andy Day a’i sioe gyffrous, Andy’s Dino Rap. Gweler Mwy o’r Ŵyl Wyddoniaeth am ragor o fanylion am y sioeau hyn a sioeau cyffrous eraill.


Bydd uchafbwyntiau'r penwythnos yn cynnwys gweithdy rap gwyddoniaeth gyda'r cyflwynydd Jon Chase, sgyrsiau difyr gyda'r seren TikTok Big Manny, y fforiwr nodedig Ray Mears a'r cyflwynydd teledu bywyd gwyllt, Megan McCubbin.

Croeso i Ŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Yn ogystal â'r arddangosiadau am ddim, gelli di gadw lle ar lawer o weithdai ymarferol a sgyrsiau llawn ysbrydoliaeth. Ymchwilia i ddirgelion y cefnfor, darganfydda ryfeddodau trydan a chlywed straeon pobl sy'n llywio dyfodol gwyddoniaeth. P'un a wyt ti am feithrin sgiliau, archwilio neu ddysgu, mae rhywbeth i bawb! Rydym yn argymell cadw lle'n gynnar ac mae disgownt o 30% pan fyddi di'n cadw lle ar gyfer tri neu fwy o ddigwyddiadau.