Wrth i'r haf ddirwyn i ben, ac wrth i’r dail ddechrau crino o dan eich traed, mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn trawsnewid yn hafan hydrefol i wylwyr bywyd gwyllt, cerddwyr a ffotograffwyr fel ei gilydd. 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded a darganfyddwch Fae Abertawe fel y gwnaeth Iolo Williams! Ailgysylltwch â natur, rhowch hwb i'ch lles a dewch o hyd i ryfeddodau byd natur ble bynnag yr ewch. 

Saffari'r Hydref Iolo ym Mae Abertawe 

O dwyni gwyntog Blackpill, drwy erddi lliwgar ac i lwybrau coediog Parc Gwledig Dyffryn Clun, dilynwch ôl troed Iolo ar daith o'r arfordir i gefn gwlad, gan ddarganfod y bywyd gwyllt rhyfeddol sy'n ffynnu ar draws Bae Abertawe bob hydref. 

Cadwch lygad am... 

  • Robiniaid cochion ac gylfinirod 
  • Hegydd arfor  
  • Ffyngau paled y peintiwr a chwpanau duon  

Wyddech chi... Parc Gwledig Dyffryn Clun, ardal 700 erw, yw unig barc gwledig yr ardal. Mae’n gartref i goetir, dolydd a gwlyptiroedd sy'n darparu hafan i fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn.

Robin on a log

Saffari'r Hydref Iolo yng ngogledd Gŵyr  

Mae gogledd Gŵyr yn un o gyfrinachau gorau'r ardal, gan gynnig ochr wylltach i'r penrhyn. Ymunwch ag Iolo ar daith o dwyni garw Whiteford i forfeydd heli tawel Cwm Iorwg. 

Cadwch lygad am... 

  • Biod y môr yn bwydo ar y fflatiau llaid ac arwyddion o'r gnocell fraith fwyaf.  
  • Iâr fach yr haf brych y coed 
  • Ffyngau'r cap inc aflêr 

Wyddech chi... Goleudy Whiteford, a adeiladwyd ym 1865 ac sy'n 44 troedfedd o uchder, yw'r unig oleudy haearn bwrw sydd ar ôl yn Ewrop gyfan!  

Whiteford Lighthouse at high tide

Saffari'r Hydref Iolo yn ne Gŵyr 

Darganfyddwch y tirweddau a dynnodd sylw Iolo, o'r traeth baner las arobryn ym Mhorth Einon, drwy warchodfa Sedger's Bank ac ymlaen i goetir hynafol a siambrau Neolithig Coed y Parc. Mae lliwiau'r hydref, adar yr arfordir a ffyngau diddorol yn gwneud hon yn antur dymhorol werth chweil. 

Cadwch lygad am... 

  • Fulfrain a phibydd y tywod 
  • Melyn yr hwyr yn y twyni, ac erwain 
  • Ffwng y belen ddu'n ffynnu ar goed ynn 

 Wyddech chi... Yr hen Dŷ Halen a adeiladwyd ar ddechrau'r 16eg ganrif yw'r unig dŷ halen o'i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru ac fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol i smyglo nwyddau i'r lan. 

Iolo Williams standing next to a wooden owl.

Blasau'r hydref yn ein haros  

Ar ôl treulio diwrnod yn archwilio rhai o hoff lwybrau bywyd gwyllt Iolo, cynheswch a mwynhewch damaid i'w fwyta haeddiannol ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. 

O dafarndai traddodiadol a chaffis clyd i fistros glan môr a bwytai croesawgar, mae digon o leoedd ar gael i chi gael bwyd ar ôl eich antur hydrefol. 

Gyda phen-cogyddion yn gwneud yn fawr o gynhwysion lleol ffres, dydych chi byth yn bell o brofiad bwyta cofiadwy.

Two women in front of a pub fire drinking hot chocolate at a table.

Arhoswch ychydig yn hirach  

O westai chwaethus yn y ddinas i fythynnod gwledig hyfryd, trowch eich antur bywyd gwyllt yn ddihangfa braf yn yr hydref. 

Gallwch ddeffro'n agos at rai o dirweddau mwyaf ysblennydd Bae Abertawe, gyda thraethau, llwybrau coetir ac arfordiroedd sy'n llawn bywyd gwyllt ac o fewn cyrraedd hawdd.

Hotel room bed with Welsh tapestry cushion

Gwyliwch y fideos, gwisgwch eich esgidiau cerdded a darganfyddwch pam mae'r hydref yn un o'r tymhorau mwyaf gwerth chweil i brofi harddwch naturiol Bae Abertawe. 

Ewch adref wedi'ch ysbrydoli yn hytrach nag wedi blino'n lân. Dilynwch ôl troed Iolo a dewch o hyd i'ch #LleHapus ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yr hydref hwn.