Amodau a Thelerau Cystadlu

  1. Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn cytuno i gadw at yr amodau a'r telerau hyn. 
  1. Rhaid cofrestru drwy'r neges am y gystadleuaeth ar Facebook
  1. Does dim ffi gystadlu/does dim angen prynu unrhyw beth er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. 
  1. Mae'n rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn i gystadlu ac mae'n rhaid i chi fod yn gymwys i gymryd rhan mewn digwyddiad Ironman, heb unrhyw gyflyrau meddygol sy'n eich atal rhag cystadlu yn nigwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe sy'n cynnwys:
  1. Nofio am 1.2 milltir (1.9km)
  2. Beicio am 56 milltir (90km)
  3. Rhedeg cwrs dau lap 13.1 milltir (21.1km)
  1. Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno fesul person ar gyfer y gystadleuaeth hon. Bydd y sawl sy'n cyflwyno mwy nag un cais yn cael ei wahardd o’r gystadleuaeth. 
  2. Ni chaniateir i weithwyr Gwasanaethau Diwylliannol, Parciau a Glanhau Dinas a Sir Abertawe a'u haelodau teulu agosaf na phartneriaid y gystadleuaeth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon. 
  3. Y dyddiad cau yw hanner nos ar 15 Mehefin 2025.
  4. Caiff yr enillwyr eu dewis yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 16 Mehefin a byddwn yn cysylltu â nhw'n uniongyrchol.
  5. Bydd y ddau enw cyntaf a ddewisir yn ennill un lle yn nigwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe ac arhosiad i ddau berson mewn ystafell glasurol yng ngwesty Morgans ar 13 Gorffennaf 2025.
  6. Mae'r arhosiad yng ngwesty Morgans yn cynnwys yr ystafell yn unig ac nid yw'n cynnwys bwyd a diod.
  7. Nid oes modd dewis arian na rhywbeth arall yn lle'r wobr. 
  8. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o'r holl geisiadau a dderbynnir. 
  9. Caiff yr enillwyr eu dewis gan Ddinas a Sir Abertawe. Mae penderfyniad Dinas a Sir Abertawe yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth yn ei gylch. 
  1. Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n cadw'r hawl i gyhoeddi enwau'r enillwyr. 
  2. Mae enillwyr yn cytuno i gymryd rhan mewn deunydd cyhoeddus a marchnata yn unol â'r gwobrau. Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i) lluniau, fideos, erthyglau am yr enillwyr, a gofynnir i'r enillwyr ddarparu cynnwys megis blogiau a dyfyniadau.
  1. Mae enillwyr yn cytuno i gydymffurfio â Rheolau Swyddogol Cystadleuaeth IRONMAN 70.3 Abertawe
  2. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am hyn cyn y defnyddir yr wybodaeth hon. 

Ironman logo
Morgans logo